Hwb Cyngor a Chymorth

Gall myfyrwyr gael mynediad i'n gwasanaethau yn y ffordd sydd fwyaf addas iddyn nhw, boed hynny wyneb yn wyneb, ar y campws (yn y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr), ar-lein neu dros y ffôn.

I drefnu apwyntiad â chynghorydd myfyrwyr, ewch i'n porth ar-lein. https://aims.aber.ac.uk/ a defnyddiwch y tab Archebu i ddewis slot ar gyfer eich apwyntiad.

Dewiswch:

Caledi – I gyflwyno ffurflen galedi neu os nad oes gennych arian i dalu am gostau byw sylfaenol.

Cyllid Myfyrwyr - os cewch chi i unrhyw drafferthion gydag arian, e.e. :

  • os gwrthodwyd arian i chi neu
  • os ydych yn poeni am gyllid.

Fel arall:

  • e-bostiwch: cynghorydd-myfyrwyr@aber.ac.uk â'ch ymholiad i ddechrau. Fel arfer, rydym yn ateb ymholiadau electronig o fewn tri diwrnod gwaith.
  • Neu ffoniwch 01970 621761 a gofynnwch inni eich ffonio yn ôl. Byddwn yn rhoi slot amser i chi a dylech fod ar gael yn ystod y slot hwnnw.

Os yw eich ymholiad yn gofyn am ymateb neu drafodaeth fanylach nad oes modd ei chynnal drwy'r drefn frysbennu neu dros e-bost, mae'n bosib y byddwn yn cynnig apwyntiad ichi.