Dr Gwion Evans

Dr Gwion Evans

Darlithydd

Adran Mathemateg

Manylion Cyswllt

Proffil

Graddiodd Gwion gyda gradd mewn Mathemateg yng Nghaerdydd yn 1998. Canolbwyntiodd ar algebrâu-C* sy'n gysylltiedig â graffiau ranc-uwch ar gyfer ei waith ymchwil tuag at ei ddoethuriaeth o dan oruchwyliaeth David Evans yng Nghaerdydd. Symudodd i weithio fel ymchwilydd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Copenhagen ac yna i Brifysgol Rhufain, Tor Vergata, lle dros gyfnod o ddwy flynedd datblygodd ei ddealltwriaeth o'r cydadwaith rhwng algebrâu-C* a dynameg dopolegol, yn cynnwys dynameg symbolaidd amlddimensiynol. Yn 2005 dychwelodd Gwion i Ganolbarth Cymru i gychwyn gwaith gweinyddol yn Swyddfa Cynllunio Prifysgol Aberystwyth, lle gynorthwyodd y Tîm Rheoli Uwch gyda pharatoi cyflwyniadau'r Brifysgol ar gyfer yr Ymarfer Asesu Ymchwil 2008, a gweinyddodd materion cynllunio ac ariannol yn gysylltiedig â grant blynyddol CCAUC a'i Ganolfan Cymraeg i Oedolion. Ar ôl cwblhau rhan helaeth o'i waith ar gyfer y cyflwyniadau YAY, cychwynnodd weithio fel darlithydd Mathemateg ran amser, gan gynorthwyodatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yr Adran, cyn cymryd darlithyddiaeth llawn amser, gyda chyfrifoldeb am y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, yn 2011.

Ymchwil

Theori a chymhwysiad Algebrâu Gweithredyddion sy'n denu diddordeb Gwion, yn enwedig algebrâu-C* a'i chydadwaith gyda dynameg dopolegol a gwybodaeth a rheolaeth cwantwm. Mae ei diddordebau penodol cyfredol yn cynnwys: sefydlynnau topolegol a strwythur algebrâu-C* sy'n gysylltiedig â graffiau ranc-uwch; dulliau algebraidd-C* i ddynameg symbolaidd aml-ddimensiynol; ac algebrâu-C* sy'n gysylltiedig i ledgrwpiau gwrthdro. Mae'n aelod o'r grŵp Strwythurau, Gwybodaeth a Rheolaeth Cwantwm o fewn yr Adran Fathemateg, a Geometreg Anghymudol ac Algebrâu Gweithredyddion yng Nghymru (GANU).

Cyhoeddiadau

Burgstaller, B & Evans, DG 2017, 'On certain properties of Cuntz-Krieger-type algebras', Annals of Functional Analysis, vol. 8, no. 3, pp. 386-397. 10.1215/20088752-2017-0004
Evans, G, Gohm, R & Köstler, CM 2017, 'Semi-cosimplicial objects and spreadability', Rocky Mountain Journal of Mathematics, vol. 47, no. 6, pp. 1839-1873. 10.1216/RMJ-2017-47-6-1839
Evans, DG, Gough, JE & James, M 2012, 'Non-abelian Weyl Commutation Relations and the Series Product of Quantum Stochastic Evolutions', Proceedings of the Royal Society A: Mathematical, Physical and Engineering Sciences, vol. 370, no. 1979, pp. 5437-5451. 10.1098/rsta.2011.0525
Evans, G & Sims, A 2012, 'When is the Cuntz–Krieger algebra of a higher-rank graph approximately finite-dimensional?', Journal of Functional Analysis, vol. 263, no. 1, pp. 183-215. 10.1016/j.jfa.2012.03.024
Evans, DG 2008, 'On the K-theory of higher rank graph C*-algebras', New York Journal of Mathematics, vol. 14, pp. 1-31. <http://nyjm.albany.edu/j/2008/14-1.pdf>
Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil