Straen acíwt mewn ceffylau ddim o reidrwydd yn gysylltiedig â’r dewis o ffrwyn - astudiaeth
02 Medi 2025
Mae astudiaeth newydd wedi canfod nad y math o ffrwyn y mae ceffylau’n ei gwisgo mewn cystadlaethau dressage yw'r unig ffactor sy'n effeithio ar eu lefelau straen.
Prosiect nodedig i astudio etholiad y Senedd 2026
02 Medi 2025
Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Abertawe yn arwain Astudiaeth Etholiadol Cymru 2026, prosiect pedair blynedd a fydd yn darparu data arolwg diduedd o ansawdd uchel ar agweddau gwleidyddol ac ymddygiad pleidleisio yng Nghymru.
Yr Athro Syr Charles Godfray i draddodi’r prif anerchiad mewn cynhadledd ar dwbercwlosis buchol
04 Medi 2025
Bydd yr Athro Syr Charles Godfray CBE FRS, Cadeirydd yr Adolygiad o Strategaeth Dileu TB Buchol Lloegr a gynhaliwyd yn 2025, yn traddodi’r prif anerchiad mewn cynhadledd yn y Brifysgol Aberystwyth yn ddiweddarach y mis hwn.
Parasitolegwyr yn cydweithio i fynd i'r afael â chlefydau llyngyr dinistriol
05 Medi 2025
Mae arbenigwr parasitoleg yn ymuno â rhwydwaith newydd ledled y DU i yrru ymchwil fyd-eang yn y frwydr yn erbyn clefydau parasitig mewn pobl ac anifeiliaid.
Penodi academyddion o Aberystwyth i asesu rhagoriaeth ymchwil y DU
04 Medi 2025
Cyhoeddwyd bod wyth academydd arall o Brifysgol Aberystwyth wedi’u penodi’n aelodau o is-baneli nodedig sy'n asesu rhagoriaeth ymchwil yn sector addysg uwch y DU gan ddod â'r cyfanswm i naw.
Mae Rwsia wedi darparu tystiolaeth newydd o'i huchelgeisiau tiriogaethol yn yr Wcráin
08 Medi 2025
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Jenny Mathers o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn esbonio pe bai Rwsia yn cael rheolaeth dros arfordir y Môr Du, y byddai hynny’n bygwth Moldofa gyfagos.
Melltithion, sibrydion a phryfyn cythraul: dyma stori'r Gymraes gyntaf i gael ei dienyddio am ddewiniaeth
10 Medi 2025
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Mari Ellis Dunning yn egluro sut y cafodd miloedd eu dienyddio am ddewiniaeth ledled Ewrop, ond dim ond pump a gollodd eu bywydau yng Nghymru.
Academydd Aberystwyth yn cyhoeddi archwiliad newydd cyfareddol i’r goruwchnaturiol
11 Medi 2025
Apêl oesol chwilio am ysbrydion yw testun llyfr newydd a gyhoeddir gan y Dr Alice Vernon heddiw.
Llyfr newydd Owain Glyndŵr yn datgelu delweddau newydd o gefnogwyr y gwrthryfel
16 Medi 2025
Mae haneswyr Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi llyfr newydd o bwys am y prif gymeriadau a gefnogodd gwrthryfel Owain Glyndŵr ar y diwrnod cenedlaethol i’w goffáu.
Profi ‘hwb’ imiwnedd brechlyn gwartheg - ymchwil newydd
16 Medi 2025
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn arwain ymchwil ar sut y gall brechlyn cyffredin hybu imiwnedd cyffredinol mewn da byw.
Arbenigwyr twbercwlosis buchol yn trafod strategaeth frechu
Heddiw (dydd Mercher 17 Medi), mae gwyddonwyr, milfeddygon a llunwyr polisi blaengar o bedwar ban Prydain wedi cyfarfod ym Mhrifysgol Aberystwyth i drafod strategaethau brechu at dwbercwlosis buchol.
Sut mae pryfyn yn gweld y byd – a pham y gall deall ei weledigaeth helpu i atal clefydau
17 Medi 2025
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Roger Santer o'n Hadran Gwyddorau Bywyd yn trafod sut mae pryfed yn gweld y byd yn wahanol i fodau dynol, a sut y gall deall hyn helpu i atal clefydau.
Enwi Aberystwyth yn Brifysgol y Flwyddyn am Gynaliadwyedd
19 Medi 2025
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi’i henwi yn Brifysgol y Flwyddyn am Gynaliadwyedd ac wedi esgyn yn nhablau Canllaw Prifysgolion Da y Times a’r Sunday Times 2026.
Astudiaeth o rewlifoedd yn yr Andes yn taflu goleuni ar effaith yr hinsawdd yn y dyfodol
22 Medi 2025
Mae ymchwil newydd wedi canfod bod rhewlifoedd yr Andes wedi tyfu yn ystod cyfnod acíwt o newid yn yr hinsawdd ar ddiwedd yr Oes Iâ ddiwethaf.
Angen ailfeddwl gwerthuso natur i daclo’r argyfwng bioamrywiaeth – astudiaeth
23 Medi 2025
Mae’r ffordd o feddwl economaidd hen ffasiwn yn arwain at golli bioamrywiaeth, yn ôl astudiaeth ryngwladol newydd a arweinir gan academyddion o Brifysgol Aberystwyth, sy'n galw am newid sylfaenol yn y ffordd y mae natur yn cael ei gwerthuso.
Partneriaeth ryngwladol newydd i hybu technolegau amaethyddol gwyrdd
24 Medi 2025
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi llofnodi partneriaeth newydd gydag Academi Gwyddorau Amaethyddol Zhejiang i gryfhau ei gwaith mewn technolegau amaethyddol gwyrdd.
Rwsia yn troi at fenywod Affricanaidd a milwyr Gogledd Corea i fynd i'r afael â'i phrinder gweithwyr amddiffyn
25 Medi 2025
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Jenny Mathers o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn esbonio bod angen tua 400,000 yn fwy o weithwyr ar ddiwydiant amddiffyn Rwsia nag y mae'n eu cyflogi ar hyn o bryd.
Dyfais AI i adfer lleferydd yn ennill gwobrau myfyrwyr
30 Medi 2025
Myfyriwr a greodd ddyfais i helpu pobl ag amhariad lleferydd, ac un a ddechreuodd fusnes i dyfu te yn lleol oedd ymhlith enillwyr cystadleuaeth dechrau busnes myfyrwyr.