10. Lleihau'r ddibyniaeth ar borthiant protein wedi'i fewnforio o fewn cadwyn gyflenwi anifeiliaid cnoi cil
Dr Christina Marley

Gwartheg mewn cae

Mae da byw yn darparu traean o'r protein y mae pobl yn ei fwyta. Mae angen dewisiadau eraill yn lle soia wedi'i fewnforio, sy'n elfen brotein allweddol o ddiet anifeiliaid cnoi cil, er mwyn darparu sicrwydd bwyd.

Galluogodd ymchwil cyfranogol a gwyddonol o dan arweiniad Dr Christina Marley yn IBERS i Waitrose a’u cynhyrchwyr i ddeall a goresgyn rhwystrau i fabwysiadu porthiant protein cartref fel porthiant protein i dda byw cnoi cil.

Mae tynnu soia wedi’i fewnforio o systemau cynhyrchu cig eidion, llaeth a chig oen gan brif fanwerthwr bwyd yn y DU wedi effeithio ar gynhyrchiant a masnach, wedi darparu buddion amgylcheddol i’r sector, ac wedi cyfrannu at ostyngiad o 16.9% mewn mewnforion soia’r DU.

Porthiant a dyfir gartref fel bwyd protein cynaliadwy

Newyddion: Prifysgol Aberystwyth yn dathlu effaith eithriadol ei hymchwil

Mwy o wybodaeth

Dr Christina Marley

Adran Academaidd

IBERS

Nesaf
Blaenorol