Bwrsariaethau Gwyddor Milfeddygaeth (BVSc) 2024

Bwrsariaethau sy’n dibynnu ar brawf modd:

Mae'r rhain yn cael eu gweinyddu gan y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol. Gweler Bwrsariaeth trwy brawf modd y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol.

Bwrsariaethau Sbardun - £500

Os ydych yn astudio mewn ysgol uwchradd neu goleg yng Nghymru, gallwch ofyn i Bennaeth y Chweched Dosbarth eich enwebu am Fwrsariaeth gwerth £500 yn ystod eich blwyddyn gyntaf o astudio. Mae gennym 4 o'r bwrsariaethau i'w cyflwyno, ac mae 2 ohonynt yn cael eu neilltuo i siaradwyr Cymraeg.

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid i'ch ysgol/coleg gyflwyno enwebiad erbyn 31 Gorffennaf 2024 yn amlinellu eich addasrwydd am y fwrsariaeth. Rhaid cyflwyno'r enwebiadau ar ein ffurflen gais ar-lein. Bydd ein ffurflen gais ar-lein yn agor yn ystod yr hydref.

Bwrsariaethau Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg - £400 y flwyddyn

Bydd myfyrwyr sy'n cofrestru ar fodiwlau'n cynnwys o leiaf 5 credyd trwy gyfrwng y Gymraeg, ac sy'n cyflwyno aseiniadau penodedig yn Gymraeg, yn cael £400 am bob blwyddyn y gwnânt hynny.

Does dim angen ymgeisio am y fwrsariaeth hon - bydd yn cael ei dyfarnu'n awtomatig i fyfyrwyr cymwys.

Bwrsariaeth Ddwyieithog Astudiaethau Efrydiau Allanol (EMS) - £500 dros 2 flynedd

Mae'r fwrsariaeth hon ar gael i fyfyrwyr sy'n gwneud o leiaf 6 wythnos o'u profiad 12 wythnos Astudiaethau Efrydiau Allanol Hwsmonaeth Anifeiliaid (AHEMS) mewn amgylchedd Cymraeg neu ddwyieithog Cymraeg/Saesneg. Bydd y sawl sy'n derbyn myfyrwyr ar leoliad yn tystio i'r agweddau cyfrwng Cymraeg a gall myfyrwyr gyflwyno cais am daliad ar ôl i'r chwe wythnos gael eu cwblhau a'u cadarnhau.

Am wybodaeth bellach cysylltwch a vetssat@aber.ac.uk 

Ysgoloriaeth Defi Fet

Mae’r ysgoloriaeth hon ar gael i fyfyrwyr rhagorol sy’n dilyn eu hastudiaethau drwy’r Gymraeg dros 5 mlynedd eu gradd.   Byddant yn derbyn £500 y flwyddyn a mentora gan fentor profiadol yn y maes yng Nghymru.  Rhaid ymgeisio am yr ysgoloriaeth cyn dod i Brifysgol Aberystwyth.  Yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Aberystwyth, rhaid i ddeiliaid ddilyn o leiaf 40 credyd y flwyddyn drwy’r Gymraeg.  Disgwylir i ddeiliaid hefyd cymryd rhan mewn gweithgareddau cyfrwng Cymraeg, cynorthwyo â dysgu Cymraeg i’w cyd-fyfyrwyr, cwblhau asesiadau ysgrifenedig yn Gymraeg ac ymgymryd â mwy na 50% o’u Hastudiaethau Efrydiau Allanol Hwsmonaeth Anifeiliaid (AHEMS) ar ffermydd Cymraeg. Yn ystod eu hamser yn RVC, rhaid i ddeiliaid yr ysgoloriaeth ymgymryd â mwy na 50% o’u Hastudiaethau Efrydiau Allanol Clinigol (EMS) yng Nghymru mewn amgylchedd Cymraeg neu ddwyieithog Cymraeg/Saesneg.  Bydd y sawl sy’n derbyn myfyrwyr ar leoliad yn tystio i’r agweddau cyfrwng Cymraeg.  Mae un ysgoloriaeth ar gael yn flynyddol.  Dyfarnir yr ysgoloriaeth ar sail y meini prawf canlynol:

  • Graddau ardderchog yn yr ysgol / prifysgol
  • Awydd i astudio drwy’r Gymraeg a asesir drwy ddarn ysgrifenedig 500 gair ar bwnc gosod
  • Argymhelliad gan athro
  • Dal Prifysgol Aberystwyth fel dewis cyntaf, gan gynnwys prawf o hyn

Derbynir ceisiadau drwy'r Ffurflen Gais Arlein erbyn 3 Mai 2024

Bwrsariaethau Cyflawniad - £500

Bydd 4 bwrsariaeth i fyfyrwyr sy'n gallu dangos eu bod nid yn unig yn gallu cyflawni'n academaidd, ond sydd hefyd wedi rhagori wrth arwain a/neu wasanaethu cyn dod i brifysgol. Bydd ein ffurflen gais ar-lein yn agor yn ystod yr hydref a rhaid cyflwyno'r ffurflen gais ar-lein cyn 30 Medi 2024. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu yn ystod tri mis cyntaf y semester newydd.

Bwrsariaethau Gweledigaeth - £500

Bydd 4 bwrsariaeth i fyfyrwyr sy'n cwblhau aseiniad ar ddechrau eu hail flwyddyn yn mynd i'r afael â mater allweddol sy'n wynebu'r proffesiwn milfeddygol yng Nghymru. Rhoddir manylion i fyfyrwyr ym mis Mai 2025 a gwneir y dyfarniad ym mis Rhagfyr 2025.

Am wybodaeth bellach cysylltwch a vetssat@aber.ac.uk 

Anogir myfyrwyr i ymgeisio am gynifer o fwrsariaethau ag y dymunant ond mae'r brifysgol yn cadw'r hawl i flaenoriaethu ceisiadau gan fyfyrwyr a fu'n aflwyddiannus yn flaenorol.

Mae myfyrwyr sy'n cofrestru ar y cwrs Milfeddygaeth (BVSc) hefyd yn cael manteisio ar y gwasanaethau a gynigir gan ein Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd, yn cynnwys y Gronfa Caledi.