Ysgoloriaeth Amaeth y CLA a Phrifysgol Aberystwyth

Mae Ymddiriedolaeth Elusennol y Gymdeithas Tirfeddianwyr Cefn Gwlad (CLA) yn cynnig hyd at ddwy ysgoloriaeth i gefnogi myfyrwyr sy'n dymuno gwneud cais i astudio cyrsiau Amaethyddol ym Mhrifysgol Aberystwyth o Fedi 2024.  Mae Ymddiriedolaeth Elusennol y CLA yn arbennig o awyddus i gefnogi unigolion sy'n gallu dangos diddordeb nodedig mewn Polisi Amaethyddol a materion eraill a fydd yn llywio dyfodol diwydiant amaethyddol ledled Cymru a'r DU. Gofynnir am geisiadau gan unigolion sy'n awyddus i ddod â syniadau a gweledigaeth newydd i'r diwydiant.

Pwy all wneud cais?

Ymgeiswyr o'r DU ar gyfer cyrsiau FdSc, BSc ac MAg (Meistr Integredig) mewn 'Amaethyddiaeth' a chyrsiau cysylltiedig (gan gynnwys 'Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid' ac 'Amaethyddiaeth gyda Busnes a Rheolaeth').

Sut i wneud cais?

Bydd angen i ymgeiswyr gyflwyno fideo byr (<3 munud) yn cyflwyno eu hunain ac yn dweud pam y dylid dyfarnu'r ysgoloriaeth iddynt. Bydd rhestr fer yn cael ei lunio ar sail y fideos a gyflwynwyd a bydd enillydd(wyr) yr ysgoloriaeth(au) yn cael eu penderfynu drwy gyfweliad byr gyda chynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth Elusennol y CLA a Phrifysgol Aberystwyth.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 20 Hydref 2024.

Ffurflen gais

Gwerth Ysgoloriaethau

Mae'r gwobrau'n werth £3,000 yr un i'w talu mewn rhandaliadau yn ystod y ddwy mlynedd gyntaf o'r cwrs.

Telir y rhandaliad cyntaf o £750 ym mis Rhagfyr 2024 a thelir yr ail randaliad o £750 ym mis Mawrth 2025. Yn yr ail flwyddyn, telir y trydydd rhandaliad o £750 ym mis Rhagfyr 2025 a'r pedwerydd rhandaliad o £750 ym mis Ebrill 2026.

Amodau

Rhaid i ddeiliaid dyfarniadau fodloni'r gofynion ar gyfer dilyniant academaidd ar eu cwrs ac ymgysylltu â gweithgareddau’r CLA yn ôl y gofyn. Os na chaiff amodau eu bodloni'n llawn gan enillydd, neu os bydd enillydd yn newid i gwrs anghymwys, yna caiff y cyllid ei derfynu.