Unpacked

Pecynnau Hanfodion i Fyfyrwyr gyda gostyngiad o 15%!

Sut ydym ni'n cydweithio â'n pertneriaid yn 'Unpacked'?

Pan fydd ein myfyrwyr yn symud i Brifysgol Aberystwyth, fe wyddom fod ‘na gymaint o bethau mae'n rhaid iddyn nhw a'u rhieni eu hystyried, cynllunio ar eu cyfer a meddwl amdanyn nhw. Beth am osgoi’r drafferth o brynu a chludo eich dillad gwely a'ch eitemau cegin drwy archebu ymlaen llaw drwy ein cyfeillion a'n partneriaid yn Unpacked.co.uk?

Mae modd i fyfyrwyr o dramor ac o’r Deyrnas Unedig bellach gael amrywiaeth o becynnau dillad gwely a chegin ac eitemau cartref ychwanegol i wneud gweithgareddau megis coginio, bwyta a chysgu yn fwy cyfforddus a phleserus! Mae coginio a bwyta yng nghwmni ffrindiau yn arbennig yn rhan enfawr o fywyd prifysgol, ac fe wyddom fod llawer o’n myfyrwyr yn awyddus i sicrhau bod yr eitemau hanfodol hyn ar gael iddyn nhw pan fyddan nhw’n cyrraedd y Brifysgol.

Mae archebu drwy Unpacked yn syml. Dewiswch y pecynnau a’r eitemau eraill yr hoffech eu cael yn eu llety pan fyddwch yn cyrraedd, ychwanegwch nhw at eich blwch siopa ac ewch i’r man talu. Dewiswch eich dyddiad dosbarthu a'ch cyfeiriad yn y man talu. Cofiwch ddefnyddio'r cod disgownt #aber15 i gael 15% oddi ar eich archeb.

Bydd y pecyn yn cael ei ddanfon ymlaen llaw yn uniongyrchol i'ch llety fel y bydd popeth yn barod ar eich cyfer pan fyddwch yn cyrraedd. Drwy wneud hyn, fe gewch ragor o amser i ddod i adnabod y campws, ymgyfarwyddo â'ch cwrs a chwrdd â myfyrwyr eraill.

Pethau i'w hystyried:

  • Sicrhewch eich bod yn gwybod beth yw maint eich gwely cyn archebu. Mae gan rai mathau o lety welyau o wahanol faint. Felly, er mwyn osgoi siom, rydym yn argymell eich bod yn bwrw golwg ar dudalen eich llety penodol chi ar ein tudalen we ‘Opsiynau Llety’.
  • Er mwyn i'r eitemau hyn gael eu danfon atoch cyn i chi gyrraedd, rhaid i chi archebu mewn da bryd. Bydd hyn yn rhoi amser i Unpacked bacio'ch nwyddau a'u danfon i'ch llety.
  • Os ydych am gael gwybodaeth ynglŷn â’r cynnyrch neu’r dyddiadau/amserau danfon, cysylltwch ag Unpacked yn uniongyrchol:info@unpacked.co.uk - byddant yn cysylltu â chi'n gyflym.
  • Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol ac felly efallai na fydd y wefan ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.