Llyfrgell Hugh Owen yw prif lyfrgell y Brifysgol a chanolfan weinyddol gwasanaethau'r llyfrgell. Wedi ei leoli ar gampws Penglais [Lleoliad], mae'n cynnig lle ichi astudio'n dawel. Darperir amrywiaeth o adnoddau i roi help llaw gyda'ch astudiaethau ac ar gyfer ymlacio mewn man tawel.
Oriau Agor
Mae ein horiau agor ar gael yma
Nodwch y bydd angen eich Cerdyn Aber i ddod i mewn AC allan o Llyfrgell Hugh Owen ar bob adeg. Dylai ymwelwyr i'r llyfrgell gysylltu â ni o flaen llaw i drefnu mynediad.
Casgliadau
Mae casgliadau Llyfrgell Hugh Owen yn cwmpasu pynciau'r Celfyddydau, y Gwyddorau Cymdeithasol a Gwyddorau'r Ddaear ac yn cynnwys:
- Casgliad Celtaidd
- Ffuglen
- Dogfennau Diplomyddol
- Casgliad Astudio Effeithiol
- Canolfan Dogfennau Ewropeaidd
- Sgiliau Bywyd yn y Brifysgol
- Cyhoeddiadau Swyddogol
- TAR
- Cyfeirlyfrau
- Llyfrau Prin
- Cyhoeddiadau Ystadegol
- Traethodau Ymchwil
Cewch wybodaeth am fenthyca o gasgliadau'r llyfrgell ar y dudalen hon
Cynllun llawr
-
Cyfleusterau
Mae Llyfrgell Hugh Owen yn cynnig:
- Argraffu, Copïo a Sganio
- Cyfleusterau Gwylio DVD
- Cymorth a chefnogaethEiddo Coll
- Gellir gofyn am lampau desg i'w defnyddio yn y llyfrgell o'r Ddesg YmholiadauGwerthiant nwyddau traul
- OPACs
- Peiriant ail-lenwi dŵr Hydrachill (Lefel D)
- Peiriant hunan fenthyca (Lefel D)
- Peiriant hunan ddychwelyd (Lefel D
- Wi-Fi
Hygyrchedd
- Mae mynedfa/allanfa hygyrch i’r llyfrgell ar Lefel E ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn neu ddefnyddwyr â phroblemau symudedd. Cysylltwch â’r adran Cymorth i Fyfyrwyr i drefnu i gael mynediad trwy eich Cerdyn Aber yn ôl yr angen.
- Mae lifft ar gael i ddefnyddwyr â phroblemau symuded sydd am gael mynediad i’r lloriau eraill. Mae wedi’i leoli ar bwys y Ddesg Ymholiadau - gofynwch wrth y Ddesg Ymholiadau am gymorth.
- Mae toiledau i’r anabl ar Lawr E.
- Mae dolenni sain ar gael yn y desgiau gwasanaeth.
- Trosluniau Lliw a chwyddwydrau ar gael i’w benthyca o’r ddesg ymholiadau
- Mae ardal Cerdyn Gwyrdd ar lawr E, ac mae loceri ar gael
- Mae Mannau Astudio Cerdyn Gwyrdd ar gael
- Gallwn drefnu i nôl a dosbarthu deunyddiau darllen neu ddeunyddiau eraill yn y Llyfrgell, yn barod i’w casglu neu ar gyfer astudiaeth bersonol.
- Mae'r Larymau Tân o fath Klaxon a chloch ill dau, ac mae'n hollbwysig nad ydych yn defnyddio'r lifft pan fo'r larwm tân yn canu. Os oes angen Cynllun Personol Gadael Adeilad ar Frys arnoch cysylltwch â ni.
- Cysylltwch â’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a’r Swyddfa Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd i drefnu Cynllun Personol Gadael Mewn Argyfwng (PEPEP) ar gyfer y Llyfrgell os yw’n berthnasol.
Cysylltwch â ni os hoffech gael taith dywysedig o amgylch yr adnoddau, trafod Cynllun Personol Gadael Adeilad ar Frys neu os oes gennych unrhyw ofynion penodol.