Gwyboadeth am Deithio

Trên

Mae gwasanaethau trên yn rhedeg yn rheolaidd i Aberystwyth o Ogledd Cymru ac o Ganolbarth Lloegr (mae pob gwasanaeth o gyfeiriad y dwyrain yn mynd drwy Amwythig). Gweler gwefan Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol am amserau’r trenau ac am y gwahanol lwybrau (Saesneg yn unig).

Bws

Mae nifer o wasanaethau bws a choets y gellir eu defnyddio i deithio i Aberystwyth o rannau eraill o Gymru a Lloegr. Mae gwefan Traveline Cymru yn ffordd dda o ddod o hyd i’r gwasanaeth yr ydych ei angen.

Car

Mae’n hawdd cyrraedd Aberystwyth mewn car. Mae golygfeydd hardd i’w gweld o ba gyfeiriad bynnag y byddwch yn teithio. O’r dwyrain mae’r A44 yn dringo trwy Fryniau Cambria ac i lawr at yr arfordir, ac o’r gogledd neu’r de mae’r A487 yn cynnig golygfeydd trawiadol dros Fae Ceredigion.

Llywio Lloeren: SY23 3BY

Teithio o Bell

Gall ymwelwyr sy’n cyrraedd ar awyren, fferi neu’r Eurostar gysylltu â’r tîm digwyddiadau i gael gwybodaeth, mapiau a dewisiadau teithio i gyrraedd Aberystwyth.

Mapiau o’r Brifysgol

I gael rhagor o wybodaeth am Gampws y Brifysgol, ei lleoliad a’i hadnoddau, gweler https://www.aber.ac.uk/cy/discover-aberystwyth/travel/.