Rheoli Arian

Os mai dyma’r tro cyntaf i chi gael eich arian eich hun, mae’n bosib eich bod yn bryderus ynghylch sut y byddwch yn ymdopi.

Rydym ni’n gallu cynnig cymorth ar bob math o faterion cyllid, a gallwch drefnu oed ag ymgynghorydd myfyriwr i drafod unrhyw broblemau ariannol.

I fwcio apwyntiad gydag ymgynghorwyr i drafod eich materion, cliciwch y botwm ar y dde. 

Neu cysylltwch â ni drwy e-bost ar student-support@aber.ac.uk neu drwy ffonio (01970) 621761 // 622087, neu dewch i’r Dderbynfa ar gwaelod llawr y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr.

Os ewch i drafferthion gydag arian y peth pwysig yw siarad â rhywun amdano. Peidiwch ag anwybyddu’r broblem, neu fe aiff yn waeth.