Croeso i Gwasanaethau Gwybodaeth (G.G.) - Darllenwyr Cysylltiol (Sconul)
Mae Prifysgol Aberystwyth yn rhan o'r Cynllun Mynediad Sconul ac yn croesawu Defnyddwyr o Sefydliadau eraill sy'n cymryd rhan i ddefnyddio llyfrgelloedd y Brifysgol.
Gallwch wirio a yw'ch Sefydliad yn cymryd rhan yn y cynllun ar wefan Sconul access. (Os nad yw eich sefydliad cartref yn aelod sy'n cymryd rhan, gallwch barhau i ddefnyddio ein cyfleusterau Ymwelwyr.)
Bydd angen i chi gwblhau'r broses ar gyfer Aelodaeth Sconul access gyda'ch sefydliad cartref cyn dod i Aberystwyth.
I drefnu Aelodaeth Sconul Llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth, bydd angen i chi cwblhau'r ffurflen gais am fynediad Sconul.
Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfeiriol yn unig ar gyfer israddedigion o sefydliadau eraill.
Mae defnydd o gyfleusterau Prifysgol Aberystwyth yn ôl cytundeb Rheoliadau, Polisïau a Chanllawiau a bydd arnoch angen cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth a Cherdyn Aber.
Mae eich cyfrif cyfrifiadurol yn eich galluogi i:
Bydd modd i chi actifadu eich cyfrif TG prifysgol ar-lein unwaith y bydd eich cais am aelodaeth Sconul PA wedi'i phrosesu. Anfonir e-bost atoch gyda chyfarwyddiadau i wneud hyn pan fydd eich cyfrif yn barod.
Caiff eich Cerdyn Aber ei ddefnyddio at y dibenion canlynol:
- Benthyca o’r llyfrgell gan gynnwys defnyddio’r peiriannau hunan-fenthyca
- Defnyddio'r llyfrgell tu allan i oriau craidd (i ddod mewn neu i adael)
- i lungopïo
- i argraffu o e-bost
- i sganio i e-bost
Unwaith y byddwch wedi actifadu eich cyfrif TG dylech wneud cais am eich Cerdyn Aber ar-lein fel ei fod yn barod i chi pan fyddwch yn cyrraedd y campws.
Defnyddio Llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth
Mae croeso i ddarllenwyr SCONUL ddefnyddio ein terfynfa 'Cerdded i Mewn i Adnoddau Electronig'
Mae'r gwasanaeth 'Mynediad i Mewn i Adnoddau Electronig' yn rhoi mynediad i ddefnyddwyr SCONUL i nifer o adnoddau electronig, megis e-gyfnodolion a chronfeydd data, lle mae cytundebau trwyddedu'n caniatáu. Oherwydd y cytundebau trwyddedu hyn, ni allwn gynnig mynediad llawn i ddefnyddwyr SCONUL i'n hadnoddau ar-lein.