Gwasanaethau Cyngor, Gwybodaeth ac Arian

Mae’r Gwasanaeth Cyngor a Gwybodaeth i Fyfyrwyr yn cynnig gwybodaeth, cyngor, cymorth a gwasanaethau cyfeirio ar amryw helaeth o faterion. Er enghraifft gallwn:

  • Rhoi clust i wrando ar unrhyw bryder neu ofid a’ch cyfeirio at wasanaethau arbenigol yn y Brifysgol a thu hwnt
  • Rhoi cyngor ar reoli eich arian
  • Rhoi rhagor o wybodaeth am y ffynonellau cymorth sydd ar gael os ydych mewn caledi
  • Gwneud yn siŵr eich bod yn cael y cyllid cywir
  • Eich helpu i lenwi ffurflenni cais ar gyfer gwahanol fathau o gyllid myfyrwyr
  • ich helpu i gael gwybodaeth am oedi yn eich cyllid myfyrwyr
  • Rhoi gwybodaeth ichi am reolau a rheoliadau’r Brifysgol gan gynnwys rheoliadau academaidd neu reolau ynglŷn ag aflonyddu
  • Rhoi cyngor ichi ynglŷn â rhoi’r gorau i gwrs neu newid cwrs
  • Rhoi cyngor ichi ar yr hyn y dylech ei wneud os bydd amgylchiadau annisgwyl yn effeithio ar eich astudiaethau

Os nad ydych yn siŵr ymhle y cewch gyngor neu gymorth, cysylltwch â ni. Does dim byd sy’n rhy fawr nac yn rhy fach. Mae ein gwasanaeth yn gyfrinachol, ni fydd yn eich beirniadu ac mae’n rhad ac am ddim.

I fwcio apwyntiad gydag ymgynghorwyr i drafod eich materion, cliciwch y botwm ar y dde.