Mentoriaid

Pam bod yn Fentor?

Er y gall manteision y cynllun i'r rhai sy'n cael eu mentora fod yn amlwg, mae nifer o fanteision hefyd i fod yn Fentor ar y Cynllun. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Gwneud eich hun yn gyflogadwy: ffordd dda o ennill ychydig o arian a rhoi hwb i'ch CV!
  • Datblygu a gwella eich sgiliau: gan gynnwys cyfathrebu, gwrando gweithredol, trefnu a rheoli amser
  • Cael hyfforddiant ar gyfer arferion craidd mentora
  • Mae'n gyfle ardderchog i rannu eich profiadau a chynorthwyo myfyrwyr eraill!

'Bod yn fentor fu un o brofiadau mwyaf gwerth chweil fy mywyd. Trwy gynllun 'Ffordd Hyn', rydw i wedi cael cyfle i gynorthwyo myfyrwyr i gyflawni eu haddewid, a bydd yr hyfforddiant a'r sgiliau a ges i drwy'r rhaglen yn rhai y gallaf eu defnyddio gweddill fy oes' - Mentor 'Ffordd Hyn'

 

Pwy ddylai fod yn Fentor?

Bydd gan unrhyw fyfyriwr israddedig yn yr ail,  drydedd flwyddyn neu'r flwyddyn olaf neu fyfyriwr uwchraddedig y profiad a'r ddealltwriaeth angenrheidiol i fod yn Fentor ar y Cynllun. Ymhlith y sgiliau, y nodweddion a'r wybodaeth yr ydyn ni'n chwilio amdanynt mae:

  • Gwybodaeth drwyadl am drefn gwasanaethau a chymdeithasau Prifysgol Aberystwyth
  • Awydd i gynorthwyo myfyrwyr i osgoi agweddau negyddol bywyd prifysgol, a byddai profiad perthnasol yn yr ysgol, mewn clybiau, neu yn y Brifysgol yn ddefnyddiol, ond nid yw'n hanfodol
  • Dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd
  • Dawn i reoli amser a bod yn drefnus
  • Sgiliau gwrando a chyfathrebu (rhoddir hyfforddiant i wella'r rhain)
  • Unrhyw brofiad perthnasol mewn meysydd allweddol, (e.e. astudio dramor, iechyd meddwl, a hunaniaeth o ran rhywioldeb)
  • Byddai cael siaradwyr Cymraeg yn fanteisiol ond nid yw'n hanfodol.

'Roedd gen i awydd gwirioneddol i gymryd rhan yn y cynllun mentora er mwyn gallu rhoi rhywbeth yn ôl i'r Brifysgol a'm helpodd i dyfu fel unigolyn. Mae wedi bod yn wych i ddatblygu fy sgiliau ac ar gyfer fy CV, ac fe gafodd ei grybwyll mewn sawl cyfweliad a gefais ers hynny.' - Mentor 'Ffordd Hyn'

Sut i fod yn Fentor

Mae'r drefn ymgeisio i ddarpar Fentoriaid y cynllun yn dechrau adeg y Pasg (mis Mawrth neu fis Ebrill) bob blwyddyn. Ar yr adeg hon, croesewir ceisiadau gan unrhyw fyfyriwr a fydd naill ai yn y drydedd flwyddyn (y flwyddyn olaf) neu yn uwchraddedigion yn y flwyddyn academaidd nesaf.

Hysbysebir ar Gwaith Aber:
https://www.aber.ac.uk/cy/hr/aberworks/

Pwysig: bydd angen i fyfyrwyr gofrestru gyda Gwaith Aber er mwyn gallu cael yr wybodaeth.

Bydd manylion y drefn ymgeisio yn cael eu rhoi hefyd yn yr E-bost Wythnosol.

'Hoffwn ddiolch i chi hefyd am y cyfle i fod yn fentor 'Ffordd Hyn' eleni ac am yr holl gefnogaeth a roddoch i ni gyd. Rydw i wedi mwynhau'r profiad yn eithriadol ac wedi meithrin llawer o sgiliau newydd!' - Mentor 'Ffordd Hyn'

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin