Dadorchuddio Plac Porffor i Anrhydeddu Cennad Heddwch

03 Tachwedd 2023

Bydd un o’r placiau porffor uchel eu bri yn cael ei ddadorchuddio yn Aberystwyth heddiw (dydd Gwener 3 Tachwedd) i anrhydeddu cyfraniad rhyfeddol menyw a arweiniodd ddirprwyaeth i’r Unol Daleithiau ym 1924 i gyflwyno deiseb heddwch wedi’i llofnodi gan bron i 400,000 o fenywod Cymru.

Dyn yn rhedeg y 3 chopa ar gyfer Alzheimers gyda chymorth Prifysgol Aberystwyth

07 Tachwedd 2023

Mae dyn sy’n dringo tri chopa uchaf Prydain a rhedeg 450 milltir rhyngddynt mewn naw diwrnod ar gyfer ymchwil Alzheimers’ wedi derbyn cefnogaeth gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Safonau newydd ar gyfer cig wedi'i feithrin ar y fwydlen diolch i bartneriaeth

09 Tachwedd 2023

Bydd safonau diogelwch newydd ar gyfer cig wedi'i feithrin - technoleg a allai gynnig dewis amgen cynaliadwy i ffermio da byw - yn cael eu datblygu diolch i brosiect newydd.

Ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth ar y gwrthdaro yn ardaloedd ffindirol Cwrdaidd

08 Tachwedd 2023

Effaith y gwrthdaro yn ardaloedd ffindirol Cwrdaidd Twrci fydd canolbwynt ymchwil newydd, yn dilyn dyfarnu cymrodoriaeth uchel ei bri.

Israel, Palesteina a hanes y Blaid Lafur sydd wedi gwneud safbwynt Keir Starmer mor anodd

09 Tachwedd 2023

Mewn erthygl yn The Conversation, mae’r Darlithydd mewn Hanes Rhyngwladol Dr James Vaughan, yn trafod y traddodiad hir o wrthdaro rhwng carfanau pro-Seionaidd a phro-Arabaidd o fewn y Blaid Lafur.

Academydd o Aberystwyth yn eich gwahodd ‘I Mewn i'r Tywyllwch'

09 Tachwedd 2023

Heddiw, mae academydd o Brifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi llyfr sy’n edrych ar ffenomenon naturiol tywyllwch a’r ffordd y mae’n tanio ein dychymyg.

Yn 'Slut!' mae Taylor Swift yn dod yn rhan o hen hanes y menywod sy’n ymladd nôl yn eu gwaith yn erbyn cywilyddio menywod ‘pryfoclyd’

09 Tachwedd 2023

Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Lucy Thompson, Darlithydd ym maes Llên ac Ysgrifennu Creadigol y 19eg ganrif yn egluro bod codi cywilydd ar fenywod pryfoclyd - ‘slut-shaming’ - yn arfer sy’n mynd nôl ganrifoedd, a bod hanes menywod yn taro nôl yn erbyn hyn yn un maith.

"For All Mankind": hanes amgen drama'r gofod yn amlinellu gweledigaeth well o NASA

14 Tachwedd 2023

Mewn erthygl yn The Conversation, mae'r arbenigwr gwyddonias Dr Val Nolan yn adolygu cyfres Apple TV 'For All Mankind' sydd wedi'i osod mewn oes Apollo sydd wedi'i drawsnewid drwy gynnwys cymeriadau o liw, menwyod a LHDTC+.

Consurwyr yn llai agored i broblemau iechyd meddwl na pherfformwyr eraill – astudiaeth

15 Tachwedd 2023

Mae consurwyr yn llai tebygol o ddioddef nifer o’r heriau iechyd meddwl mai pobl greadigol eraill, megis cerddorion a digrifwyr yn eu hwynebu, yn ôl astudiaeth newydd.

Mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio i annog ymfudwyr i deimlo’n gartrefol

16 Tachwedd 2023

Mewn erthygl yn The Conversation mae Dr Huw Lewis o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ar y cyd gydag academyddion o brifysgolion eraill yng Nghymru, yn esbonio sut mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio i gynorthwyo i integreiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Gwobr Frenhinol i Brifysgol Aberystwyth am ymchwil arloesol ym maes parasitoleg

17 Tachwedd 2023

Mae Gwobr Pen-blwydd y Frenhines wedi'i dyfarnu i Brifysgol Aberystwyth am ei gwaith arloesol yn mynd i’r afael ag effaith andwyol llyngyr lledog parasitig.

Mae meddyliau creadigol yn agored i salwch meddwl - ond mae consurwyr yn rhydd o'r felltith

16 Tachwedd 2023

Mewn erthygl ar gyfer The Conversation, mae’r darlithydd Seicoleg Dr Gil Greengross yn disgrifio ei ymchwil sy'n dangos fod pobl greadigol fel digrifwyr ac artistiaid yn fwy tebygol o wynebu heriau gyda’u hiechyd meddwl, ond nid yw’r un peth yn berthnasol i gonsurwyr.

Campfa hunan-bweru i agor yn y gromen chwaraeon newydd

24 Tachwedd 2023

Mae cynlluniau ar gyfer canolfan ymarfer fawr newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth gam yn agosach yn sgil codi cromen chwaraeon newydd ar Gampws Penglais.

Myfyrwyr Aberystwyth yn ennill gwobr ryngwladol am ymchwil ffliw adar

21 Tachwedd 2023

Mae myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill gwobr fawreddog Fforwm Bwyd y Byd am eu gwaith ymchwil ar fynd i’r afael â ffliw adar. 

Asiantaeth Ofod y DG i ariannu gwaith i ddisodli cydrannau Rwsiaidd ar grwydryn Mawrth

23 Tachwedd 2023

Bydd Asiantaeth Ofod y Derynas Gyfunol yn darparu £10.7 miliwn yn ychwanegol i ddisodli offeryn a wnaed yn Rwsia ar y crwydryn Rosalind Franklin, fel y gellir ei lansio i’r blaned Mawrth yn 2028.

Prifysgol Aberystwyth yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn #NewidYStori

23 Tachwedd 2023

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn (dydd Sadwrn 25 Tachwedd) eleni gyda lansiad poster newydd i dynnu sylw at yr ymgyrch ryngwladol i ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben.

Partneriaeth ryngwladol i ddatblygu brechlyn ar gyfer afiechydon parasitig sy’n effeithio ar filiynau

24 Tachwedd 2023

Mae partneriaeth ryngwladol newydd wedi’i sefydlu i ddatblygu brechlyn ar gyfer afiechydon parasitig sy’n heintio cannoedd o filiynau o bobl.

A yw honiadau bod Tatariaid Crimea yn cael eu trin yn waeth o dan Putin na Stalin yn wir? Mae arbenigwr yn edrych ar y dystiolaeth

24 Tachwedd 2023

Wrth ysgrifennu yn the Conversation, mae Dr Gerald Hughes o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod a yw Tatariaid Crimea yn cael eu trin yn waeth o dan Putin na Stalin.

Doctor Who 60: mae'r sioe wedi adlewyrchu materion gwleidyddol erioed - ond yn bennaf yn y 1970au

24 Tachwedd 2023

Wrth ysgrifennu yn the Conversation, mae'r Athro Jamie Medhurst o'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn trafod sut mae'r sioe Doctor Who wedi adlewyrchu materion gwleidyddol erioed - ond yn bennaf yn y 1970au.

Dyngarwr yn cwrdd â myfyrwyr sydd wedi elwa o ysgoloriaeth hanes Cymru

27 Tachwedd 2023

Mae dyngarwr a roddodd hanner miliwn o bunnoedd i'w gyn-brifysgol wedi ymweld â Phrifysgol Aberystwyth i gwrdd â'r myfyrwyr ôl-raddedig cyntaf i elwa o'i haelioni.

Mosaig yr Hen Goleg

29 Tachwedd 2023

Ddiwedd yr 1800au cafodd ei ddifrïo a’i alw’n "flotyn" ac yn "anffodus", ond mae'r mosaig ar ben deheuol Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth wedi dod yn un o nodweddion diffiniol yr adeilad Gothig eiconig o Oes Fictoria.

Etifeddiaeth gymhleth 'Kindertransport': achub plant rhag y Natsïaid tra'n gadael eu teuluoedd ar ôl

30 Tachwedd 2023

Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Andrea Hammel o'r Adran Ieithoedd Modern yn trafod etifeddiaeth gymhleth 'Kindertransport'.

Cydnabod myfyrwraig gyfranodd at ddatrys cod Enigma

30 Tachwedd 2023

Mi fydd ystafell seminar yn Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth yn cael ei henwi er cof am gyn-fyfyrwraig gyfrannodd at ddatrys y cod Enigma yn ystod yr Ail Ryfel Byd.