1.64, Penbryn

What3Words - mannau.mesuriadau.cymreigio 

Mae 1.64 wedi’i lleoli yn adeilad Penbryn 5 ar gampws Penglais. Mae’r adeilad hwn ar ben y bryn y tu hwnt i TaMed Da, Penbryn a gyferbyn ag adeilad Parry Williams (mapiau o'r Brifysgol).

Manylebau

Nifer y seddi: 30

Math o ystafell: ystafell darlithfa

Maint yr ystafell: 49 m² (7.5m hyd x 6.5m lled)

Bleinds blacowt

Hygyrchedd

Symudedd: agen Cynllun Personol Gadael mewn Argyfwng (PEEP)*

Clywed: system Dolen Anwytho Cymorth Clyw (Pa gymorth clywed sydd ar gael yn yr ystafelloedd addysgu?)

*Cynghorir defnyddwyr sydd â phryderon yn ymwneud â symudedd i drefnu Cynllun Personol Gadael mewn Argyfwng (PEEP) gyda’r Swyddfa Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd (hse.office@aber.ac.uk), gan nad oes llwybr gwastad i fynd i mewn ac allan o’r ystafell hon.

Cyfarwyddiadau

Mae 1.64 wedi’i lleoli ar lawr cyntaf adeilad Penbryn 5. Dringwch y grisiau o’r prif gyntedd i’r llawr cyntaf. Mae’r ystafell hon ym mhen pellaf y coridor i’r chwith i’r grisiau.

Offer

Adnoddau ystafell ddysgu safonol (dim goleuadau addasadwy)

1 uned arddangos weledol

4 bwrdd gwyn

Canllaw Ystafelloedd Addysgu

Mae Gwasanaethau Gwybodaeth wedi datblygu’r canllaw hwn ynghylch defnyddio cyfarpar addysgu safonol yn yr ystafelloedd addysgu canolog – dilynwch y ddolen i lawrlwytho’r ffeil Microsoft Word: Canllawiau Ystafelloedd Dysgu 2023-24