Gorbryder a Phanig

Mae gorbryder yn ymateb dynol cyffredin i sefyllfa frawychus, ond mae ein meddyliau'n creu'r syniad o fraw weithiau, gan achosi symptomau o bryder annifyr yn y corff, a hynny heb reswm digonol o bosib dros fod ofn. Dysgwch sut i ymdopi â gorbryder a chadw rheolaeth ar y sefyllfa. Os teimlwch chi fod gorbryder yn rheoli eich gweithgareddau o ddydd i ddydd, yn eich deffro yn y nos neu os ydych chi'n dioddef o banig, rydym yn argymell eich bod yn chwilio am gyngor ar-lein a thrwy eich meddyg teulu neu Wasanaethau Iechyd Meddwl Lleol.

Cymuned a chymorth ar-lein - Togetherall

Sgwrs â'r gymuned yn ddienw, asesiad a modiwlau hyfforddiant er mwyn eich helpu i ymdopi - ar gael am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. https://togetherall.com/

Rhestr Cyflyrau'r GIG - Anhwylder Pryder Cyffredin, Anhwylder Panig, Gorbryder ynglŷn ag Iechyd

Gwefan sy'n rhoi golwg gyffredinol ar orbryder a'r amrywiol anhwylderau, gwybodaeth am symptomau, diagnosis, triniaeth ac adnoddau hunangymorth

https://www.nhs.uk/conditions/generalised-anxiety-disorder/

https://www.nhs.uk/conditions/panic-disorder/

https://www.nhs.uk/conditions/health-anxiety/

Mind Over Mood – Dr Christine Padesky

Gwybodaeth ar-lein ynglŷn â rheoli eich tymer gan yr arbenigwr byd-eang mewn Therapi Ymddygiad Gwybyddol, Christine Padesky https://www.mindovermood.com/

Gwasanaethau Iechyd Meddwl lleol Gofal Sylfaenol y GIG:

Gwybodaeth hunangymorth ddefnyddiol ar-lein ynglŷn â Gorbryder a gwybodaeth am sut i ddefnyddio'r gwasanaethau sydd ar gael http://www.iawn.wales.nhs.uk/mental-health-self-help-resources

MIND Ar-lein

Dysgwch am orbryder a phanig, a sut i gael triniaeth.

https://www.mind.org.uk/information-support/types-of-mental-health-problems/anxiety-and-panic-attacks/about-anxiety/

GET SELF HELP ar-lein

Amrywiaeth o daflenni gwaith defnyddiol i'ch helpu i reoli cyflyrau sy'n gysylltiedig â gorbryder - Gorbryder Cymdeithasol https://www.getselfhelp.co.uk/socialanxiety.htmac Anhwylder Pryder Cyffredinol https://www.getselfhelp.co.uk/gad.htm

Fideo Russ Harris ar YouTube

Mae Dr Russ Harris yn cynnig amrywiaeth o fideos buddiol sy'n ymwneud â deall y natur ddynol a beth sy'n gweithio'n dda; The Struggle Switch https://www.youtube.com/watch?v=FE8VLAgWt20 The Happiness Trap – Evolution of the human mind https://www.youtube.com/watch?v=YBaOBJ8zOLE

Llinell ffôn neu e-bost am ddim, bob awr o'r wythnos - Y Samariaid

Sgwrsiwch â rhywun am eich anawsterau - Ar gael i sgwrsio bob awr o'r wythnos dros y ffôn neu e-bost https://www.samaritans.org/wales/how-we-can-help/contact-samaritan/

MIND Aberystwyth

I gael cymorth yn lleol cysylltwch â changen leol Mind i gael sgwrs a chefnogaeth fuddiol

Cyfeiriad: Y Cambria, Glan y Môr, Aberystwyth SY23 2AZ Ffôn: 01970 626225

Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr

Mae ein hymarferwyr cymwysedig wedi datblygu cyflwyniad a fydd yn eich helpu i ddysgu am orbryder. Gall ein hymarferwyr cymwysedig eich helpu i reoli gorbryder a phanig a'r effaith bosib ar eich bywyd academaidd. Gallwch gofrestru gyda'n gwasanaeth ar-lein.