Arholiadau ac Asesiadau

Bydd amserlen yr arholiadau ar gael ar-lein nifer o wythnosau cyn i gyfnod yr arholiadau ddechrau.

Bydd eich adran hefyd yn anfon negeseuon e-bost unigol i atgoffa myfyrwyr am unrhyw ddarpariaeth unigol gyfredol ar gyfer yr arholiadau ac i ofyn iddynt a ydynt yn dal i fod angen y ddarpariaeth hon. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymateb i’r negeseuon e-bost hyn.

Awgrym: Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod lleoliad eich arholiad ac yn troi fyny 15 munud cyn amser dechrau’r arholiad.

Gweler ein Cwestiynau Cyffredin am Arholiadau ac Asesiadau i gael rhagor o wybodaeth am:

      Gael Darpariaeth Unigol ar gyfer yr Arholiadau

      Cael Mynediad i’ch Darpariaeth Unigol

      Amgylchiadau Arbennig sy’n effeithio ar waith cwrs neu arholiadau

      Pryderon ynghylch sut aeth yr arholiadau/asesiadau

      Ail-sefyll

      Cwestiynau Cyffredin i’ch helpu yn ystod cyfnod yr arholiadau