Lwfans Myfyrwyr Anabl (LMA)
Beth yw’r Lwfans Myfyrwyr Anabl (LMA)?
Gellir defnyddio’r lwfans i roi’r cymorth ychwanegol sy’n angenrheidiol i fyfyrwyr ag anableddau. Ei fwriad yw darparu cyllid ar gyfer eitemau a fydd yn gymorth i unioni unrhyw anfanteision a fo ar y myfyrwyr hynny.
Gwybodaeth pellach am LMA a sut i wneud cais
Beth y gellir ei ddarparu?
Pwrpas y LMA yw darparu cyllid i dalu’r costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’ch cwrs AU, ac sy’n deillio’n uniongyrchol o’ch anabledd. Gall y LMA roi cymorth dynol, cyfarpar, a chymorth tuag at gostau eraill sy’n ymwneud ag anabledd, a theithio. Ni all gyllido: costau cysylltiedig ag anabledd a fyddai arnoch p’un a fyddech yn fyfyriwr neu beidio, a chostau astudio a allai fod ar bob myfyriwr.
Pwy all wneud cais am LMA?
Yn gyffredinol, gall unrhyw fyfyriwr mewn Addysg Uwch sydd ag anabledd wneud cais (yn cynnwys y rhai sydd ag Anawsterau Dysgu Penodol megis Dyslecsia).
Lle dylwn gychwyn?
Ewch i adran y Drefn Gwneud Ceisiadau am wybodaeth lawn. Yn y lle cyntaf, mae angen i’ch corff cyllido gael gwybod am eich bwriad i wneud cais am LMA, yn achos myfyrwyr Brifysgol Aberystwyth, gellwch gysylltu â’r Ymgynghorydd Hygyrchedd (hygyrchedd@aber.ac.uk).