Myfyrwyr Uwchraddedig Presennol
Byw Gyda Ni Caru Bywyd!
Rydym yn cynnig opsiynau eang o lety hunan-ddarpar gyda naill ai ystafelloedd en-suite, neu fflatiau gyda chyfleusterau a rhannir ynghyd â'n stiwdios hunangynhwysol. Am brisiau, gweler ein ffioedd llety. Beth bynnag yw eich gofynion, ein nod yw darparu opsiwn a fydd yn addas i chi.
Rydym yn cydnadbod fod rhai o'n cyrsiau Uwchraddedig yn rhedeg am 52 wythnos ac felly, rydym yn cynnig amrywiaeth o hydoedd trwydded addad i chi, Er hynny, os gwelwch yn dda byddwch yn ymwybodol mai 50 wythnos yw'r cyfnod trwydded hiraf gallwn cynnig lle y gallwch aros yn yr un lle.
I ddarganfod pa lety sydd ar gael i chi, pam ddim cael golwg ar ein a Chymharu ein Llety.
Pam aros gydd ni?
- Hyd yn oed os byddwch yn gwneud cais nawr, nid ydych chi'n rhwymedig â Thrwydded nes byddwch chi'n cadarnhau eich lle yn nes ymlaen.
- Yr holl filiau ynni yn gynwysedig
- Rhyngrwyd grifredig a di-wifr cyflymder uchel yn gynwysedig
- Aelodaeth blatinwm rad ac am ddim yn y Ganolfan Chwaraeon er budd eich iechyd a'ch lles
- Dewis i fyw gyda'ch ffrindiau mewn fflatiau/tai sydd â rhwng 2 a 10 o ystafelloedd gwely
- Myfyrwyr Presennol yn cael eu clustnodi i fflatiau gyda'i gilydd- ddim wedi'u cymysgu â myfyrwyr y flwyddyn gyntaf!
- Lleoedd ar gael i fyfyrwyr o bob blwyddyn (2il, 3edd, 4edd flwyddyn ac ati)
- Lleoliad cyfleus yn agos i'r adnoddau academaidd ac adnoddau'r campws, yn ogystal â chanol y dref- Opsiynau llety
- Os ydych chi eisoes yn byw gyda ni yna nid oes angen talu unrhyw flaendal pellach*! Os nad ydych chi, dim ond £100 yw'r blaendal
- Adnoddau golchi dillad ar y safle
- Help a chymorth 24/7- gan gynnwys derbynfa wedi'i staffio
- Canolfannau dysgu 24/7 o fewn cyrraedd yn hawdd i'ch llety
- Yswiriant yn gynwysedig
- Cynlluniau talu ar gael ar gyfer ffioedd llety
- Cytundebau Trwydded Sengl - nid cyd ac unigol (felly nid ydych chi'n gyfrifol am dalu rhent pobl eraill) ac nid oes angen 'Gwarantwyr'
- Amrywiaeth o hydoedd trwyddedau a llety haf y Brifysgol ar gael
*Os es gennych flaendal â ni eisoes bydd gweddill y balans yn cael ei ddefnyddio i sicrhau eich lle ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf; ond, os yw eich blaendal wedi gostwng islaw'r £100 angenrheidiol bydd angen i chi dalu'r gwahaniaeth.
Dewisiaday Llety Arall
Efallai yr hoffech fyw mewn Llety yn y Sector Preifat ac rydym yn cynnig cyngor a chymorth ynglŷn â hyn hefyd. Mae gennym gronfa ddata o dai rhent preifat y gallwch chwilio trwyddynt yn gyfleus ar-lein, os ydych chi angen unrhyw gymorth i chwilio cysylltwch â ni.