Pentre Jane Morgan/Lolfa PJM

A shot of the outside of the PJM lounge

Yng nghanol ystâd PJM, fe welwch y Lolfa.

Mae Lolfa PJM ar agor i breswylwyr sy'n byw mewn unrhyw llety a reolir gan y brifysgol.  Mae i’w chael yng nghanol pentref y myfyrwyr, ac yno y cewch chi ardal astudio (Ystafell Goch), man cymdeithasol (Ystafell Felen), a golchfa, i gyd o dan yr un to. 

Mae ar agor 24/7, mae ganddo beiriannau gwerthu â stoc dda o nwyddau, ac mae'n lle gwych i astudio neu gymdeithasu.

Hefyd, cadwch lygad am ein sesiynau galw heibio ar y Cynorthwywyr Preswyl yn yr Ystafell Felen bob nos Wener yn ystod y tymor.

Adnoddau a Chyfleusterau:

 

Ystafell Goch:

  • Gweithfannau
  • Desgiau
  • Bwrdd mawr
  • Argraffydd
  • Peiriannau gwerthu
  • Lle gwaith caeedig
  • Socedi trydan
  • Ffynnon ddŵr
  • Tŷ bach

Ystafell Felen:

  • Teledu a bar sain
  • Bleindiau
  • Seddi meddal
  • Bwrdd mawr
  • Dodrefn symudol
  • Desgiau
  • Tŷ bach

 

Y cyswllt ar gyfer y dudalen hon:

Llety’r Brifysgol, Y Swyddfa Llety, Y Sgubor, Fferm Penglais, Aberystwyth, SY23 3FH
Ffôn: Llinell Gymorth Bywyd Campws: 01970 622900 Ebost: llety@aber.ac.uk