Derbyn

Dylai ymgeiswyr sy'n ceisio lle ar gynlluniau gradd israddedig wneud cais drwy'r Gwasanaeth Derbyn Prifysgolion a Cholegau (UCAS).  Y gofynion mynediad nodweddiadol yw Tariff UCAS o 120-96, sy'n cyfateb i dri BBB-CCC Safon Uwch. Derbynnir pynciau UG ac A2, gan gynnwys Astudiaethau Cyffredinol/Meddwl Beirniadol, yn ogystal â chymwysterau Bagloriaeth Cymru, Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) a chymwysterau BTEC ar yr amod eu bod wedi'u nodi ar y ffurflen UCAS.

Gall myfyrwyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol neu gallant astudio'r Dystysgrif Sylfaen Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, a fydd yn darparu llwybr i un o'n cynlluniau gradd israddedig.  Mae rhagor o wybodaeth am y Gofynion Mynediad ar gael drwy’r wefan Derbyn Israddedigion.  Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Dr Jenny Mathers Cyfarwyddwr Derbyn Myfyrwyr yr Adran.

Mae'r Adran yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn (ymgeiswyr a fydd yn 21 oed o leiaf wrth ddechrau cwrs israddedig) yn ogystal â'r rhai nad oes ganddynt gymwysterau mynediad confensiynol.   Mae’r ymgeiswyr sydd yn y categorïau hyn fel arfer yn cael eu cyfweld fel rhan o'r broses dderbyn, a bydd Prifysgol Aberystwyth yn ad-dalu’r gost.

Mae pob cais yn cael ei asesu ar sail cyfle cyfartal.   Dewisir myfyrwyr yn seiliedig ar ystyriaeth o holl agweddau’r cais, gan gynnwys cymhelliant yr ymgeisydd, potensial academaidd, a chanlyniadau arholiadau.   Rhaid i bob ymgeisydd fodloni’r gofynion iaith Saesneg perthnasol.   Ym mhob achos mae agwedd yr Adran tuag at ofynion mynediad yn gynhwysol ac yn hyblyg.   Yn hynny o beth, y cymhwyster pwysicaf oll yw’r awydd i ddysgu a'r ymrwymiad i ennill gradd.

Dyma ein safonau o ran cymhwysedd:

  1. Bod â’r gallu neu'r potensial i gaffael, deall a defnyddio, trwy ba bynnag gyfrwng*, yr wybodaeth am y testunau academaidd a'r dadleuon o fewn y maes astudio a ddewiswyd.
  2. Bod â’r gallu neu'r potensial i gynhyrchu gwaith cydlynol, trwy ba bynnag ddull*, mewn traethodau, traethodau hir a gwaith ysgrifenedig arall sy'n cyflwyno dadleuon a dadansoddiadau a gefnogir gan dystiolaeth briodol o'r testunau academaidd.
  3. Bod â’r gallu neu'r potensial i gymryd rhan, trwy ba bynnag ddull*, mewn grwpiau i drafod y testunau, y dadleuon a'r wybodaeth academaidd o fewn y maes a ddewiswyd.

*Byddai enghreifftiau o addasiadau yn cynnwys, defnyddio dehonglydd arwyddion, amanuensis, darllenydd sgrin a thechnoleg gyfrifiadurol arall, amser ychwanegol, Braille, recordio darlithoedd/seminarau, dulliau asesu amgen, llyfrau sain ac ati.