Rhieni a Gwarcheidwaid

Beth yw'r Cynllun?

Cynllun sy'n cael ei ddarparu trwy'r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd yw Mentora'r 'Ffordd Hyn', ar gyfer myfyrwyr sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol o bosibl gyda bywyd dydd i ddydd yn y Brifysgol.

Mae'r cynllun Mentora'n cynnig cyngor cyfeillgar, cyfrinachol, un-i-un am bob agwedd ar fywyd prifysgol, gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr.

'Roedd yn gymorth mawr iawn gallu rhannu pryderon trwy droi at rywun oedd wedi bod trwy'r broses o 'mlaen i.' - Myfyriwr a gafodd ei Fentora ar y Cynllun

At fyfyrwyr newydd mae'r cynllun wedi'i dargedu’n bennaf, i'w cynorthwyo i ymgartrefu ac ymgyfarwyddo â bywyd prifysgol. Ond mae'r cynllun yn agored i bob myfyriwr sy'n dymuno gwneud cais. Gallech felly awgrymu i'ch plentyn/dibynnydd gymryd golwg ar ein hadran ‘A all Mentora'r 'Ffordd Hyn' fod o gymorth i fi?’ ar y dudalen Mentoreion i weld a all y Cynllun Mentora fod o gymorth.

'Myfyriwr cynllun Erasmus o'r Eidal ydw i, ac fe ges i gymorth mawr gan y cynllun 'Ffordd Hyn' i ddangos sut mae asesiadau'n gweithio ym Mhrydain. Byddwn i wedi bod ar goll hebddo.' - Myfyriwr a gafodd ei Fentora

A chithau’n rhiant neu'n warcheidwad fe wyddom eich bod eisiau sicrhau'r cymorth a'r gefnogaeth orau i'ch plentyn. Os teimlwch y gallent elwa o’r Cynllun ond nad ydynt yn debygol o wneud cais uniongyrchol eu hunain, mae croeso ichi gysylltu â ni os oes gennych ymholiadau neu bryderon. Neu fel arall, gallech drafod hyn trwy gysylltu â thîm y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd, student-support@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 621761 yn uniongyrchol.

Gallech hefyd edrych ar weddalennau'r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr i weld a yw'r Brifysgol yn cynnig unrhyw beth arall a allai fod o fantais.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau cysylltwch â ni neu darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin