Digwyddiadau Alumni

Isod fe welwch wybodaeth am ddigwyddiadau sy'n agored i gyn-fyfyrwyr sy'n mynd gyda dathliadau'r Canmlwyddiant yma yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi!

Gem argyfwng ('Crisis games') i Alumni, Mai 3-5 2019

Gêm Argyfwng ('Crisis Game') Alunni Interpol, 3-5 Mai 2019, Gregynog.

 Efallai mai'r Gêm Argyfwng Interpol yw'r profiad mwyaf gofiadwy a chyffroes y mae'r myfyrwyr yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn brofi.

 Yn y flwyddyn Canmlwyddiant hon, byddwn yn cynnal Gêm Argyfwng Alumni unigryw yn Gregynog, lle sy'n adnabyddus i genedlaethau o fyfyrwyr sydd wedi cymryd rhan yn y gêm yn ystod eu hastudiaethau.

Bydd hwn yn gyfle aruthrol i ailgysylltu â cyd-raddedigion a'r Adran, cael hwyl ac, wrth gwrs, ennill!

 Gallwch dalu i gymryd rhan yma: https://shop.aber.ac.uk/product-catalogue/digwyddiadau-events/interpol-alumni-crisis-game-2019/interpol-alumni-crisis-game-2019

Mae'r pris yn cynnwys 2 noson o lety yn Neuadd Gregynog - o ddydd Gwener y 3ydd o Fai tan brynhawn dydd Sul 5ed Mai. Pob pryd o fwyd wedi'i gynnwys.

 Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni

yn ipcstaff@aber.ac.uk

Darlith Llanymddyfri CCF, 1 Mehefin 2019

Eleni bydd darlith Llanymddyfri yn cael ei thraddodi gan Dr Jan Ruzicka, aelod o staff yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Bydd yn cyflwyno canlyniadau ei ymchwil ar:

 "The Clash of Vision and Personality: David Davies and E.H.Carr and International Politics in Aberystwyth”.                                                                

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru, clicliwch yma: https://www.aber.ac.uk/cy/development/osa/events/ 

 

Cynhadledd Academiadd y Canmlwyddiant 17-19 Mehefin 2019

I ddathlu Canmlwyddiant Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Aberystwyth, byddwn yn cynnal Cynhadledd Academiadd y Canmlwyddiant ar 17-19 Mehefin 2019. Thema'r gynhadledd yw'r gwaith sydd wedi deillio o'r Adran dros y ganrif ddiwethaf . Yn benodol, byddwn yn canolbwyntio ar y ddau gwestiwn yma:

1) Beth oedd, yn gyffredinol a / neu gyda’ch maes arbenigedd mewn golwg, y cyfraniadau mwyaf arwyddocaol a fynegwyd yn yr Adran ers 1919?

2) O’r gwaith hwn, beth, a sut, bydd y gwaith yn parhau i lunio'r ddisgyblaeth yn y ganrif sydd i ddod?

 

Gallwch chi gofrestru i fynychu'r gynhadledd am ffi o £95 isod.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflwyno yn y gynhadledd, a fyddech cystal â rhoi gwybod i ni trwy e-bostio eich crynodebau i ipcstaff@aber.ac.uk erbyn 31 Mawrth 2019. Dylai'r rhain fod yn 150 o eiriau ac, os yn bosibl, nodwch os bydd y testun yn cydfynd â gwaith rhywun arall o Aber (er mwyn creu paneli). 

Cofrestrwch yma: https://shop.aber.ac.uk/product-catalogue/cyrsiau-cynadleddau-a-gweithdai-courses-conferences-workshops/adran-gwleidyddiaeth-ryngwladol-department-of-international-politics

 

Aduniad Alumni 21-23 Mehefin 2019

Wrth i ni nodi canmlwyddiant yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydym yn gwahodd cyn-fyfyrwyr, aelodau o staff a ffrindiau'r Adran i ymuno â'n dathliadau. Bydd penwythnos aduniad y cyn-fyfyrwyr yn gyfle perffaith i gwrdd â hen ffrindiau, cyd-fyfyrwyr, ac aelodau o staff, ail-fyw atgofion o fywyd coleg, dysgu mwy am y gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud yn yr Adran heddiw, a thrafod ei chyfeiriad ar gyfer y can mlynedd nesaf.

Bydd dathliadau’r penwythnos yn dechrau nos Wener 21 Mehefin 2019; yn parhau â rhaglen lawn ddydd Sadwrn, a fydd yn dod i ben mewn cinio dathlu, a chyfle i ymlacio ar fore dydd Sul. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at gyfraniadau gan fyfyrwyr a staff presennol yr Adran.

 

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru, cliciwch yma