Gofynion Adrannol

Edrychwch ar y Gofynion Adrannol isod i weld pa bapur arholiad ysgoloriaeth y dylech ei ddewis ar y ffurflen gais.

Os ydych wedi gwneud cais am fwy nag un cwrs, bydd angen i chi:

1. Ddewis ba gwrs yr hoffech i'ch cynnig diamod a/neu ddyfarniad ariannol gael ei gymhwyso iddo, os byddwch yn llwyddiannus; a
2. Sefyll papur arholiad ysgoloriaeth sy'n dderbyniol ar gyfer y cwrs hwnnw fel y rhestrir isod.

Os oes mwy nag un papur arholiad wedi'i restru ar gyfer eich cwrs dewisol, gallwch ddewis pa bapur i'w eistedd.

Sylwer: Mae'r gofynion isod hefyd yn berthnasol i gynlluniau gradd sydd â blwyddyn sylfaen integredig, blwyddyn integredig mewn diwydiant neu flwyddyn integredig yn astudio dramor. Nid yw'r amrywiadau hyn wedi'u rhestru ar wahân.

Nid yw ymgeiswyr i gynlluniau Ategol, Nyrsio a Gwyddor Milfeddygaeth yn gymwys i wneud cais.

Mae'r dudalen hon wedi cael ei diweddaru ar gyfer mynediad 2027. 
13/10/26

Addysg ac Astudiaethau Plentyndod

Mae’r papur arholiad yn addas ar gyfer ymgeiswyr sy’n astudio ar gyfer cymhwyster Addysg neu Blentyndod a’r rheiny sy’n ymddiddori yn y pwnc.

Er bod ymgeiswyr anrhydedd sengl i’r Ysgol Addysg yn cael eu hannog i ystyried dewis y papur hwn, mae unrhyw bapur yn dderbyniol.

Ar gyfer cyrsiau Anrhydedd Cyfun, gweler y gofynion papur isod. Os nad yw'r cwrs Anrhydedd Cyfun yr ydych wedi gwneud cais amdano wedi'i restru, gallwch sefyll unrhyw bapur.

  • Cymraeg / Addysg: Cymraeg (Iaith Fodern) neu Cymraeg (Iaith Gyntaf)
  • Mathemateg / Addysg: Mathemateg

 Ar gyfer cyrsiau Prif Bwnc/Isbwnc, gweler unrhyw ofynion papur isod:

  • Mathemateg gydag Addysg: Mathemateg

Astudiaethau Gwybodaeth

Er bod ymgeiswyr i’r Adran yn cael eu hannog i ystyried dewis y papur Astudiaethau Gwybodaeth, mae unrhyw bapur yn dderbyniol.

Ni ddisgwylir unrhyw wybodaeth arbenigol na thechnegol ond bydd gallu dangos ymgysylltiad â materion cyfoes, yn enwedig lle mae gwybodaeth yn cael effaith – e.e. bydd 'newyddion ffug', sensoriaeth, preifatrwydd, cyfryngau electronig, yn fanteisiol. Am fwy o wybodaeth am y papur arholiad, ewch i'r dudalen drosolwg pwnc.

Theatr, Ffilm a Theledu

Er bod ymgeiswyr anrhydedd sengl i’r Adran yn cael eu hannog i ystyried dewis y papur 'Astudiaethau Ffilm a Theledu' neu 'Drama ac Astudiaethau Theatr', mae unrhyw bapur yn dderbyniol.

Ar gyfer cyrsiau Anrhydedd Cyfun, gweler y gofynion papur isod. Os nad yw'r cwrs Anrhydedd Cyfun yr ydych wedi gwneud cais amdano wedi'i restru, gallwch sefyll unrhyw bapur.

Celf

Rhaid i ymgeiswyr i gynlluniau gradd sy’n cynnwys Celfyddyd Gain gyflwyno Portffolio digidol o'u gwaith celf gwreiddiol fel ei papur arholiad.

Rhaid i ymgeiswyr i gynlluniau gradd sy’n cynnwys Hanes Celf gymryd y papur Hanes Celf fel ei papur arholiad.

Mae ymgeiswyr sydd â Chelf Gain a Hanes Celf yn eu cynllun gradd (er enghraifft BA Celfyddyd Gain / Hanes Celf History) yn gallu dewis rhwng cyflwyno'r portffolio Celf Gain neu'r papur Hanes Celf fel ei papur arholiad.  

Cyfrifiadureg

Nod arholiad ysgoloriaeth Cyfrifiadureg yw asesu'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth gyffredinol y bydd yr ymgeiswyr wedi'u meithrin cyn dod i'r brifysgol, ym meysydd Cyfrifiadureg a Thechnoleg Gwybodaeth fel ei gilydd.

Rhaid i ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais am gwrs anrhydedd sengl sy'n cynnwys Cyfrifiadureg gymryd y papur Cyfrifiadureg, heblaw ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais am y cwrs Gwyddor Data. Rhaid i ymgeiswyr i'r cwrs Gwyddor Data sefyll y papur Mathemateg. 

Ar gyfer cyrsiau Anrhydedd Cyfun, gweler unrhyw ofynion papur isod:

  • Busnes a Rheolaeth a Chyfrifiadura: Cyfrifiadureg
  • Cyfrifeg a Chyllid a Chyfrifiadura: Cyfrifiadureg
  • Cyfrifiadureg / Mathemateg: Mathemateg
  • Cyfrifiadureg / Daearyddiaeth Ffisegol: Cyfrifiadureg

Cymdeithaseg

Dylai ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais am gwrs sy'n cynnwys Cymdeithaseg ddewis papur arholiad fel yr amlinellir isod:

  • Cymdeithaseg: Cymdeithaseg
  • Troseddeg a Chymdeithaseg: Cymdeithaseg neu Droseddeg
  • Seicoleg a Chymdeithaseg: Cymdeithaseg neu Seicoleg
  • Cymdeithaseg a Gwleidyddiaeth: Cymdeithaseg, Gwleidyddiaeth neu Wleidyddiaeth Ryngwladol

Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear (Yn cynnwys Gwyddor yr Amgylchedd)

Rhaid i ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais am gwrs o fewn Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear sefyll papur arholiad perthnasol fel yr amlinellir isod.

Anrhydedd Sengl:

  • Daearyddiaeth: Daearyddiaeth Ffisegol neu Ddaearyddiaeth Ddynol
  • Daearyddiaeth Ddynol: Daearyddiaeth Ddynol neu Gymdeithaseg
  • Daearyddiaeth Ffisegol: Daearyddiaeth Ffisegol neu Daeareg a Gwyddor Daear Amgylcheddol
  • Gwyddor yr Amgylchedd: Daearyddiaeth Ffisegol, Daeareg a Gwyddor Daear Amgylcheddol neu Bioleg 2: Organebau i Ecosystemau
  • Gwyddor Daear Amgylcheddol: Daearyddiaeth Ffisegol neu Daeareg a Gwyddor Daear Amgylcheddol
  • Cymdeithaseg: Cymdeithaseg
  • Seicoleg a Chymdeithaseg: Seicoleg neu Gymdeithaseg
  • Cymdeithaseg a Gwleidyddiaeth: Cymdeithaseg neu Wleidyddiaeth
  • Troseddeg a Chymdeithaseg: Cymdeithaseg neu Droseddeg

Ar gyfer cyrsiau Anrhydedd Cyfun, gweler unrhyw ofynion papur isod:

  • Cymraeg / Daearyddiaeth: Cymraeg (Iaith Fodern) neu Cymraeg (Iaith Gyntaf)
  • Daearyddiaeth Ffisegol / Mathemateg: Mathemateg
  • Daearyddiaeth Ffisegol / Cyfrifiadureg: Cyfrifiadureg

 

Ffiseg

Er mwyn cael eu hystyried am gynnig diamod a/neu wobr ariannol, rhaid i’r ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais i'r Adran Ffiseg sefyll papur arholiad perthnasol yn unol â’r canllawiau isod:

- Rhaid i ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais am y cyrsiau FG31 (Mathemateg / Ffiseg), neu F340 neu F341 (Ffiseg Mathemategol a Damcaniaethol), sefyll naill ai'r papur Ffiseg neu Fathemateg.

- Rhaid i ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais am unrhyw gwrs arall sy'n cynnwys Ffiseg, Peirianneg neu Astroffiseg* sefyll y papur Ffiseg.

*y cyrsiau sy'n cynnwys Ffiseg yw'r rhai a restrir yn https://www.aber.ac.uk/cy/phys/study-with-us/undergrad/.

Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Er bod ymgeiswyr anrhydedd sengl i’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn cael eu hannog i ystyried dewis y papur 'Gwleidyddiaeth' neu 'Gwleidyddiaeth Ryngwladol', mae unrhyw bapur yn dderbyniol.

Ar gyfer Anrhydedd Cyfun,
gweler y gofynion papur isod. Os nad yw'r cwrs Anrhydedd Cyfun yr ydych wedi gwneud cais amdano wedi'i restru, gallwch sefyll unrhyw bapur.

  • Cymdeithaseg a Gwleidyddiaeth: Cymdeithaseg, Gwleidyddiaeth neu Wleidyddiaeth Ryngwladol.
  • Cymraeg / Cysylltiadau Rhyngwladol: Cymraeg (Iaith Fodern) neu Cymraeg (Iaith Gyntaf)

 

Gwyddorau Bywyd

Er mwyn cael eu hystyried ar gyfer cynnig diamod a/neu wobr ariannol, rhaid i ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais i'r Adran Gwyddorau Bywyd sefyll papur arholiad perthnasol fel yr amlinellir isod:

Rhestrir y cwrs ar y chwith a gofynion y papur arholiad wrth ei ymyl. Os oes mwy nag un papur arholiad wedi'i restru ar gyfer y cwrs rydych chi wedi'i ddewis, gallwch ddewis pa bapur i'w sefyll. Bydd ein tudalennau Trosolwg Pwnc a'n Hen Bapurau yn rhoi syniad i chi o'r hyn i'w ddisgwyl.

    • Amaethyddiaeth: Amaethyddiaeth
    • Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid: Amaethyddiaeth
    • Amaethyddiaeth gyda Rheoli Busnes: Amaethyddiaeth
    • Ymddygiad Anifeiliaid: Bioleg 1: Moleciwlau i Organau neu Bioleg 2: Organebau i Ecosystemau
    • Gwyddor Anifeiliaid: Bioleg 1: Moleciwlau i Organau neu Bioleg 2: Organebau i Ecosystemau neu Gwyddor Anifeiliaid a Cheffylau
    • Biocemeg: Bioleg 1: Moleciwlau i Organau neu Cemeg
    • Bioleg: Bioleg 1: Moleciwlau i Organau neu Bioleg 2: Organebau i Ecosystemau
    • Gwyddor Fiofeddygol: Bioleg 1: Moleciwlau i Organau neu Cemeg
    • Ecoleg: Bioleg 2: Organebau i Ecosystemau
    • Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol: Bioleg 1: Moleciwlau i Organau neu Gwyddor Anifeiliaid a Cheffylau
    • Geneteg: Bioleg 1: Moleciwlau i Organau neu Bioleg 2: Organebau i Ecosystemau
    • Gwyddor Iechyd (Maeth ac Ymarfer Corff): Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
    • Bioleg y Môr a Dŵr Croyw: Bioleg 2: Organebau i Ecosystemau
    • Microbioleg: Bioleg 1: Moleciwlau i Organau
    • Bioleg Planhigion: Bioleg 2: Organebau i Ecosystemau
    • Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff: Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
    • Biowyddorau Milfeddygol: Bioleg 1: Moleciwlau i Organau neu Bioleg 2: Organebau i Ecosystemau neu Gwyddor Anifeiliaid a Cheffylau
    • Cadwraeth Bywyd Gwyllt: Bioleg 2: Organebau i Ecosystemau
    • Sŵoleg: Bioleg 1: Moleciwlau i Organau neu Bioleg 2: Organebau i Ecosystemau

    Hanes a Hanes Cymru

    Er bod ymgeiswyr i gyrsiau anrhydedd sengl yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn cael eu hannog i ystyried dewis y papur Hanes, mae unrhyw bapur yn dderbyniol.

    Ar gyfer cyrsiau Anrhydedd Cyfun, gweler y gofynion papur isod. Os nad yw'r cwrs Anrhydedd Cyfun yr ydych wedi gwneud cais amdano wedi'i restru, gallwch sefyll unrhyw bapur.

    • Hanes a Mathemateg: Mathemateg
    • Cymraeg / Hanes: Cymraeg (Iaith Fodern) neu Cymraeg (Iaith Gyntaf)



    Ieithoedd Modern

    Er bod ymgeiswyr i gyrsiau anrhydedd sengl yr Adran sydd yn astudio Almaeneg, Ffrangeg neu Sbaeneg hyd at lefel Safon Uwch, yn cael eu hannog i ystyried dewis un o'r papurau hyn, mae unrhyw bapur yn dderbyniol.

    Ar gyfer cyrsiau Anrhydedd Cyfun, gweler y gofynion papur isod. Os nad yw'r cwrs Anrhydedd Cyfun yr ydych wedi gwneud cais amdano wedi'i restru, gallwch sefyll unrhyw bapur.

    • Ieithoedd Modern / Mathemateg: Mathemateg

     

    Mathemateg

    Mae'r papur Mathemateg ar gael i’r holl ymgeiswyr Ysgoloriaethau. Er mwyn cael eu hystyried ar gyfer cynnig diamod a/neu wobr ariannol, rhaid i ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais i'r Adran Mathemateg sefyll papur arholiad perthnasol fel yr amlinellir isod:

    • Rhaid i ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais am y cyrsiau FG31 (Mathemateg / Ffiseg), F340 neu F341 (Ffiseg Mathemategol a Damcaniaethol), sefyll naill ai'r papur Mathemateg neu Ffiseg.
    • Rhaid i ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais am unrhyw gwrs arall sy'n cynnwys mathemateg* sefyll y papur Mathemateg.

    *y cyrsiau sy'n cynnwys mathemateg yw'r rhai a restrir yma: https://www.aber.ac.uk/cy/maths/study-with-us/undergrad/

    Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

    Er bod ymgeiswyr i gyrsiau anrhydedd sengl yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn cael eu hannog i ystyried dewis y papur Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, mae unrhyw bapur yn dderbyniol.

    Ar gyfer cyrsiau Anrhydedd Cyfun, gweler y gofynion papur isod. Os nad yw'r cwrs Anrhydedd Cyfun yr ydych wedi gwneud cais amdano wedi'i restru, gallwch sefyll unrhyw bapur.

    Seicoleg

    Dylai ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais am gwrs o fewn yr Adran Seicoleg ddewis papur arholiad fel yr amlinellir isod:

    • Seicoleg: Seicoleg
    • Seicoleg gyda Chwnsela: Seicoleg
    • Seicoleg gyda Seicoleg Fforensig ac Ymchwiliol: Seicoleg
    • Seicoleg a Chymdeithaseg: Seicoleg neu Gymdeithaseg

    Ar gyfer cyrsiau Anrhydedd Cyfun, gweler y gofynion papur isod:

    • Seicoleg a Busnes a Rheolaeth: Seicoleg neu Fusnes, Rheolaeth a Marchnata
    • Seicoleg a Throseddeg: Seicoleg neu Droseddeg
    • Seicoleg ac Addysg: Seicoleg neu Addysg
    • Seicoleg a Marchnata: Seicoleg neu Fusnes, Rheolaeth a Marchnata

    Y Gyfraith a Throseddeg

    Er bod ymgeiswyr anrhydedd sengl i Adran y Gyfraith a Throseddeg yn cael eu hannog i ystyried dewis papurau'r Gyfraith / Troseddeg, mae unrhyw bapur yn dderbyniol.

    Ar gyfer cyrsiau Anrhydedd Cyfun, gweler y gofynion papur isod. Os nad yw'r cwrs Anrhydedd Cyfun yr ydych wedi gwneud cais amdano wedi'i restru, gallwch sefyll unrhyw bapur.

    • Seicoleg a Throseddeg: Seicoleg neu Droseddeg
    • Troseddeg a Chymdeithaseg: Cymdeithaseg neu Droseddeg
    • Y Gyfraith a Cymraeg Proffesiynol: Cymraeg (Iaith Gyntaf)



    Y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

    Rhaid i ymgeiswyr sy'n astudio'r Gymraeg ddewis y papur Cymraeg perthnasol: Cymraeg (Iaith Gyntaf) ar gyfer siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf neu Cymraeg (Iaith Fodern) ar gyfer siaradwyr Cymraeg ail iaith.


    Mae croeso i ymgeiswyr Astudiaethau Celtaidd (C500) sefyll papur a gynigir gan adran arall.

    Ar gyfer cyrsiau Anrhydedd Cyfun, gweler y gofynion papur isod:

    • Cymraeg / Addysg: Cymraeg (Iaith Fodern) neu Cymraeg (Iaith Gyntaf)
    • Cymraeg / Daearyddiaeth: Cymraeg (Iaith Fodern) neu Cymraeg (Iaith Gyntaf)
    • Cymraeg / Hanes: Cymraeg (Iaith Fodern) neu Cymraeg (Iaith Gyntaf)
    • Cymraeg / Cysylltiadau Rhyngwladol: Cymraeg (Iaith Fodern) neu Cymraeg (Iaith Gyntaf)
    • Cymraeg / Mathematics: Mathemateg
    • Y Gyfraith a Chymraeg Proffesiynol: Cymraeg (Iaith Gyntaf)

    Ysgol Fusnes

    Er bod ymgeiswyr i’r Ysgol Fusnes yn cael eu hannog i ystyried dewis y papur ar gyfer y pwnc y maen nhw wedi gwneud cais ar ei gyfer, mae unrhyw bapur yn dderbyniol.

    Ar gyfer cyrsiau Anrhydedd Cyfun, gweler y gofynion papur isod. Os nad yw'r cwrs Anrhydedd Cyfun yr ydych wedi gwneud cais amdano wedi'i restru, gallwch sefyll unrhyw bapur.

    • Busnes a Rheolaeth a Chyfrifiadura: Cyfrifiadureg
    • Cyfrifeg a Chyllid a Chyfrifiadura: Cyfrifiadureg
    • Mathemateg / Cyfrifeg a Chyllid: Mathemateg
    • Mathemateg / Busnes a Rheolaeth: Mathemateg
    • Mathemateg / Economeg: Mathemateg
    • Seicoleg a Marchnata: Seicoleg neu Fusnes, Rheolaeth a Marchnata

    Ysgol Gwyddorau Milfeddygol Aberystwyth

    Mae ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais am y cwrs Nyrsio Milfeddygol D31F yn gymwys i sefyll yr arholiad ysgoloriaeth. Rhiad i ymgeiswyr Nyrsio Milfeddygol sefyll yr arholiad 'Bioleg 1: Moleciwlau i Organau’ i gael eu hystyried am wobr.

    Os bydd ymgeiswyr Nyrsio Milfeddygol yn llwyddo’r arholiad, bydd y cynnig amodol yn parhau nes i holl amodau’r cynnig gael eu bodloni. Gall hyn gynnwys tystiolaeth o brofiad gwaith pythefnos mewn practis milfeddygol, tystiolaeth o radd C neu uwch (neu gyfwerth) mewn TGAU Mathemateg a Saesneg/Cymraeg, a thystiolaeth o genedligrwydd y DU neu statws mewnfudo y DU.  

    Nid yw ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais am y cwrs BVCs Milfeddygaeth (YD105) yn gymwys i sefyll yr arholiad ysgoloriaeth. I gael gwybodaeth am yr ysgoloriaethau a’r bwrsariaethau sydd ar gael yn benodol ar gyfer y cwrs BVSc Milfeddygaeth (YD105), gweler ein tudalen we.