Canllawiau COVID-19
Canllawiau COVID-19 y Pwll Nofio
- Mae’n rhaid archebu sesiwn nofio ymlaen llaw.
- Gofynnir i chi gyrraedd yn barod i nofio os gwelwch yn dda, gyda’ch gwisg nofio o dan eich gwisg arferol.
- Bydd yr ystafelloedd newid ar gael i’w defnyddio, dilynwch y marciau pellhau cymdeithasol wrth newid a chadwch at y camau pellter cymdeithasol bob amser.
- Fydd y loceri ddim ar gael felly dewch â bag gyda chi a fydd â digon o le i gadw’ch eitemau ar y pegiau ar y balconi wrth ochr y pwll.
- Bydd rhaid cymryd cawod cyn mynd mewn i’r pwll.
- Bydd y pwll wedi’i rannu yn 4 lôn, gyda’r 2 lôn ganol fel lonydd nofio (cyflymach), a'r 2 lôn allanol at ddefnydd hamdden, gyda uchafswm o 4 nofiwr ymhob lôn.
- Efallai y bydd yr achubwr bywyd yn gofyn i’r cwsmeriaid newid lonydd o bryd i’w gilydd er mwyn ddarparu gwell profiad i bob nofiwr.
- Bydd y Sawna allan o ddefnydd nes bydd rhybudd pellach.
- Ni fydd gwersi nofio tan rhybudd pellach.
- Bydd yr achubwr bywyd yn nodi pryd y bydd y sesiwn yn dod i ben, a bydd gofyn i chi adael y pwll gan ddilyn y system unffordd yn ôl i’r ystafelloedd newid, lle y bydd gennych 5 munud i gael cawod, newid a gadael yr adeilad cyn i gwsmeriaid y slot nesaf gyrraedd. Bydd hyn yn helpu’r staff i lanhau ochr y pwll a’r ystafelloedd newid rhwng bob sesiwn.
- Ni fydd y sychwr gwallt, na’r sychwyr dwylo ar gael i’w defnyddio.