Polisi ar Ymddygiad Academaidd Da ac Annheg ar gyfer yr Arholiadau Mynediad

Ymddygiad Academaidd Da:

Caiff yr Arholiadau Mynediad eu hasesu ar y sail mai gwaith gwreiddiol yr ymgeisydd ydyw a'i fod wedi'i gwblhau a'i gyflwyno o dan amodau arholiad arferol.

Ymddygiad Academaidd Annerbyniol:

Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yw gweithred lle gall unigolyn sicrhau mantais nad yw'n cael ei chaniatáu iddo neu iddi ei hun o'i chyflawni. Gallai enghreifftiau o hyn gynnwys:

  1. Llên-ladrad - a ddiffinnir fel defnyddio gwaith rhywun arall a'i gyflwyno gan honni mai eich gwaith eich hun ydyw, os gwneir hynny'n fwriadol neu'n anfwriadol. Mae gan system Turnitin, a ddefnyddir i uwchlwytho papurau Arholiad Mynediad wedi'u cwblhau, wiriwr llên-ladrad wedi'i fewnosod a bydd yn rhoi gwybod am achosion posibl o lên-ladrad pan fydd gwaith a gyflwynir yn debyg iawn i waith sydd ar gael drwy chwiliad ar y rhyngrwyd, neu bapur myfyriwr presennol (gan gynnwys y rhai sydd wedi'u diogelu gan hawliau eiddo deallusol).
  2. Cydgynllwynio - pan fydd gwaith a wneir gan un unigolyn yn cael ei gyflwyno fel gwaith a wnaed gan unigolyn arall.
  3. Ffugio tystiolaeth neu ddata - gan gynnwys cyflwyno datganiadau ffug o amgylchiadau arbennig a allai arwain at fantais annheg.
  4. Ymddygiad annerbyniol yn yr arholiadau - gan gynnwys, ymhlith eraill:
  • defnyddio deunydd neu ddyfeisiau nad ydynt wedi'u cymeradwyo ar gyfer eu defnyddio yn yr arholiad
  • copïo oddi wrth, neu gyfathrebu ag (gan gynnwys yn electronig), unrhyw berson arall yn yr ystafell arholi (ar wahân i'r hyn a awdurdodir gan oruchwyliwr)
  • esgus bod yn ymgeisydd arholiad, neu ganiatáu i rywun arall gymryd eich lle gan esgus mai chi ydyw
  • wrth gyflwyno sgript arholiad fel eich gwaith chi, os yw'r sgript yn cynnwys deunydd a gynhyrchwyd trwy ddulliau anawdurdodedig
  • peidio â chydymffurfio â chyfarwyddiadau ysgrifenedig/llafar gan oruchwylwyr yr arholiadau
  • trafod unrhyw agwedd ar gynnwys y papur arholiad ag unrhyw berson a allai fod yn sefyll yr arholiad ar amser gwahanol

Canlyniadau:

Os bydd Arholwr Prifysgol yn amau achos o ymddygiad academaidd annerbyniol, byddant yn rhoi gwybod i Reolwr yr Ysgoloriaeth, a fydd yn cysylltu â'r ymgeisydd i ofyn am eglurhad.

Bydd yr eglurhad yn cael ei ystyried gan banel o 3 Arholwr o adrannau academaidd gwahanol.  Bydd y panel naill ai'n derbyn neu'n gwrthod yr eglurhad.

Os caiff yr eglurhad ei wrthod, neu os na cheir eglurhad, bydd y papur arholiad yn cael marc o 0 a bydd yr ymgeisydd yn cael ei eithrio o'r gystadleuaeth Arholiad Mynediad.

Mae gan yr ymgeisydd hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad yn ysgrifenedig o fewn 10 diwrnod gwaith i dderbyn y penderfyniad.  Dylid cyfeirio apêl o'r fath at sylw'r Diprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad y Myfyriwr, a'i gyflwyno i ysgoloriaethau@aber.ac.uk Gall apeliadau gynnwys tystiolaeth gan Swyddog Arholiadau'r ysgol/coleg os yw'n briodol.