COVID-19: pam ei bod hi'n bryd i'r DU ddechrau rhannu ei dosau brechlyn

02 Medi 2021

Mewn erthygl yn The Conversation mae Dr Kamila Stullerova o’r adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod pam mae angen i’r DU ddechrau rhannu brechlynnau gormodol COVID-19 â gwledydd eraill a sut y gallai gwneud hynny arwain at rai buddion ychwanegol

Nawdd Ambiwlans Awyr Cymru’n Esgyn

06 Medi 2021

Pleidleisiodd myfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru fel Elusen y Flwyddyn y Brifysgol am yr ail flwyddyn yn olynol.

Prifysgol Aberystwyth yn lansio Bwrsariaeth Waldo Williams

09 Medi 2021

Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd wedi lansio bwrsariaeth newydd i fyfyrwyr, diolch i haelioni teulu'r bardd enwog, Waldo Williams.

Cyfle i bobl leol lywio addysg nyrsio newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth

10 Medi 2021

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal diwrnodau agored er mwyn ymwneud â’r gymuned leol am ei chynlluniau ar gyfer cynnig cymwysterau nyrsio am y tro cyntaf.

Mae Cymru yn ailfeddwl am ei lle yn y DU - a allai arwain y ffordd i bawb arall?

15 Medi 2021

Mewn erthygl yn The Conversation mae Dr Anwen Elias a Dr Matthew Wall yn trafod sut y mae Cymru’n unigryw yn y modd y mae’n troedio’r llwybr canol â’r pwyslais ar ddiwygio’r Undeb yn hytrach na gadael neu gynnal y status quo.

Entrepreneuriaid ifanc Aberystwyth yn llwyddo gyda busnes beicio mynydd

16 Medi 2021

Mae dau o raddedigion diweddar Prifysgol Aberystwyth wedi defnyddio eu hangerdd dros feicio i lansio busnes twristiaeth sy’n helpu beicwyr mynydd i gynllunio gwyliau beicio yn Nyffryn Dyfi ac Eryri.

Prifysgol Aberystwyth yn ymuno â’r 40 uchaf yng Nghanllaw Prifysgolion Da y Times a’r Sunday Times

17 Medi 2021

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymuno â’r 40 uchaf yng nghanllaw prifysgolion The Times and Sunday Times ’Good University Guide’ 2022, gan adlewyrchu ei chryfderau o ran rhagoriaeth y dysgu a boddhad myfyrwyr.

Myfyrwyr milfeddygaeth cyntaf Cymru yn cychwyn ym Mhrifysgol Aberystwyth

20 Medi 2021

Bydd Ysgol Gwyddor Filfeddygol gyntaf Cymru yn agor ei drysau i fyfyrwyr am y tro cyntaf heddiw (dydd Llun 20 Medi) ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn dathlu Celfyddydau a Chymuned mewn ffilm galonogol gyda cherddoriaeth wreiddiol gan Andrew Cusworth

21 Medi 2021

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, fel rhan o Brifysgol Aberystwyth, yn falch i gyflwyno ffilm fer i ddathlu ail-agor y Ganolfan, gyda cherddoriaeth newydd a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer y prosiect gan y cyfansoddwr Andrew Cuswoth a geiriau gan y bardd Dafydd John Pritchard.

Cyhoeddi Cymrodyr er Anrhydedd newydd ar gyfer 2022

24 Medi 2021

Mae ffigurau blaenllaw o fyd y celfyddydau, darlledu, y gyfraith, amaethyddiaeth, gwyddoniaeth a thechnoleg ymhlith y Cymrodyr er Anrhydedd newydd a gyhoeddwyd gan Brifysgol Aberystwyth.

Mae myfyrwyr rhyngwladol yn dod â gwerth bron £80m o fudd economaidd i Geredigion, ac yn cyfoethogi ei diwylliant, yn ôl adroddiad newydd

29 Medi 2021

Mae adroddiad newydd wedi canfod bod economi Ceredigion bron £80 miliwn ar ei hennill oherwydd myfyrwyr rhyngwladol newydd, yn ogystal ag elwa o'r buddiannau diwylliannol a chymdeithasol a ddaw o boblogaeth fwy amrywiol.

Gallai cynhesu cyflym yn yr Arctig ledaenu gwastraff niwclear, feirysau heb eu darganfod a chemegau peryglus, yn ôl adroddiad newydd

30 Medi 2021

Mae gan rew parhaol yr Arctig sy'n dadmer yn gyflym, y potensial i ryddhau gwastraff ymbelydrol o longau tanfor ac adweithyddion niwclear rhyfel oer, bacteria sy'n gwrthsefyll gwrthfiotigau a feirysau a allai fod heb eu darganfod, yn ôl  ymchwilydd o Brifysgol Aberystwyth a’i waith ar y cyd â thîm o’r Unol Daleithiau.