Rheoliadau ar gyfer Ysgoloriaethau Mynediad

  1. Cynigir Ysgoloriaethau a Gwobrau Teilyngdod i ymgeiswyr a fydd wedi cyrraedd 17 mlwydd oed erbyn 1 Hydref yn y flwyddyn y bwriadant ddechrau ar eu gyrfa yn y brifysgol.  Anogir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr hŷn, ond ni dderbynnir ymgeiswyr os bu’n astudio am radd mewn unrhyw brifysgol am fwy nag un tymor.
  2. Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno ffurflen gais ar-lein erbyn y dyddiad cau, yn nodi'r ddau bwnc y dymunant gael eu harholi ynddynt. Rhaid i ymgeiswyr sicrhau eu bod yn dewis papurau mewn cyfuniad o bynciau sy’n derbyniol i’w darpar adran.
  3. Bydd ymgeiswyr yn derbyn eu canlyniadau o fewn 4-6 wythnos o sefyll yr arholiadau.
  4. Amod derbyn gwobr yw bod yn rhaid i ymgeisydd sydd yn ei hennill dderbyn y Brifysgol yn ddewis ‘cadarn’ trwy UCAS. Mae’r Brifysgol yn diogelu’r hawl i dynnu’r wobr yn ôl petai’r ymgeisydd yn dynodi fod y Brifysgol yn ddewis ‘wrth gefn’. Yr eithriad i hyn fydd ymgeiswyr sy’n dal cynnig o brifysgolion Caergrawnt neu Rydychen.  Cynhorir ymgeiswyr i beidio â rhoi unrhyw sefydliad arall fel eu dewis Cadarn drwy UCAS nes eu bod wedi derbyn canlyniadau’r Arholiadau Mynediad. 
  5. Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i dynnu cais ArholiadauMynediad yn ôl ar gyfer unrhyw ymgeisydd nad ydynt yn gallu cynnig lle iddynt astudio. Er y byddwn yn ymdrechu i adnabod ymgeiswyr o’r fath cyn gynted â phosibl, mae’n bosibl y bydd y penderfyniad hwn yn cael ei wneud ar ôl i’r arholiadau gael eu cwblhau, er enghraifft pan fo’r cais UCAS wedi cael ei dderbyn yn agos i’r dyddiad cau ar gyfer cystadleuaeth yr Arholiadau Mynediad ac nad yw wedi cael ei adolygu’n llawn cyn dyddiad yr arholiadau. Noder na fydd canlyniadau arholiadau’r Ysgoloriaeth Mynediad yn chwarae unrhyw ran yn y penderfyniad hwn - bydd y penderfyniad i gynnig lle i astudio neu beidio yn cael ei wneud yn seiliedig ar y wybodaeth a geir ar ffurflen gais UCAS yr ymgeisydd yn unig.
  6. Os na all Adran gynnig lle i ymgeisydd astudio ar eu dewis cyntaf o gwrs ond yn hytrach eu bod yn cynnig lle iddynt astudio ar gwrs tebyg sy’n cynnwys blwyddyn sylfaen, bydd unrhyw wobr yn berthnasol i’r cynllun diwygiedig hwnnw yn unig.
  7. Os bydd ymgeisydd wedi gwneud cais am gynllun sy’n cynnwys blwyddyn sylfaen a’u bod yn cael cynnig lle ar y cwrs hwnnw, bydd unrhyw wobr a geir yn berthnasol i’r cynllun hwnnw’n unig, ac ni fydd yn trosglwyddo’n awtomatig i gynllun gradd 3 blynedd.
  8. Ni wneir taliadau yn ystod blwyddyn dramor, blwyddyn mewn gwaith, blwyddyn rhyng-gwrs, blwyddyn sy’n cael ei hailwneud, ac ati.
  9. Bydd disgwyl i ddeiliaid ysgoloriaethau fynd ati i godi ymwybyddiaeth o’r Brifysgol drwy gymryd rhan mewn cynlluniau hyrwyddo lle bo hynny’n briodol (e.e. ymweliadau ag ysgolion/colegau, diwrnodau agored, diwrnodau ymweld, gweithgareddau ehangu cyfranogiad).  Bydd angen cofrestru gyda chynllun AberGwaith, a chaiff myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn eu talu am yr oriau a weithiwyd ar gyfradd safonol myfyriwr-lysgennad.  Hysbysebir y cyfleoedd hyn yn ystod y flwyddyn academaidd.
  10. O ran eu dyfarnu a’u dal, caiff yr Ysgoloriaethau eu gweithredu yn unol â’r rheoliadau cyffredinol sy’n llywodraethu Ysgoloriaethau Mynediad Prifysgolion.
  11. Bydd y Senedd yn gostwng neu’n atal gwobr yn gyfan gwbl oni bydd y sawl sy’n ei dal yn gwneud cynnydd academaidd yn ôl tystiolaeth athrawon ac yn ôl canlyniadau arholiadau'r Brifysgol, ac os na bu ymddygiad na diwydrwydd y deiliad yn foddhaol.
  12. Mae’r Brifysgol yn diogelu ei hawl i atal unrhyw wobr os na cheir ymgeisydd teilwng, i rannu unrhyw wobr mewn achos o gydraddoldeb, ac i ostwng cyfanswm unrhyw wobr os bydd yr ymgeisydd yn derbyn gwobr o ffynhonnell arall.