Cwestiynau Cyffredin

Beth yw Cronfa Peter Hancock?

Mae Cronfa Ysgoloriaeth Peter Hancock yn dyfarnu grantiau i fyfyrwyr teilwng sydd mewn angen ac yn Blwyddyn 2 Anrhydedd neu gyfwerth mewn unrhyw ddisgyblaeth ac o unrhyw genedl ac sy'n dangos potensial er budd cymdeithas drwy gwblhau yn llwyddiannus o'u Graddau Anrhydedd neu gyfwerth.

Sut mae gwneud cais am yr ysgoloriaeth?

Ffurflen Gais 2024

Hefyd gofynnir i chi ddarparu dogfennau ategol, gan gynnwys:

  • Datganiad personol sy’n mynd i'r afael â’r cwestiynau meini prawf dethol penodol
  • Geirda ysgrifenedig gan eich tiwtor personol a all roi sylwadau ar eich perfformiad academaidd a nodweddion personol eraill
  • Tystiolaeth ynglŷn â'ch amgylchiadau ariannol

I ble ydw i'n cyflwyno fy nghais?

Dylid dychwelyd ffurflenni wedi’u cwblhau at: cynghorydd-myfyrwyr@aber.ac.uk (Sylwer y gallwn dderbyn delweddau o ansawdd da o ddogfennau ategol os na allwch ddarparu sgan).

Sut caiff ceisiadau’r ysgoloriaeth ei hasesu?

Caiff Cronfa Ysgoloriaeth Peter Hancock eu dewis gan y Panel Dethol mewn cydweithrediad â'r Rhoddwyr. Unwaith y bydd dyddiad cau yr ysgoloriaeth wedi bod caiff yr holl geisiadau yn eu hasesu a'u rhestru gan y Panel yn ôl meini prawf dethol penodol yr ysgoloriaeth a chaiff rhestr fer o ymgeiswyr ag argymhellion y Panel ei hanfon at y rhoddwyr ar gyfer eu hystyried ac ar gyfer y dewis terfynol. Bydd y broses hon yn cymryd o leiaf 6 wythnos ar ôl y dyddiad cau.

Sut fyddaf i'n gwybod os ydw i wedi derbyn yr ysgoloriaeth?

Yn anffodus, dim ond yr ymgeiswyr llwyddiannus neu ymgeiswyr wrth gefn sydd yn cael eu hysbysu fel rheol. Byddwch yn cael gwybod drwy eich cyfeiriad e-bost prifysgol.

Sut mae'r ysgoloriaeth yn cael ei thalu?

Byddwn yn gwneud taliadau uniongyrchol i'ch cyfrif banc mewn rhandaliadau gan ddefnyddio'r manylion banc a nodwyd ar eich ffurflen.

A allaf wneud cais am ysgoloriaeth os ydw i’n rhan-amser?

Na, rhaid eich bod wedi cofrestru fel myfyriwr llawn amser.

A allaf wneud cais am ysgoloriaeth os nad ydw i’n Ddinesydd Gwledydd Prydain neu breswylydd parhaol?

Gallwch. Mae’r Gronfa Peter Hancock yn agored i fyfyrwyr cartref, yr UE a rhyngwladol.

Rwyf mewn caledi ariannol,bydd yr ysgoloriaeth hon yn helpu?

Mae'r broses ymgeisio yn un cystadleuol - ac nid oes unrhyw sicrwydd y byddwch yn derbyn ysgoloriaeth o’r Gronfa. Mae hefyd yn cymryd amser i geisiadau gael eu hadolygu ac i ddewis derbynnydd yr ysgoloriaeth. Os ydych mewn angen ariannol dybryd, dylech ystyried cysylltu â Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr i holi am y gronfa galedi sydd yn darparu cymorth ariannol mwy uniongyrchol.

A allaf gadw fy nyfarniad os byddaf yn symud i sefydliad arall?

Nid oes modd trosglwyddo Cronfa Peter Hancock i brifysgol neu sefydliad arall.

A allaf weithio os ydw i wedi derbyn ysgoloriaeth?

Gallwch wneud gwaith achlysurol os byddwch yn derbyn ysgoloriaeth os ydy’r Brifysgol yn fodlon eich bod yn fyfyriwr amser llawn yn y Brifysgol ac na fydd eich gwaith mewn unrhyw fodd yn ymyrryd gyda'ch astudiaethau. Pwrpas yr ysgoloriaethau yw lleihau a dileu'r angen am waith cyn belled ag y bo modd, yn enwedig yn ystod y tymor, fel y gall ymgeiswyr llwyddiannus neilltuo eu hamser a'u hymdrechion i'w astudiaethau Blwyddyn 2 Anrhydedd neu gyfwerth. Terfynir yr ysgoloriaeth os canfyddir bod deiliad yr ysgoloriaeth wedi mynd yn groes i ysbryd a rheoliadau’r ysgoloriaeth.