Uned Ymchil Asesu Lles ac Iechyd
Eisiau cymryd rhan mewn astudiaeth?
Rydyn ni wastad yn chwilio am bobl newydd i gymryd rhan yn yr astudiaethau sydd gennym ar y gweill. Os ydych chi’n 18 neu’n hŷn ac eisiau cymryd rhan, cofrestrwch yma.
- Derbynnir pob cyflwr meddygol
- Angen pob oedran 18+
- Ystyrir pobl â phob math o ofynion dietegol
- Dim ymrwymiadau ar eich rhan
- Croeso i chi dynnu’n ôl unrhyw bryd am ba reswm bynnag
Mae’r holl wybodaeth a ddarperir yn gwbl gyfrinachol ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth GDPR
Beth sydd ynddo i chi?
- Mae cymhellion yn amrywio o astudio i astudio.
- Mae pob astudiaeth yn darparu dadansoddiad cyfansoddiad corff rhad ac am ddim.
- Arweiniad arbenigol trwy gydol yr astudiaethau.
- Gellir darparu cinio.
Deiet ac Iechyd
Mae llawer o’r problemau iechyd y mae cymdeithas heddiw yn eu hwynebu yn gysylltiedig â’r cynnydd mewn cyflyrau meddygol cronig. Mae IBERS mewn lle unigryw yn y DU oherwydd ei gallu i gysylltu bridio planhigion/anifeiliaid a ffenoteipio deunyddiau crai bwyd yn gemegol ag astudiaethau ar effaith deiet ac ymarfer corff ar iechyd a deiet.
Trwy weithio gydag anifeiliaid a phobl, datblygwyd cydweithio allanol gyda chanolfannau rhagoriaeth clinigol a milfeddygol i ymelwa ar dechnoleg metabolomeg, genomeg a biowybodeg er mwyn mynd i’r afael â phynciau allweddol ymchwil maetheg. Rydym hefyd yn ymchwilio i’r berthynas rhwng deiet ac ymarfer corff yn ystod y broses heneiddio ac wrth reoli cyflyrau meddygol cronig a’r modd y gellir gwireddu cyngor am ffordd o fyw ymhlith pobl sy’n byw yn rhydd, gan ganolbwyntio’n benodol ar ardaloedd gwledig. Er mwyn hwyluso gweithgarwch ymchwil, sefydlwyd yr Uned Ymchwil Asesu Lles ac Iechyd (WARU) i feithrin cysylltiadau â’r gymuned leol a darparu cyfleusterau i gwrdd ag aelodau’r cyhoedd a’u galluogi i gyfrannu at, ac ennyn eu diddordeb mewn gweithgareddau ymchwil.


