Ennill Cadeiriau

25 Tachwedd 2009

Llwyddodd myfyrwraig o’r drydedd flwyddyn, Ceri Meredydd Jones, i gipio Cadair Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Meirionnydd yn ddiweddar. Llongyfarchiadau hefyd i Ffion Eluned Owen (Blwyddyn 1af) ar ennill Cadair Eisteddfod Gylch clybiau ffermwyr ifanc Eryri.

Colocwiwm Blynyddol Adran Geltaidd Prifysgol Harvard - Hydref 2009

01 Hydref 2009

Gwahoddwyd yr Athro Patrick Sims-Williams i draddodi prif ddarlith y gynhadledd hon eleni, sef Darlith Goffa John V.Kelleher,  gan gryfhau ymhellach gysylltiadau Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth gyda Phrifysgol Harvard.

Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2009

28 Mai 2009

Myfyriwr ymchwil yn yr Adran Gymraeg a gipiodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr
Urdd yng Nghaerdydd. Enillodd Gruffudd Eifion Owen ganmoliaeth uchel am ei
ddawn sgrifennu a’i glust fain.

Hyder Graddedigion y Gymraeg

01 Chwefror 2009

Er gwaetha'r pryderon am effaith y sefyllfa economaidd bresennol ar y galw o du cyflogwyr am staff newydd, dengys canlyniadau'r arolwg a wnaed gan Adran y Gymraeg fod darpar raddedigion y pwnc yn credu y bydd gradd yn y Gymraeg yn gymhwyster a fydd o gymorth iddynt gael swydd yn y dyfodol.

Blas ar y Brifysgol

02 Hydref 2009

Cynhaliwyd cwrs undydd llwyddiannus iawn ar gyfer disgyblion iaith gyntaf Blwyddyn 13 yn yr Hen Goleg ar 2il o Hydref 2009. Cafodd y disgyblion gyfle i wrando ar aelodau o staff yr Adran yn trin a thrafod testunau gosod maes llafur Safon Uwch, yn ogystal â chael sesiwn yng nghwmni’r Prifardd Ceri Wyn Jones fu’n trafod cerddi gosod yr 20fed ganrif, gan gynnwys ei waith ei hun.

Cylch Darllen Astudiaethau Celtaidd

25 Medi 2009

Mae Cylch Darllen Astudiaethau Celtaidd yn cwrdd am 7.30 y.h. bob yn ail nos Fercher yn ystod y tymor coleg, yn Ystafell Dr Simon Rodway yn yr Hen Goleg. Croesewir unrhyw un sydd  â  diddordeb i siarad a thrafod testunau mewn ieithoedd Celtaidd.   Am fwy o fanylion cysyllter â  Dr Rodway - syr@aber.ac.uk.