Prosiect Porthladdoedd a Threfi Gwyliau

Llyfryddiaeth o’r Rhagair i Drefi Gwyliau Glan-môr Cymru

Y Prosiect

Daeth astudio trefi gwyliau glan-môr yn rhan o brif ffrwd hanes trefol yn ystod y degawdau diwethaf, wrth i’w harwyddocâd ar gyfer deall y broses eang o trefoli ddod yn glir. Mae’r prosiect blwyddyn hwn, sy’n cael ei ariannu gan Fwrdd Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Cymru, yn cynrychioli’r cam cyntaf mewn astudiaeth uchelgeisiol o drefi gwyliau ardal Môr Hafren. Mi wnaeth nifer o ddatblygiadau diweddar yn hanes trefol Cymru greu hinsawdd arbennig o ffafriol ar gyfer lawnsio cam cyntaf yr ymchwil yn 2006-7, gan ddatgelu ar yr un pryd botensial ar gyfer cyfeiriadau newydd wrth ymchwilio i Gymru drefol. Mae’r rhan fwyaf o astudiaethau o drefi gwyliau Cymru (ac eithrio astudiaeth Dillwyn o Sir Benfro) wedi dilyn y model o ganolbwyntio ar un dref yn unig. Mae trefi twristaidd megis Llandudno, Y Bermo, Rhyl a’r Barri, a’r astudiaethau sy’n bodoli eisoes o Aberystwyth (Lewis) ac Abertawe (Boorman) yn perthyn i’r dosbarth hwn. Mae cyd-destun rhanbarthol y prosiect hwn, a’r dimensiwn cymharu cryf, yn gymharol newydd yn hanes trefi gwyliau Cymru ac wedi’i gynllunio er mwyn cynnwys agenda hanes trefol y prosiect. Mae’r prosiect wedi canolbwyntio ar dair tref glan-môr yng Nghymru, ar eu datblygiad yn drefi gwyliau a’u lle yn hanes ehangach trefi gwyliau Prydain. Mae’r ffocws hwn wedi galluogi rhannu’r prosiect yn bedwar chwarter hafal, un ar gyfer pob tref, a chwarter arall er mwyn cydlynu’r deunydd a pharatoi’r canlyniadau i’w cynnwys ar wefannau Prifysgolion Aberystwyth ac Abertawe, ac i ddarparu deunyddiau ar gyfer nifer o gyhoeddiadau a phapurau cynhadledd.

Y Trefi  

Nod yr ymchwil fu archwilio rôl trefi gwyliau wrth lunio patrymau trefoli yn: Abertawe, Dinbych-y-Pysgod ac Aberystwyth rhwng 1750 a 1914. Dewiswyd y tair tref yma oherwydd eu bod yn astudiaethau achos da i’w cymharu. Fel porthladdoedd, trefi gwyliau glan-môr Cymreig cynnar, a threfi corfforaethol â threftadaeth ganoloesol, roeddent yn debyg mewn nifer o ffyrdd pwysig, ac yn wahanol o’r herwydd i drefi gwyliau eraill yng Nghymru a ddatblygodd yn fwy diweddar. Ond, fe geir cyferbyniad rhwng y tair tref o ran eu swyddogaethau economaidd a’r cefnwledydd a’r cwsmeriaid yr oeddynt yn eu gwasanaethu.

Tîm y Prosiect 

Mae’r tîm yn cynnwys Yr Athro Peter Borsay a Dr Owen Roberts o Brifysgol Aberystwyth a Dr Louise Miskell o Brifysgol Abertawe. Mae’r tîm wedi goruchwylio cyhoeddi rhifyn arbennig o’r cyfnodolyn Urban History (Mai 2005) yn cynnwys erthyglau ar agweddau ar hanes trefol Cymru a ddetholwyd o gyfraniadau i gynhadledd ar ‘Ddeall Cymru Drefol’ a drefnwyd ar y cyd rhyngddynt ym Medi 2003. Penodwyd Kate Sullivan, cyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth a chyn-archifydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn gynorthwy-ydd ymchwil yn Rhagfyr 2006. 

Yr Archifau

Llyfrgell Genedlaethol fu’r brif archif sylfaenol ar gyfer y prosiect. Ymhlith y cadwrfeydd pwysig eraill yr ymwelwyd â nhw roedd Amgueddfa Dinbych-y-Pysgod a Swyddfa Gofnodion Sir Benfro ar gyfer deunydd am Ddinbych-y-Pysgod; Gwasanaethau Archifau Gorllewin Morgannwg, Sefydliad Brenhinol De Cymru, Prifysgol Abertawe, a Llyfrgell Ganolog Abertawe ar gyfer deunydd am Abertawe; Archifau Ceredigion, Prifysgol Aberystwyth ac Amgueddfa Aberystwyth ar gyfer deunydd am Abertystwyth. Canfuwyd deunydd ychwanegol am y tair tref yn yr Archifau Cenedlaethol yn Kew, a hynny’n bennaf ar ffurf Cofnodion Bwrdd Llywodraeth Leol.

Y Deunydd  

Mae’r deunydd yn cynnwys ffynonellau print, llawysgrifau, gweledol ac ar-lein, ac wedi’i drefnu yn ôl y math o ddeunydd yn y llyfryddiaeth. Y deunydd ei hun fyddai’n aml yn pennu’r dull ymchwil. Mae cofnodion llywodraeth leol, er enghraifft, yn bytiog, yn enwedig yn y cyfnod cynnar, a heb oroesi o gwbl yn ambell achos. Achubwyd papurau cyngor tref Dinbych-y-Pysgod o sgip yn ystod ad-drefnu llywodraeth leol yn y 1970au! Mae cofnodion personol hefyd yn gymharol brin, a dyddlyfrau a dyddiaduron yn tueddu i fod yn deithluniau o deithiau ehangach yng Nghymru, a, gydag ambell eithriad, yn cynnwys cofnodion byr iawn ar gyfer y tair tref. Mae’r rhan fwyaf o’r arweinlyfrau a argraffwyd ac sy’n berthnasol i’r trefydd, yn ogystal â rhai mwy cyffredinol wedi’u cynnwys. Ceir cyfoeth o ddeunydd gweledol ar ffurf paentiadau, cerdiau post, ffotograffau, mapiau a chynlluniau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a hefyd yn yr archifau a’r amgueddfeydd lleol, ac oherwydd bod amser yn brin, rhestr fer yn unig a welir yma. Rhestrir hefyd gyfeiriadau o Fynegai Cambria Ar-lein.

Y Llyfryddiaeth  

Fe’i bwriedir fel ffynhonnell o wybodaeth i ysgolheigion ac eraill sy’n ymddiddori yn hanes a datblygiad y dref wyliau glan-môr ym Mhrydain. Nid yw’r deunydd a restrir yn y llyfryddiaeth yn gynhwysfawr, ond yn fan cychwyn yn hytrach ar gyfer gwaith ymchwil pellach. Er mwyn hwyluso’r defnydd ohoni, trefnwyd y llyfryddiaeth yn dair dogfen ar wahân – dogfen ar gyfer pob tref – ac yna’n is-benawdau sylfaenol yn nodi enw’r gadwrfa a’r math o ddeunydd. Felly, mi fydd y deunydd llyfryddiaethol ar gyfer pob tref yn cael ei restru yn gyntaf yn ôl pob cadwrfa yr ymwelir â hi, yna yn ôl y math o ddeunydd – print/llawysgrif/gweledol/ar-lein. Ceir rhyw gymaint o orgyffwrdd mewn mannau, gan fod llawer o’r deunydd print, er enghraifft, yn cael ei gadw mewn mwy nag un gadwrfa. Lle mae hynny’n digwydd, mae nodyn wedi’i ychwanegu. I symleiddio pethau, rhoddwyd dolenni cyswllt er mwyn cynorthwyo’r modd o lywio drwy’r llyfryddiaeth. Cadwyd at leiafrif ohonynt ac ni cheir gwybodaeth fanylach na’r math o ddeunydd. Ni cheir modd o chwilio, felly os yw’r darllenydd yn chwilio am gyhoeddiad arbennig, er enghraifft arweinlyfr i dwristiaid, rhaid iddo/iddi fynd i’r dref benodol, yna i’r ddolen berthnasol (hynny yw, Deunydd Print) a sgrolio drwy’r adran a enwir ‘Arweinlyfrau i Dwristiaid’ nes dod o hyd i’r eitem. Rhestr eitemau yn ôl trefn yr wyddor neu mewn trefn gronolegol.

Y Mynegai

Fe’i cynlluniwyd er mwyn rhoi syniad o leoliad drwy rifau’r tudalennau, er mwyn gallu cyfeirio atynt yn gyflym. Eto, nid oes gan bob eitem rif tudalen, felly bydd yn rhaid i’r darllenwyr ddilyn y ddolen gyswllt/rhif tudalen ar gyfer pob categori perthnasol cyn sgrolio i lawr i ddod o hyd i’r eitem.

Atodiad 1

Mae’r llyfryddiaethau ar gyfer Aberystwyth a Dinbych-y-Pysgod hefyd yn cynnwys arolwg o ymwelwyr ar gyfer y blynyddoedd 1869 a 1880, gan restru’r llefydd y daethant ohonynt, wedi’u casglu o’r papurau newydd lleol. Ni cheir arolwg o’r fath ar gyfer Abertawe gan nad oedd rhestrau ymwelwyr ar gael.

Atodiad 2

Llyfryddiaeth o gyhoeddiadau cyffredinol ar drefi gwyliau ym Mhrydain.