Pam astudio Mathemateg?

‌‌Mae’r Adran Fathemateg wedi cynnig graddau mewn Mathemateg yn Aberystwyth ers dros 150 o flynyddoedd...

ac felly mae ganddi seiliau cadarn o ragoriaeth mewn addysgu’r pwnc.

Fel myfyriwr yn Aberystwyth byddwch yn cael eich addysgu yn y disgyblaethau hanfodol sy’n cynnwys algebra, calcwlws a dadansoddiad mathemategol.

Wrth i chi ddatblygu eich diddordebau ymhellach, gallwch ddewis astudio pynciau amrywiol mewn mathemateg ac ystadegaeth. Mae ein darlithwyr yn athrawon ymrwymedig ac yn ymchwilwyr gweithgar, sy’n ymestyn ffiniau gwybodaeth fathemategol. Ein nod fel adran yw creu amgylchedd croesawgar a chyfeillgar lle gall myfyrwyr gyrraedd ei llawn botensial mathemategol.

Ymysg y meysydd o Fathemateg ac Ystadegaeth lle mae cyfoeth o wybodaeth arbenigol gennym, ac sy'n ymddangos yn ein modiwlau ni yn aml, y mae topoleg, algebrâu gweithredyddion, theori sbectrol, geometreg y plân cymhlyg, hafaliadau integrol, dulliau asymptotig, gwybodaeth cwantwm ac ystadegaeth fiolegol.

‌‌Yn ychwanegol i ein cynlluniau gradd poblogaidd sy’n canolbwyntio’n gyfan gwbl ar fathemateg ac ystadegaeth, mae nifer o fyfyrwyr yn dewis cyfuno mathemateg neu ystadegaeth gyda phwnc arall, ac rydym yn cynnig dewis eang o gyfuniadau graddau cyfun.

Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein taflen sy'n son am astudio Mathemateg yn Aberystwyth‌, neu cliciwch yma ar gyfer ein llyfryn printiedig Mathemateg.

Gallwch hefyd ddarganfod mwy o wybodaeth am ein Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau, ein hadnodddau addysgu ac ymchwil a’n Diwrnodau Agored ac Ymweld.

Astudio Mathemateg

Mae Mathemateg yn cynrychioli un o gampau mwyaf y meddwl dynol. Mae’r pwnc wedi cyfareddu meddylwyr ar hyd yr oesoedd, o wareiddiad hynafol pum mil o flynyddoedd yn ôl hyd heddiw. Mae’n ddisgyblaeth fyw sy’n parhau i esblygu; mae ffiniau mathemateg wedi ymestyn y tu hwnt i geometreg a theori rhif y Groegiaid ac algebra’r Indiaid ac Islam cynnar.

Cyfeiriodd Carl Friedrich Gauss, un o ymarferwyr enwocaf y pwnc, at Fathemateg fel "Brenhines y Gwyddorau". Mae hynny'n fwy gwir heddiw nag erioed o'r blaen; mae mathemateg wedi ymledu i diriogaeth pob pwnc gwyddonol ac mae’n amhosib dychmygu gwyddoniaeth heb fathemateg.

Mae’r rhestr isod yn cynnwys dolenni sy’n arwain at fwy o wybodaeth am y graddau Mathemateg a gynigir ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae mwyafrif ein myfyrwyr yn dewis dilyn cyrsiau BSc tair blynedd neu MMath pedair blynedd mewn Mathemateg, sy’n cynnwys yr ystod lawn o ddewisiadau modiwlau mathemateg trwy gydol eich gyrfa israddedig. Mae eraill yn dewis canolbwyntio ar ddau allan o’r tri is-ddisgyblaeth sef mathemateg bur, mathemateg gymhwysol ac ystadegaeth. Rydym hefyd yn cynnig gradd Mathemateg sy'n cynnwys blwyddyn sylfaen ar gyfer y rhai sydd heb y cymwysterau mynediad arferol.

Bydd gan rai myfyrwyr gynllun gyrfa fwy penodol ac os hynny efallai y bydd ein cynlluniau pwrpasol mewn Mathemateg Gyllidol, Ffiseg Fathemategol a Damcaniaethol neu Wyddor Data o ddiddordeb. Mae’r addysgu ar y cynlluniau yma wedi ei rannu gyda chydweithwyr yn yr Ysgol Fusnes a’r Adrannau Ffiseg a Cyfrifiadureg yn ôl eu trefn, sy’n caniatáu i chi ddilyn rhaglen astudio sydd wedi’i theilwra’n ofalus ar eich cyfer o fewn y pynciau pwysig yma.

Rydym hefyd yn falch o gynnig cynlluniau cyfun hyblyg, ar ffurf graddau Anrhydedd Cyfun a rhai sy’n cyfuno Prif Bwnc â Phwnc Llai. Yn yr achos hwn buasech yn treulio cyfran o’ch amser yn astudio mathemateg a’r gweddill yn astudio pwnc gwahanol megis Ffiseg, Addysg, Cymraeg neu iaith arall.