Colin McInnes: ‘Beyond the NHS: Is Health Really ‘Global’?’

Gallu afiechydon i ledu’n gyflym ar draws ffiniau a chyfandiroedd mewn oes fyd-eang, a’r her i’r syniad o wasanaeth iechyd ‘cenedlaethol yn sgil hynny, fydd pwnc darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Mercher, 27 Tachwedd.

Trefnir y ddarlith gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Traddodir y ddarlith, ‘Beyond the NHS: Is Health Really ‘Global’?’ gan arbenigwr ar bolisi iechyd byd-eang, yr Athro Colin McInnes.

Bu’r Athro McInnes yn Athro UNESCO HIV/AIDS yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol tan 2018, ac fe’i penodwyd yn ddiweddar yn Ddirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi’r Brifysgol.

Cynhelir y ddarlith ym Mhrif Neuadd yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Hanes a Hanes Cymru, gan ddedhrau am 6yh ddydd Mercher, 27 Tachwedd. Mynediad yn rhad ac am ddim a chroeso i bawb.

Mae gwybodaeth bellach i’w chael ar wefan newyddion y Brifysgol.