Gadewch i ni gydweithio!
Yn fwy nag erioed o'r blaen, rydym yn gwerthfawrogi eich profiad a'ch gwybodaeth uniongyrchol am newid arferion recriwtio, ffyrdd hyblyg o weithio, tueddiadau'r farchnad lafur wrth iddynt ddatblygu, a'r sgiliau a'r meddylfryd sydd eu hangen i lwyddo ym myd cyflogaeth graddedigion.
Os hoffech chi archwilio opsiynau ar gyfer cydweithio i gefnogi ein myfyrwyr a helpu i'w paratoi ar gyfer eu bywyd gwaith, neu os oes angen unrhyw wybodaeth arnoch am ein hadrannau academaidd, ein pynciau a’n poblogaeth o fyfyrwyr, cysylltwch â Jacqui: jah30@aber.ac.uk / 01970 628670, neu lenwi'r ffurflen ar-lein hon:
Nodyn am ein Digwyddiadau Cyflogwyr yn 2020-21
Yn sgil pandemig COVID-19, dim ond digwyddiadau rhithwir i gyflogwyr y byddwn yn eu cynllunio ar gyfer ein rhaglen yn 2020-21. Nid oes unrhyw gynlluniau i gynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb ar y campws, ond byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi os bydd hyn yn newid. Cysylltwch â Jacqui os hoffech gydweithio yn ystod y flwyddyn academaidd sydd i ddod:
Themâu
Ymwneud â lleoliadau gwaith ac interniaethau (myfyrwyr yr 2il flwyddyn)
Golwg fanwl ar sectorau
Paratoi ar gyfer gwaith (sgiliau cyflogadwyedd)
Rheoli effaith COVID
Cyfleoedd dramor
Dosbarth 2021 (myfyrwyr blwyddyn olaf)
Hwyluswyr/cyfranwyr
Ymgynghorwyr gyrfaoedd
Arbenigwyr y diwydiant
Recriwtwyr graddedigion
Alumni
Myfyrwyr presennol (e.e. y rhai sy’n dychwelyd o flwyddyn ar leoliad)
Mathau o ddigwyddiadau
Sesiwn holi ac ateb
Gweithdy rhyngweithiol
Gweminar
Clipiau fideo byr
Wythnos gweithgaredd
Stondin wybodaeth ar-lein
Llwyfannau
MS Teams
gyrfaoeddABER (TARGETconnect)
Y cyflogwr ei hun
Eraill i'w cadarnhau
Ffair Yrfaoedd Rithwir Genedlaethol Cymru Gyfan 2021
Mae Prifysgol Aberystwyth ar hyn o bryd yn cydweithio â Phrifysgolion eraill yng Nghymru i gynnal Ffair Yrfaoedd Genedlaethol rithwir – croesewir pob sefydliad. Bydd manylion pellach yn cael eu cyhoeddi cyn gynted ag y byddant ar gael.
Jacqui Ho, Swyddog Cydlynu â Chyflogwyr, Gwasanaeth Gyrfaoedd, Prifysgol Aberystwyth: jah30@aber.ac.uk / 01970 628670