Cyfieithu (Testun)

Nod yr Uned Gyfieithu yw rhoi gwasanaeth parod ac effeithiol, gan sicrhau bod pob cyfieithiad o'r ansawdd uchaf. Cynigir Gwasanaeth Cyfieithu Cymraeg > Saesneg a Saesneg > Cymraeg i holl adrannau academaidd a gweinyddol Prifysgol Aberystwyth.

Golygu

Anogir staff adrannau a swyddfeydd i gysylltu â’r Ganolfan hefyd os hoffent iddynt edrych dros ddarn o waith y maent wedi ei gyfieithu eu hunain neu wedi ei ysgrifennu yn Gymraeg cyn iddo ymddangos yn gyhoeddus er mwyn sicrhau bod y gwaith yn gywir a bod pob gair a threiglad yn eu lle!

Cyfieithu ysgrifenedig

Dyma enghreifftiau o’r mathau o ddogfennau yr ydym yn eu cyfieithu. Os nad ydych yn siŵr a yw eich gwaith chi yn berthnasol i un o’r categorïau hyn cysylltwch â’r Ganolfan am gyngor pellach.

  • Dogfennau gweinyddol
  • Gohebiaeth
  • Lawlyfrau/taflenni gwybodaeth
  • Gwefannau adrannol a thudalennau'r Brifysgol ar y we
  • Deunydd cyhoeddusrwydd
  • Hysbysebion
  • Arwyddion a hysbysiadau
  • Cofnodion rhai o bwyllgorau'r Brifysgol
  • Deunydd addysgu
  • Papurau arholiad at gyrsiau sy'n rhan o gynlluniau gradd
  • Sgriptiau arholiad a thraethodau sy'n rhan o asesiad ffurfiol
  • Ffurflenni cais gan ddarpar-fyfyrwyr
  • Ceisiadau am swyddi neu ddyrchafiadau yn y Brifysgol
  • Papurau/sgriptiau arholiadau am ysgoloriaethau mynediad

At sylw myfyrwyr

Os oes angen cymorth arnoch i gyfieithu dogfen sy’n gysylltiedig â’ch gwaith ymchwil academaidd mae’n bosibl y gallwn eich helpu. Cysylltwch yn uniongyrchol â cyfieithu@aber.ac.uk i drafod eich anghenion gan nodi nifer y geiriau sydd i’w cyfieithu a’r amserlen.