Hunan-niweidio

Mae gan bawb ohonom ni wahanol ffyrdd o'n helpu i reoli sefyllfaoedd, meddyliau ac emosiynau anodd. Os byddwch yn canfod ffordd sy'n niweidiol i chi eich hun, mae'n bwysig i chi ofyn am help er mwyn i chi gael trafod y strategaethau a chanfod rhai mwy defnyddiol nad ydynt yn achosi niwed. Rydym yn eich cynghori i gysylltu â'ch meddyg teulu yn gyntaf, ond os nad ydych yn teimlo y gallwch gadw eich hun yn ddiogel dylech chwilio am help ar frys. Gall y dolenni cyswllt isod hefyd gynnig gwybodaeth ddefnyddiol amrywiol.

Cymuned a chymorth ar-lein - Togetherall

Sgwrs â'r gymuned yn ddienw, asesiad a modiwlau hyfforddiant er mwyn eich helpu i ymdopi - ar gael am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. https://togetherall.com/

Cyflyrau'r GIG Ar-lein

Gwybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â chyflyrau iechyd allai fod wrth wraidd y broblem, asesiadau a thriniaeth https://www.nhs.uk/conditions/self-harm/getting-help/

MIND ar-lein

Gwybodaeth gynhwysfawr ynglŷn â hunan-niweidio, pam, beth i'w wneud i reoli'r ysfa a thriniaeth https://www.mind.org.uk/information-support/types-of-mental-health-problems/self-harm/about-self-harm/

GET SELF HELP ar-lein

Amrywiaeth o daflenni gwaith defnyddiol i'ch helpu i reoli gwahanol gyflyrau https://www.getselfhelp.co.uk/

Llinell ffôn neu e-bost am ddim bob awr o'r wythnos - Y Samariaid

Sgwrsiwch â rhywun am eich anawsterau - Ar gael i sgwrsio bob awr o'r wythnos dros y ffôn neu e-bosthttps://www.samaritans.org/wales/how-we-can-help/contact-samaritan/

Gwasanaethau Iechyd Meddwl lleol Gofal Sylfaenol y GIG:

Gwybodaeth hunangymorth ddefnyddiol ar-lein ynglŷn â Hunan-niweidio a gwybodaeth am sut i ddefnyddio'r gwasanaethau sydd ar gael http://www.iawn.wales.nhs.uk/mental-health-self-help-resources

MIND Aberystwyth

I gael cymorth yn lleol cysylltwch â changen leol Mind i gael sgwrs a chefnogaeth fuddiol

Cyfeiriad: Y Cambria, Glan y Môr, Aberystwyth SY23 2AZ Ffôn: 01970 626225

Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr

Gall ein hymarferwyr cymwysedig eich helpu i reoli ymddygiad hunan-niweidiol ac effaith yr ymddygiad hwn ar eich bywyd academaidd a gallwch gofrestru â'n gwasanaeth ar-lein.

Cymorth Brys - Pryderu ynglŷn â'ch diogelwch eich hun neu ddiogelwch rhywun arall?