Diffyg Hunan-barch

Gall pawb fod yn brin o hyder a hunan-barch ar brydiau, ac rydym yn argymell bod pobl yn gofyn am gymorth a chyngor ynglŷn â sut i ddatblygu hunan-barch. Gall diffyg hunan-barch effeithio ar y pethau yr ydym ni eisiau eu gwneud, ar ein hiechyd corfforol a meddyliol.

Cymuned a chymorth ar-lein - Togetherall

Sgwrs â'r gymuned yn ddienw, asesiad a modiwlau hyfforddiant er mwyn eich helpu i ymdopi - ar gael am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. https://togetherall.com/

Mind Over Mood – Dr Christine Padesky

Gwybodaeth ar-lein ynglŷn â rheoli eich tymer gan yr arbenigwr byd-eang mewn Therapi Ymddygiad Gwybyddol, Christine Padesky https://www.mindovermood.com/

Cyflyrau'r GIG Ar-lein - Datblygu hunan-barch

Gall pawb fod yn brin o hyder a hunan-barch ar brydiau. Mae gan y GIG wybodaeth ddefnyddiol ar hunan-barch a sut i'w wella https://www.nhs.uk/conditions/stress-anxiety-depression/raising-low-self-esteem/

GET SELF HELP ar-lein

Amrywiaeth o daflenni gwaith defnyddiol i'ch helpu i reoli gwahanol gyflyrau https://www.getselfhelp.co.uk/

MIND ar-lein

Egluro beth yw hunan-barch, awgrymiadau ymarferol ar ddatblygu hunan-barch yn ogystal â gwybodaeth ynglŷn â chael cymorth gyda hunan-barch https://www.mind.org.uk/information-support/types-of-mental-health-problems/self-esteem/#.Wvmy3ExFyUk

Gwasanaethau Iechyd Meddwl lleol Gofal Sylfaenol y GIG:

Gwybodaeth hunangymorth ddefnyddiol ar-lein ynglŷn â hunan-barch a gwybodaeth am sut i ddefnyddio'r gwasanaethau sydd ar gael http://www.iawn.wales.nhs.uk/mental-health-self-help-resources

Llinell ffôn neu e-bost am ddim bob awr o'r wythnos - Y Samariaid

Sgwrsiwch â rhywun am eich anawsterau - Ar gael i sgwrsio bob awr o'r wythnos dros y ffôn neu e-bost https://www.samaritans.org/wales/how-we-can-help/contact-samaritan/

MIND Aberystwyth

I gael cymorth yn lleol cysylltwch â changen leol Mind i gael sgwrs a chefnogaeth fuddiol

Cyfeiriad: Y Cambria, Glan y Môr, Aberystwyth SY23 2AZ Ffôn: 01970 626225

Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr

Gall ein hymarferwyr cymwysedig eich helpu i ddatblygu hunan-barch a'ch helpu gydag effaith hyn ar eich bywyd academaidd. Gallwch gofrestru â'n gwasanaeth ar-lein.