Cefnogaeth ar gyfer Effaith Ymchwil

Ein nod yw darparu cymorth a gwobrwyo staff sydd wedi cymryd rhan yn gyson mewn cefnogaeth a gwobrwyo staff sydd wedi cymryd rhan yn gyson mewn gweithgareddau ymgysylltu, effaith ac arloesi, tra'n darparu cyfleoedd newydd i'r rhai a allai fod wedi'u cyfyngu rhag gwneud hynny yn y gorffennol.

Gyda'r pwyslais cynyddol gan Gynghorau Ymchwil a Chyllido'r DU ar drosi ymchwil i effaith ac arloesi, mae Aberystwyth yn awyddus i alluogi cymaint â phosib o'n hymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol i gyflawni ei botensial effaith. Fel rhan o ymrwymiad y Brifysgol i fuddsoddi mewn effaith ac arloesi, ceir nifer o fentrau newydd i gael gwared o rwystrau a allai atal effaith ein hymchwil.

Amser

Gall gweithgareddau effaith neu arloesi ymchwil weithiau gymryd llawer o amser, ond (heblaw yn achos rhai grantiau allanol) prin eu bod wedi'u hariannu'n uniongyrchol. Gall hyn olygu fod effaith ymchwil neu arloesi yn derbyn llai o flaenoriaeth o'i gymharu â meysydd eraill. Bydd PA yn mynd i'r afael â hyn drwy dyrannu amser yn y WAMM a chreu cofnod penodol ar gyfer gweithgareddau effaith. Mae'r WAMM wedi ei atal ers blwyddyn calendr 2023 er mwyn gwella ei ymarferoldeb. 

Cymorth Gweinyddol

Mae Swyddogion Effaith Ymchwil a Chyfnewid Gwybodaeth yn darparu cyngor disgyblaeth-benodol, cymorth wrth ymgymryd â gweithgareddau ymgysylltu ac effaith a chymorth wrth ysgrifennu astudiaethau achos ar gyfer y REF.

Mae cyflwyno tystiolaeth ar gyfer effaith ymchwil yn hanfodol, yn enwedig ar gyfer yr FfRhY, ond gall weithiau fod yn broses hir sy'n cymryd llawer iawn o amser. Rydym hefyd yn cynnig cymorth arbenigol ac yn goruchwylio casglu data (e.e. ar PURE) yn ogystal ag archwilio cyfleoedd ymchwil trwy gasglu tystiolaeth effaith.

Mae PURE yn caniatáu staff i gasglu gweithgarwch ymchwil cyfredol gan gynnwys allbynnau ymchwil, gweithgareddau ac effeithiau ar un system ddiogel. Mae PURE hefyd yn bwydo data i mewn i Borth Ymchwil PA. Mae Porth Ymchwil Aberystwyth yn gwneud y gorau o ymchwil staff ac ôl-raddedigion Prifysgol Aberystwyth sydd ar gael yn agored ar-lein, yn rhad ac am ddim. Yn y porth cynhwysir allbynnau cyhoeddedig, traethodau ôl-raddedig, manylion y prosiect, yn ogystal â chofnodion o weithgareddau parch eraill. Gall pob aelod o staff academaidd ymchwil fewngofnodi i'r system gyda'u manylion mewngofnodi PA. Cysylltwch â'r Swyddog Data Mynediad Agored ac Ymchwil, pure@aber.ac.uk, os oes unrhyw broblem.

Hyfforddiant

Mae'r Brifysgol yn cydnabod ei fod yn hollbwysig darparu hyfforddiant i staff ar bob agwedd o effaith ymchwil. 

Dyrannwyd cyllid i ddarparu cyfleoedd i staff academaidd gael eu hyfforddi gan arbenigwyr allanol. Ategir hyn gan hyfforddiant 'mewnol' a gynnigir gan ein Swyddogion Effaith Ymchwil a Chyfnewid Gwybodaeth a gan aelodau eraill o staff sydd eisoes wedi cael llwyddiant yn gwireddu effaith ac sy'n gallu trosglwyddo arfer gorau.

Mae'r Swyddogion Effaith Ymchwil a Chyfnewid Gwybodaeth hefyd yn derbyn hyfforddiant parhaus er mwyn gwneud yn siwr eu bod yn rhoi'r cyngor gorau. Mae'r hyfforddiant yn amrywio o sesiynau arfer gorau ar draws y sector, sesiynau ‘Hyfforddi'r Hyfforddwr’ a sesiynau dan arweiniad Senedd y DU / Llywodraeth Cymru. Mae'r hyfforddiant yma wedyn yn eu galluogi i gynnig cyflwyniadau a gweithdai effeithiol, cymorthfeydd un-i-un ac i godi ymwybyddiaeth o effaith ymchwil ledled yr Adrannau. Cysylltwch ag unrhyw anghenion hyfforddi penodol.

Cydnabyddiaeth

Mae'r Brifysgol yn annog gweithgareddau effaith ymchwil wrth gydnabod arfer da:

Hyrwyddo effaith ymchwil ar dudalennau gwe a chyhoeddiadau eraill y Brifysgol - Bydd llwyddiant yn y maes effaith ymchwil yn cael ei hyrwyddo ar wefan y Brifysgol ac mewn deunydd cyhoeddedig a chyhoeddusrwydd.

Gweler esiamplau o brosiectau ag effaith ymchwil rhagorol isod ac hefyd ar ein tudalen Ymchwil ar Waith.

 

Bioamrywiaeth a Gwerthoedd Natur: Yr Athro Michael Christie, Ysgol Fusnes Aberystwyth

 

Rheoleiddio Masnachu Pobl: Yr Athro Ryszard Piotrowicz, Adran y Gyfraith a Throseddeg 

 

Trawsnewid yr Ymateb i Drais a Cham-drin Domestig (DVA) yn ddiweddarach mewn bywyd trwy Fenter Dewis Choice: Dr Sarah Wydall, Adran Y Gyfraith a Throseddeg

 

Lleihau'r ddibyniaeth ar borthiant protein wedi'i fewnforio o fewn cadwyn gyflenwi anifeiliaid cnoi cil: Dr Christina Marley, IBERS

 

‘CSI’ Canoloesol - cyfraniad seliau canoloesol i ymchwil wyddonol ac arferion treftadaeth: Dr Elizabeth New, Adran Hanes a Hanes Cymru

 

Defnyddio teleiechyd i gefnogi anghenion seicogymdeithasol cleifion gofal lliniarol a chleifion canser: Dr Rachel Rahman, Adran Seicoleg

 

Cydweithredu ar achosion torfol o salwch: Yr Athro Colin McInnes, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol

 

Rheoli pysgodfeydd yn gynaladwy: Yr Athro Paul Shaw, Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig

 

Dronau a Malaria: Dr Andy Hardy, Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

 

Adfywio Ieithoedd Lleiafrifol: Dr Catrin Wyn Edwards, Dr Huw Lewis a Dr Elin Royles, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol