Croeso i Gwasanaethau Gwybodaeth (G.G.) - Myfyrwyr Dysgu Cymraeg
https://libguides.aber.ac.uk/hafanMae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu gwasanaethau TG a Llyfrgell i staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn amodol ar Reoliadau a Chanllawiau’r Gwasanaethau Gwybodaeth.
Bydd arnoch angen cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth a Cherdyn Aber i allu defnyddio ein hadnoddau.
Gall myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gwrs Dysgu Cymraeg drwy system gofrestru ar-lein genedlaethol NCLW, wedi talu ffioedd y cwrs ac wedi dechrau mynychu dosbarthiadau wneud cais am fynediad i’r Gwasanaethau Gwybodaeth trwy gysylltu â’r swyddfa Dysgu Cymraeg ar learnwelsh@aber.ac.uk. Rhaid i’r cais hwn ddod o’r cyfeiriad e-bost y gwnaethoch ei ddefnyddio ar y system ar-lein genedlaethol i gofrestru ar y cwrs.
Noder: Cewch fynediad i’r adnoddau cyhyd â’ch bod wedi cofrestru ar y cwrs. Yn ôl telerau’r cynllun NCLW, bydd absenoldeb o 4 wythnos yn olynol yn cael ei ystyried fel tynnu’n ôl o’r cwrs, daw eich cofrestriad i ben a chaiff eich cyfrif TG/Cerdyn Aber ei derfynu.
Eich Cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth yn eich galluogi i:
- gael mynediad i’ch e-bost Prifysgol a’ch storfa ffeiliau
- cael mynediad i gyfleusterau cyfrifiadurol ar y campws
- cysylltu eich dyfeisiau eich hun â rhwydwaith y Brifysgol
- Adnoddau llyfrgell ar gyfer eich pwnc
- cael mynediad i’ch cyfrif llyfrgell i reoli eich benthyciadau
- ApAber - rhad ac am ddim oddi wrth eich App Store
Caiff eich Cerdyn Aber ei ddefnyddio at y dibenion canlynol:
- yn gerdyn adnabod myfyriwr
- Prynu bwyd ym mannau bwyta’r Brifysgol
- Benthyca o’r llyfrgell gan gynnwys defnyddio’r peiriannau hunan-fenthyca
- Defnyddio'r llyfrgell tu allan i oriau craidd (i ddod mewn neu i adael)
- Argraffu, llungopïo a sganio
- Eich cerdyn i’r Ganolfan Chwaraeon
Unwaith y byddwch wedi actifadu eich cyfrif TG dylech wneud cais am eich Cerdyn Aber arlein fel ei bod yn barod ichi pan fyddwch yn cyrraedd y campws.
Rhaid casglu Cardiau Aber o Lyfrgell Hugh Owen; nid yw'n bosibl i ni bostio'r rhain i chi.