Calendr y Brifysgol

Mae Calendr y Brifysgol yn cynnwys dyddiadau’r prif bwyllgorau sy’n ffurfio strwythur llywodraethol a phrosesau cymryd penderfyniadau Prifysgol Aberystwyth.

Mae dyddiadau pwysig eraill hefyd wedi eu cynnwys er gwybodaeth.

Sut i gael mynediad i'r Calendr

Nid yw'r Brifysgol yn cyhoeddi fersiwn ‘statig’ o'r Calendar mwyach. Fodd bynnag, gellir cael hyd i'r holl wybodaeth perthnasol ar y Calendr eletronig 'byw' sy'n eich galluogi i integreiddio’r dyddiadau i’r rhaglen Microsoft Outlook.

Mae'r cyfrif calendr calstaff@aber.ac.uk yn cael ei ddiweddaru trwy’r flwyddyn academaidd gan yr Adran Lywodraethiant i adlewyrchu unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau i ddyddiadau’r pwyllgorau.

Mae’r adran Gwasanaethau Gwybodaeth wedi cynhyrchu'r dogfennau canlynol:

Sut ydw i'n agor calendr y Brifysgol? (Outlook 2010/13)

Sut ydw i'n agor calendr y Brifysgol? (Outlook Web Access)

Sut y gallaf ychwanegu apwyntiad o'r Calendr Brifysgol i fy nghalendr hun

Gall yr adran Gwasanaethau Gwybodaeth ddarparu cymorth technolegol pellach yn ôl yr angen.

Sut i ychwanegu digwyddiadau i'r Calendr

1.            Crëwch ‘cyfarfod’ yn eich calendr ‘Outlook’ personol
2.            Gwahoddwch calstaff@aber.ac.uk i’r digwyddiad
3.            Yn y llinell ‘Pwnc’ rhowch Deitl Cymraeg y digwyddiad/cyfarfod
4.            Yn y llinell ‘Lleoliad’ rhoi Deitl Saesneg y digwyddiad/cyfarfod

Bydd eich digwyddiad yn ymddangos yng Nghalendr y Brifysgol ar ôl i’ch cais gael ei adolygu a’i gymeradwyo.

Os hoffech ddiweddaru unrhyw ddigwyddiad sydd ar Galendr y Brifysgol nad oedd wedi cael ei greu gennych, dylech ddanfon cais ar e-bost at calstaff@aber.ac.uk.