Cefnogi’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol

‌‌

Sefydlodd David Davies yr Adran yn 1919 drwy roi rhodd o £20,000 i greu Cadair Woodrow Wilson. Y rhodd honno sydd wedi ein galluogi i gynnig Gwleidyddiaeth Ryngwladol yma dros y 100 mlynedd diwethaf. Wrth i ni droi oddi wrth yr 20fed ganrif tuag at realiti’r 21ain ganrif, mae’r Adran yn awyddus i godi swm o arian tuag at y 100 mlynedd nesaf.

Bydd yr arian a godir drwy gyfrwng y rhoddion hyn yn cefnogi:

  • Digwyddiadau’r Canmlwyddiant
  • Myfyrwyr (bwrsariaethau, lwfansau teithio, ffioedd cynadleddau, ac yn y blaen)
  • Datblygiadau yn y dyfodol yn unol ag ymrwymiadau’r Adran i fynd i’r afael â heriau byd-eang (ymchwil, canolfannau ymchwil, dysgu a denu myfyrwyr, a phrosiectau dysgu penodol). 

Mae croeso i chi nodi pa weithgareddau yr ydych am eu cefnogi. Efallai y byddwch hefyd am awgrymu gweithgaredd penodol eich hun, naill ai ar gyfer blwyddyn y Canmlwyddiant neu ar gyfer yr Adran dros y blynyddoedd nesaf. Anfonwch ebost atom yn: ip-centenary@aber.ac.uk‌.

 ‌

Rhestrir isod rai o’r pethau y gallai rhoddion unigol eu gwneud a/neu sut y gellid gwario casgliad o roddion:

Swm

Cyfraniad i’r Adran

£100

Paratoi at ddigwyddiad canmlwyddiant

£250

Cefnogi myfyrwyr – lwfansau teithio ac ati

£500

Bwrsariaethau / gwobrau i fyfyrwyr

£1,000

Ysgoloriaethau a datblygu’r adran

£5,000

Sefydlu canolfannau ymchwil, prosiectau addysgol penodol