Rheoliadau Gwasanaethau Llyfrgell
Rhagymadrodd
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhoi gwybodaeth i holl ddefnyddwyr Gwasanaethau Llyfrgell am y rheolau sy’n llywio’r defnydd a wneir o adnoddau a gwasanaethau Llyfrgell. Cynlluniwyd y rheoliadau i sicrhau bod yr holl ddefnyddwyr yn cael y cyfle gorau posibl i ddefnyddio'r adnoddau a’r gwasanaethau yn gywir. Gallai anwybodaeth am gynnwys y rheoliadau achosi anghyfleustra i ddefnyddwyr eraill a dirwyon a chosbau ichi, felly rhowch amser i’w darllen. Mae Safonau Gwasanaeth Llyfrgell yn dangos safon y gwasanaeth y mae gennych hawl i’w ddisgwyl gennym ni. Rydym ninnau yn gofyn ichi gadw at y Rheoliadau a nodir yma er eich lles eich hun a defnyddwyr eraill.
Ni all y Rheoliadau ddarparu ar gyfer pob sefyllfa, ac rydym yn cydnabod y cyfyd achosion lle na fydd modd cyfiawnhau cadw at ddehongliad hollol fanwl o’r rheolau. Cysylltwch ag aelod o staff Llyfrgell cyn gynted â phosibl os ydych yn rhagweld trafferthion, ac fe geisiwn roi cymorth cyn i broblemau godi. Os ydych yn anfodlon â’r modd y caiff unrhyw un o’r Rheoliadau hyn eu gweithredu neu â'r ffordd y cawsoch eich trin gan aelod o’r staff, dylai staff y Brifysgol, ymwelwyr ac aelodau o’r cyhoedd droi at drefn gwyno’r Gwasanaethau Llyfrgell.
Dylai myfyrwyr ddilyn trefn gwyno’r Brifysgol.
Cyffredinol
1.1 Fel rheol, dim ond gan ddefnyddwyr cofrestredig mae’r hawl i gael defnydd llawn o wasanaethau ac adnoddau Llyfrgell, ac mae’r defnydd hwnnw'n amodol ar gadw at y Rheoliadau, a’r canllawiau cysylltiedig a fydd mewn grym ar y pryd. Mae’r Rheoliadau hyn yn berthnasol hefyd i ddefnyddwyr sy’n cerdded i mewn, ymwelwyr a gwesteion. Caiff y Rheoliadau eu diweddaru o bryd i’w gilydd, oherwydd newidiadau yn y gyfraith ac i adlewyrchu profiad defnyddwyr lleol. Bydd yn rhaid i bob defnyddiwr gydymffurfio â’r newidiadau. Caiff newidiadau mawr eu cyhoeddi trwy fwletin wythnosol PA, sy’n cael ei e-bostio at bob defnyddiwr cofrestredig, a thrwy we-ddalen Statws Gwasanaethau PA. Cymerir yn ganiataol felly bod defnyddwyr cofrestredig yn ymwybodol o’r Rheoliadau hyn, ac unrhyw ganllawiau a pholisïau cysylltiedig, sydd i’w gweld ar we-ddalennau’r Brifysgol, a’u bod yn cytuno i gadw atynt.
1.2 Mae’r teitl Gwasanaethau Llyfrgell drwyddi draw yn y Rheoliadau hyn yn golygu unrhyw un neu holl wasanaethau Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth, a’r adeiladau lle mae gwasanaethau o’r fath yn cael eu darparu. Mae defnydd yr adnoddau yn golygu defnydd cysylltiedig â gwaith academaidd, gweinyddol neu fusnes y Brifysgol, neu ddefnydd personol gan ddefnyddwyr cofrestredig. Mae'r gair 'Prifysgol' yn y Rheoliadau hyn drwyddi draw yn cyfeirio at Brifysgol Aberystwyth.
1.3 Mae gan staff Llyfrgell hawl i godi tâl am wasanaethau penodol, fel y gwelir o'r wybodaeth sydd wedi ei harddangos yn y Llyfrgell neu mewn cyhoeddusrwydd cyffredinol.
1.4 Mae gan Gyfarwyddwr Taith y Myfyriwr awdurdod i ddileu breintiau Llyfrgell i unrhyw ddefnyddiwr ac i bennu dirwy neu unrhyw gosb briodol arall am dorri’r Rheoliadau. Gall y Cyfarwyddwr ddirprwyo’r hawl i aelod arall o staff Llyfrgell i bennu dirwy neu i atal adnoddau. Gellir dweud wrth yr awdurdodau priodol am unrhyw weithred o eiddo'r Cyfarwyddwr o dan y Rheoliad hwn.
1.5 Mae’r holl ddefnyddwyr yn addo i warantu Prifysgol Aberystwyth rhag unrhyw weithred, achos, gweithrediadau, archebion a chostau (gan gynnwys costau neu dreuliau cyfreithiol dilys ac unrhyw gostau iawndal a thaliadau a delir gan y Brifysgol yn ôl cyngor eu cynghorwyr cyfreithiol i gyfaddawdu neu setlo achos o unrhyw fath) a wynebir gan y Brifysgol o ganlyniad i unrhyw dramgwydd gan y defnyddiwr yn erbyn rheoliadau Llyfrgell neu’n erbyn cyfraith gwladol neu ryngwladol.
Defnyddio Gwasanaethau Llyfrgell
2.1 Mae gan aelodau o staff a myfyrwyr sydd wedi eu cofrestru yn y Brifysgol, ynghyd ag eraill sydd â breintiau yn rhinwedd y ffaith eu bod yn aelodau o’r Brifysgol, hawl i ddefnyddio adnoddau’r Llyfrgell. Ar ôl i fyfyrwyr sefyll eu harholiadau terfynol, nid ydynt ar dir i gael defnydd llawn o’r adnoddau. Ar ôl graddio gallant gofrestru i fod yn ddarllenwyr cysylltiol yn unol â rheoliad 2.3.
2.2 Gall graddedigion y Brifysgol ddefnyddio’r llyfrgelloedd at ddibenion. Codir tâl am freintiau (darllenydd cysylltiol).
2.3 Mae gan staff a myfyrwyr o rai sefydliadau penodol eraill hawl i ddefnyddio adnoddau Llyfrgell yn unol â thelerau cytundeb rhwng y sefydliad a’r Brifysgol. Rhaid i’r defnyddwyr gytuno i gydymffurfio â Rheoliadau Gwasanaethau Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth.
2.4 Rhaid i unrhyw ddefnydd o adnoddau Llyfrgell at ddibenion masnachol gael ei awdurdodi gan Gyfarwyddwr Taith y Myfyriwr, a gellid codi tâl am weithgaredd o’r fath.
Ymddygiad
3.1 Rhaid i ddefnyddwyr gario'u Cerdyn Aber neu ddogfen adnabod arall ar bob adeg, a dylent fod yn barod i'w ddangos i staff Llyfrgell neu unrhyw aelod arall o staff awdurdodedig y Brifysgol sy'n gofyn am gael ei weld.
3.2 Gwaherddir unrhyw ymddygiad sy’n debygol o darfu ar ddefnyddwyr eraill, neu achosi anghyfleustra iddynt, neu o niweidio eiddo y Llyfrgell. Ni ddylai’r rhai sy’n defnyddio adnoddau Llyfrgell ymddwyn mewn modd sy'n debygol o ddwyn anfri ar y Brifysgol, ni ddylid amharu ar ddysgu, astudio, arholi, ymchwil na gweinyddiaeth y Brifysgol ac ni ddylid rhwystro unrhyw aelod o'r Brifysgol rhag dilyn ei astudiaethau neu gyflawni ei ddyletswyddau.
3.3 Ni ddylai defnyddwyr farcio, difwyno, na difrodi llyfrau, cylchgronau, cyfrifiaduron, peiriannau argraffu, nac unrhyw beth arall sy’n eiddo i Llyfrgell. Mewn achos o ddifrod o’r fath codir tâl am drwsio neu brynu o’r newydd yn ôl gofynion Cyfarwyddwr Taith y Myfyriwr.
3.4 Ni ddylai defnyddwyr geisio mynd ag unrhyw beth sy’n eiddo i Llyfrgell ymaith oni bai ei fod wedi ei fenthyca iddynt yn unol â’r rheoliadau. Mae gan bob aelod o staff Llyfrgell awdurdod i chwilio trwy lyfrau, bagiau, neu unrhyw eiddo eraill sydd ym meddiant defnyddwyr wrth iddynt gyrraedd neu adael adeiladau Llyfrgell. Mae hawl gan staff Llyfrgell fel mater o drefn i agor loceri’r llyfrgell sydd ar gael i ddefnyddwyr heb rybudd i'r defnyddiwr at ddibenion diogelwch, cynnal a chadw a thrwsio, chwilio am ddeunydd sydd heb ei fenthyca, a phob diben arall sy’n cael ei ystyried yn angenrheidiol.
3.5 Mae ysmygu/fêpio, bwyta bwyd poeth ac yfed alcohol a defnyddio sylweddau anghyfreithlon yn cael eu gwahardd yn adeiladau Llyfrgell. Rhaid i ddefnyddwyr gadw at y rheoliadau lleol ynglŷn â bwyta ac yfed.
3.6 Rhaid gadael mannau astudio ac ystafelloedd astudio Llyfrgell yn lân a thaclus ar ôl eu defnyddio.
3.7 Ni chaniateir dod ag anifeiliaid (ar wahân i’r rhai sy’n cynorthwyo yn ôl diffiniad polisi Anifeiliaid ar y Campws y Brifysgol) i unrhyw un o adeiladau Llyfrgell.
3.8 Ni chaniateir cadw seddi anffurfiol yn unrhyw un o adeiladau Llyfrgell. Gall staff symud unrhyw lyfrau neu eitemau eraill a adawyd yno am gyfnod o amser.
3.9 Nid yw’r Llyfrgell yn derbyn cyfrifoldeb ar unrhyw adeg am eiddo personol sy’n cael ei adael unrhyw le yn eiddo Llyfrgell, gan gynnwys loceri.
3.10 Rhaid troi dyfeisiau personol i’r modd tawel. Rhaid sicrhau nad oes modd clywed synau o glustffonau neu ddyfeisiau sain yn adeiladau Llyfrgell.
3.11 Caniateir defnyddio gliniaduron ac offer cyfrifiadurol trydanol arall yn adeiladau Llyfrgell os ydynt yn cael eu defnyddio mewn modd diogel ac nad ydynt yn achosi rhwystr neu berygl i ddefnyddwyr eraill. Cyfrifoldeb perchennog y cyfarpar fydd sicrhau ei fod yn ddiogel, a chaniateir ei ddefnyddio ar yr amod bod y perchennog yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw ddifrod a wneir i eiddo’r Brifysgol gan y cyfarpar hwnnw.
3.12 Rhaid i ddefnyddwyr gadw at gyfraith hawlfraint ac amodau unrhyw drwyddedau ar gyfer deunyddiau a ddefnyddir ganddynt. Ar we-ddalennau’r Brifysgol fe welir gwybodaeth am hawlfraint ac am gytundebau trwydded y Brifysgol â'r Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint ac â sefydliadau eraill sy'n cwmpasu deunydd print, clyweled, electronig a deunyddiau eraill.
3.13 Rhaid i ddefnyddwyr gadw at delerau Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU a Deddf Gwarchod Data 2018, neu ddeddfwriaeth gyfatebol mewn awdurdodaethau eraill lle mae’r Brifysgol yn gweithredu ynddynt, a pharchu’r canllawiau a ddarperir ar we-ddalennau’r Brifysgol.
3.14 Rhaid i ddefnyddwyr adael y llyfrgell erbyn amser cau, ac yn ddi-oed os clywir larwm tân neu ar gais staff Llyfrgell.
3.15 Rhaid i ddefnyddwyr roi gwybod i staff Llyfrgell yn ddi-oed am unrhyw ddamwain, neu unrhyw ladrad neu ddigwyddiad tebyg sy’n ymwneud ag eiddo Llyfrgell.
3.16 Ni ddylai defnyddwyr ffilmio na thynnu lluniau yn adeiladau Llyfrgell heb ganiatâd ymlaen llaw gan Llyfrgell a rhaid llenwi ffurflen ganiatâd Llyfrgell i Ffilmio a Thynnu Lluniau ar-lein.
3.17 E-bost yw ffurf swyddogol y Brifysgol o gysylltu â staff a myfyrwyr. Rhaid i ddefnyddwyr cofrestredig gadw golwg ar eu cyfrif e-bost Prifysgol Aberystwyth yn gyson rhag ofn bod yna ohebiaeth iddynt.
3.18 Mae'n rhaid i ddefnyddwyr drin defnyddwyr eraill a staff Llyfrgell â pharch a chwrteisi bob amser.
Benthyca
4.1 Mae defnyddwyr yn cael benthyca deunydd hyd at y lefel uchaf sy’n berthnasol i’w statws. Y Llyfrgell sy’n pennu’r lefelau hyn, ac mae manylion i'w gweld ar wefan Gwasanaethau Llyfrgell.
4.2 Rhaid i ddefnyddwyr ddefnyddio eu Cerdyn Aber i fenthyca deunydd, gan gynnwys offer, o unrhyw lyfrgell.
4.3 Ni ddylai defnyddwyr geisio mynd ag unrhyw ddeunydd nad yw ar gael i’w fenthyca, allan o unrhyw lyfrgell oni bai bod caniatâd wedi ei roi gan staff Llyfrgell. Daw peth deunydd penodol o dan drefn benthyca cyfyngedig.
4.4 Rhaid i ddefnyddwyr fynd ag eitemau a fenthycwyd o’r llyfrgell yn ôl erbyn y dyddiad a nodir, neu os ydynt yn derbyn cais galw nôl. Cyfrifoldeb defnyddwyr yw sicrhau eu bod mewn sefyllfa i ymateb yn brydlon i geisiadau i ddychwelyd benthyciadau. Bydd y Llyfrgell yn anfon rhybuddion, gan gynnwys rhybuddion galw nôl am eitemau ar fenthyg, i gyfeiriad e-bost Prifysgol y defnyddiwr. Dylai defnyddwyr allanol y llyfrgell, er enghraifft defnyddwyr cysylltiol, roi gwybod i'r Llyfrgell am unrhyw newid i’w manylion cyswllt er mwyn derbyn rhybuddion y Llyfrgell.
4.5 Nid oes gan ddefnyddwyr hawl i roi benthyg i unigolyn arall unrhyw lyfr nac unrhyw beth arall o eiddo Llyfrgell a fenthycwyd iddynt hwy.
4.6 Os bydd defnyddiwr yn colli llyfr neu unrhyw beth arall o eiddo Llyfrgell a fenthycwyd iddynt, disgwylir iddynt ad-dalu cost ei brynu yn ogystal. Os ceir hyd i’r eitem yn ddiweddarach a’i ddychwelyd i’r llyfrgell, ad-delir unrhyw gostau prynu.
4.7 Wrth anfon eitemau neu offer llyfrgell yn ôl i’r Llyfrgell, y defnyddiwr fydd yn gyfrifol am dalu’r costau oni bai y defnyddir gwasanaeth benthyca trwy’r post. Gallai hyn gynnwys costau mewnforio hyd yn oed wrth ddefnyddio gwasanaeth benthyca drwy’r post.
Cosbau
5.1 Am dorri unrhyw un o Reoliadau Llyfrgell nad ydynt wedi eu cynnwys yn Rheolau ehangach y Brifysgol, gall y cosbau gynnwys rhybudd, dirwy, neu atal dros-dro neu dynnu nôl yn llwyr yr hawl i ddefnyddio adnoddau Llyfrgell.
5.2 Os yw eiddo Llyfrgell yn cael ei ddifrodi neu ei golli bydd yn rhaid talu iawndal.
5.3 Yn unrhyw achos sy’n ymwneud â thorri Rheolau’r Brifysgol, pennir cosbau fel a nodir yn y rheoliadau Prifysgol priodol.
Trefn pennu cosbau
6.1 Yn achos cosbau yn gysylltiedig â golli eitemau, gellir pennu dirwy gan unrhyw aelod awdurdodedig o staff Llyfrgell yn unol â’r amrywiol raddfeydd presennol.
6.2 Yn achos torri unrhyw un arall o Reoliadau’r Llyfrgell, cyfeirir yr achos at Gyfarwyddwr Taith y Myfyriwr, neu’r sawl a enwebir ganddo/ganddi. Trafodir y mater rhwng y defnyddiwr, a all ddod ag unigolyn arall yn gwmni iddo/iddi, ac aelod priodol o staff Llyfrgell, ac os profir bod achos i’w ateb pennir cosb a fydd yn cyfateb i ddifrifoldeb y drosedd.
6.3 Mae myfyrwyr yn atebol i Weithdrefn Disgyblu Myfyrwyr y Brifysgol. Mae staff yn atebol i Weithdrefn Ddisgyblu’r Brifysgol.
6.4 Yn achos unrhyw dramgwydd difrifol yn erbyn Rheolau’r Brifysgol caiff yr achos ei gyfeirio at yr awdurdod priodol, er y bydd y Llyfrgell yn cadw’r hawl i gymryd camau disgyblaethol pellach fel sy’n briodol.
Diweddarir y Rheoliadau hyn gan Gwasanaethau Llyfrgell. Fe’u hadolygwyd ddiwethaf ym mis Ionawr 2026 a byddant yn cael eu hadolygu eto ym mis Ionawr 2027.
