Systemau acwariwm ar gyfer organebau morol a dŵr croyw

cyfleusterau acwariwm IBERS

Mae cyfleusterau acwariwm IBERS ar hyn o bryd yn cynnwys amryw o unedau llai seiliedig ar ymchwil, un prif acwariwm addysgu/ymchwil yn ogystal ag acwariwm ymchwil fawr sy’n cael ei chodi ar hyn o bryd.

Mae’r brif acwariwm addysgu yn “hyblyg” yn nhermau ei haddasu – sy’n ei gwneud yn bosibl i ymchwilwyr a myfyrwyr osod systemau cartrefu cylchynol neu gaeedig morol a dŵr croyw.

Mae tymheredd a goleuni’r ystafell yn cael eu rheoli’n gyfnewidiol a’u monitro’n gyson. Caiff dŵr y môr ei gludo’n rheolaidd o Fae Ceredigion i ail-lenwi’r gronfa y mae’r system forol gylchynol yn gweithredu ohoni, gan sicrhau bod samplau sy’n cael eu dwyn i’r uned i gael eu hastudio yn cael eu cartrefu mewn amgylchedd dyfrol sy’n debyg yn gemegol i’r amgylchedd y daethant ohoni - gan arbed straen i’r samplau. Gellir ail-greu cynefinoedd ac amgylcheddau addas ar gyfer arbrofion drwy ddefnyddio’r stoc fawr o danciau, swbstradau a chyfarpar sydd ar gael.

Mae dwy ystafell lai yn gysylltiedig â’r brif acwariwm, a thymheredd y ddwy yn cael eu rheoli’n unigol er mwyn bod yn addas ar gyfer rhywogaethau dŵr oer neu drofannol. Ar hyn o bryd mae un o’r ystafelloedd hyn yn cartrefu stoc fawr o rywogaethau pysgod trofannol, yn cynnwys ciclidau ‘convict’, gypïod domestig neu wyllt a physgod abwyd mangrof (yr unig fertebriad hunanffrwythlonol naturiol y gwyddys amdano). Mae’r pysgod hyn a fagwyd yn fewnol yn cael eu defnyddio’n aml mewn prosiectau traethawd gan fyfyrwyr israddedig fel modelau ymddygiadol ar gyfer dosbarthiadau ymarferol yn ymwneud ag ymddygiad anifeiliaid.

Mae’r cyfleuster yn cael ei redeg gan ddau Swyddog Gofal a Lles Anifeiliaid Penodol (NACWO) cymwysedig sy’n helpu myfyrwyr ac ymchwilwyr i ddarparu a chynnal arbrofion, yn ogystal mynd â myfyrwyr ar deithiau gwaith maes i gasglu samplau.

Mae hyn ynghyd â’u gwybodaeth o’r  digonedd o fannau samplo sydd ar gael i’w hastudio o gwmpas ardal Aberystwyth a Bae Ceredigion yn darparu cyfleoedd eang ar gyfer prosiectau ymddygiadol, ecolegol a ffisiolegol diddorol i fyfyrwyr israddedig weithio arnynt. Caiff y myfyrwyr eu dysgu am bwysigrwydd hwsmonaeth anifeiliaid da a chânt yr arweiniad ymarferol angenrheidiol i gynnal arbrofion llwyddiannus.

Gwybodaeth Ychwanegol
Rory Geoghegan, Technegydd Acwariwm
Ebost: ryg@aber.ac.uk / Ffôn: +44(0)1970 623111 ext. 4249 (swyddfa) / 2898 (Cyfleusterau Acwariwm)