Dy Ddosbarthiadau
Dy Amserlen Dosbarthiadau Fit Rhwydd
Efo 50 o ddosbarthiadau wythnosol i ddewis ohonynt, darganfydda ddosbarth y byddi di'n mwynhau o'r amserlen yma! O Pilates Boreol ac Ymestyn a Llif i Chyflymder, Naddu a Sbin, mae ein dosbarthiadau cynhwysol ar gyfer pob gallu.
Dy Ddosbarthiadau Ffit Rhwydd Newydd am yr Hydref/Gaeaf
Rho gynnig ar ddosbarth newydd tymor ‘ma!
Rydym yn cyflwyno chwech dosbarth ffitrwydd newydd cyffrous am gyfnod cyfyngedig:
Dy Ddisgrifiadau Dosbarth
Wyt ti eisiau gwybod mwy am ein Dosbarthiadau? Os wyt yn dechrau ymarfer neu'n mynychu'r gampfa'n rheolaidd gall ein tudalen Disgrifiadau Dosbarth dy helpu i ddarganfod gweithgareddau newydd, deall lefelau dwysedd y dosbarth a chanfod dy hoff fath o ymarfer.
Dy Ddosbarthiadau Meddwl a'r Corff
Gwella hyblygrwydd, adeiladu cryfder a dod o hyd i dy gydbwysedd gyda'n hystod o ddosbarthiadau Meddwl a Chorff. O sesiynau Ioga ymlaciol a Pilates sy’n canolbwyntio ar dy graidd i ddosbarthiadau Symudedd a Symudiad ac Ymestyn a Llif, mae rhywbeth i dy helpu di i symud yn well, teimlo'n gryfach a chefnogi dy les cyffredinol
Dy Ddosbarthiadau Cardio a Dygnwch
Rho hwb i dy ffitrwydd, cynydda dy stamina a chadwa dy gorff i symud gyda'n hystod o ddosbarthiadau Cardio a Dygnwch. O sesiynau Sbin a Zumba egnïol i ddosbarthiadau Therapi Dŵr a Nofio Treiathlon effaith isel, mae dosbarth i dy helpu i wella dy ffitrwydd cardiofasgwlaidd, i gadw'n heini a chefnogi dy les cyffredinol.
Dy Ddosbarthiadau Cryfder a Cardio
Der i adeiladu dy gryfder, gwella dy ffitrwydd a gwthio dy derfynau gyda'n hystod o ddosbarthiadau Cryfder a Chardio. O ymarferion HIIT egni uchel a hyfforddiant HYROX i sesiynau i’r corff cyfan megis Awr Pŵer a Chyflymder, mae yna ddosbarth i dy helpu i ddod yn gryfach, yn fwy heini ac yn fwy hyderus.
Dy Ddosbarthiadau Ffitrwydd wedi eu trefnu'n hyblyg
Budd Aelodaeth: Mae'r holl ddosbarthiadau ffitrwydd yn rhad ac am ddim efo aelodaeth Chwaraeon Aberystwyth.
Talu Bob Tro: Ddim yn aelod? Galle di ymuno ag unrhyw ddosbarth am £7 y sesiwn.
