Trosolwg Pwnc
Mae'r dudalen hon wedi cael ei diweddaru ar gyfer mynediad 2027.
13/10/26
Addysg ac Astudiaethau Plentyndod
Bydd yr arholiad hwn yn cynnwys dewis o gwestiynau a fydd yn eich galluogi i drafod nifer o bynciau a safbwyntiau cyfredol neu ddamcaniaethol ynglŷn ag addysg neu blentyndod neu’r ddau. Bydd y papur yn profi dealltwriaeth gyffredinol yr ymgeisydd o faterion yn ymwneud â phlentyndod, ysgolion, addysg a datblygu. Bydd yn rhoi cyfleoedd i’r ymgeisydd ddangos dadleuon rhesymegol, ystyriol, sgiliau ysgrifennu traethodau perswadiol a’r gallu i ddadansoddi materion cyfredol. Bydd y cwestiynau yn ddigon cyffredinol i sicrhau bod cyfle cyfartal i’r holl ymgeiswyr waeth beth fo’u cefndir academaidd.
Almaeneg
Rhennir y papur yn ddwy adran:
- Darn o waith mewn Almaeneg i’w gyfieithu i’r Gymraeg neu’r Saesneg;
- Traethawd yn Almaeneg (uchafswm o 300 o eiriau) ar destun cyffredinol.
Os bydd ymgeisydd i’r Adran yn astudio Almaeneg ar lefel A byddem yn disgwyl iddynt sefyll yr arholiad ysgoloriaeth yn y pwnc hwnnw, oni bai eu bod wedi gwneud cais am Ieithoedd Modern / Mathemateg. Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y cwrs hwn sefyll y papur Mathemateg.
Ni cheir defnyddio geiriaduron Almaeneg yn yr arholiad hwn. Ni chaniateir i ymgeiswyr ddod ag unrhyw nodiadau i fewn i’r ystafell arholi.
Amaethyddiaeth
Disgwylir i ymgeiswyr ateb dau gwestiwn allan o ddewis o bedwar yn ystod yr arholiad 1.5 awr. Gall y cwestiynau brofi gwybodaeth ar draws ehangder y pynciau amaethyddol, gan gynnwys systemau cynhyrchu da byw, rheoli glaswelltir a phriddoedd, yr amgylchedd amaethyddol, busnes fferm a defnydd tir, a chynhyrchu âr. Gall cwestiynau gynnwys agweddau ar ddadansoddi a dehongli data, a datrys problemau.
Astudiaethau Ffilm a Theledu
Bydd yr ymgeiswyr yn cael cyfle i ysgrifennu dau draethawd ar bynciau a ddewisir o restr amrywiol o gwestiynau. Dylai’r ymgeiswyr bwyso a mesur yn feirniadol a defnyddio eu profiadau personol eu hunain – fel aelodau o’r gynulleidfa – i ateb cwestiynau a allai ganolbwyntio ar ddatblygiadau diweddar yn strwythur y byd darlledu, drama deledu, poblogrwydd operâu sebon ar y teledu, prif nodweddion gwahanol fathau o ffilm, neu werthusiad beirniadol o ffilm a welwyd yn ddiweddar. Byddai’n fanteisiol pe gallai’r ymgeiswyr ddangos diddordeb byw yn y ddau faes, os oes modd.
Ni chaiff yr ymgeiswyr ddod â thestunau i’r arholiad hwn.
Astudiaethau Gwybodaeth
Bydd y papur yn cynnwys cwestiynau sy'n canolbwyntio ar bob agwedd ar astudiaethau gwybodaeth, gan gynnwys rôl ac effaith gwybodaeth ar gymdeithas, yn enwedig effaith y rhyngrwyd, y cyfryngau cymdeithasol a'r byd digidol, astudiaethau llyfrgell ac archif, treftadaeth ddiwylliannol, trefnu a rheoli gwybodaeth. Ni ddisgwylir unrhyw wybodaeth arbenigol na thechnegol ond bydd gallu dangos ymgysylltiad â materion cyfoes, yn enwedig lle mae gwybodaeth yn cael effaith – e.e. 'newyddion ffug', sensoriaeth, preifatrwydd, cyfryngau electronig, yn fantais. Dyma rhai esiamplau o gwestiynau:
- A yw'r Rhyngrwyd yn fygythiad neu'n gyfle i lyfrgelloedd?
- Sut yr ydych yn cyfrif am y ffaith bod cyhoeddi llyfrau printiedig yn dal yn ddiwydiant llewyrchus ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain?
- Yn eich barn chi, beth yw rhai o brif oblygiadau defnyddio safleoedd 'rhwydweithio cymdeithasol' ar gyfer cyfathrebu a throsglwyddo gwybodaeth?
Bioleg 1: Moleciwlau i Organau / Bioleg 2: Organebau i Ecosystemau
Mae’r ymgeiswyr y cael dewis UN o'r ddau bapur Bioleg, yn dibynnu ar eu diddordebau. Yn y naill bapur a'r llall, bydd disgwyl i’r ymgeiswyr ysgrifennu traethodau mewn awr a hanner (1.5 awr) gan ddewis o ddetholiad o bynciau. Bydd y cwestiynau yn rhoi prawf ar eu gwybodaeth am anifeiliaid, planhigion neu ficro-organebau, ac yn darparu dewis o gwestiynau o faes llafur Safon Uwch Bioleg. Rhoddir marciau am eu sgiliau wrth lunio eu traethodau, ac am eu hymwybyddiaeth o ba mor bwysig yw bioleg i’r byd sydd ohoni heddiw. Ar ben y cwestiynau traethawd hyn, bydd disgwyl i'r ymgeiswyr ateb set o gwestiynau rhifiadol, a allai, er enghraifft, gynnwys dehongli graffiau.
Bydd 'Bioleg 1: Moleciwlau i Organau' (2 draethawd) yn ymwneud ag agweddau biocemegol, cellog a ffisiolegol. Bydd yn cwmpasu pob grŵp o organebau, ond fe ddylai ddarparu digon o gyfleoedd i’r ymgeiswyr hynny sydd wedi arbenigo mewn Bioleg Ddynol.
Bydd 'Bioleg 2: Organebau i Ecosystemau' (2 draethawd) yn ymwneud yn fwy ag organebau cyfan yn nhermau eu hecoleg, eu bioamrywiaeth, eu hesblygiad a’u hymddygiad. Bydd y papur hwn yn addas i’r rhai sy’n ymddiddori o bosib yn ein themâu gradd Sŵoleg, Bioleg y Môr a Dŵr Croyw, neu Ymddygiad Anifeiliaid.
Busnes, Rheolaeth a Marchnata
Chwe chwestiwn sydd yn yr arholiad, ac mae'n rhaid i ymgeiswyr ateb dau ohonynt ar ffurf traethawd. Mae’r cwestiynau'n ymdrin â rheoli sefydliadau busnes, gan gynnwys marchnata, cyfrifeg, rheoli adnoddau dynol, a moeseg busnes. Efallai y gofynnir i ymgeiswyr hefyd ystyried sut mae newidiadau mewn amgylchiadau cymdeithasol, cyfreithiol, economaidd, gwleidyddol a thechnolegol yn effeithio ar fusnesau.
Mae'r cwestiynau traethawd yn gofyn i’r ymgeiswyr ddangos ymwybyddiaeth am faterion busnes cyfoes a dangos bod ganddynt ddiddordeb mewn astudio am radd mewn rheolaeth, busnes neu farchnata.
Ceir defnyddio cyfrifianellau nad oes modd eu rhaglennu.
Celfyddyd Gain (Portffolio)
I’r arhliad hwn, mae'n ofynnol i chi GURADU portffolio digidol o waith celf gwreiddiol sy'n canolbwyntio ar un thema neu bwnc o'ch dewis chi. Cewch gyflwyno prosiect diweddar rydych chi wedi bod yn ei ddatblygu neu faes sydd o ddiddordeb i chi yn eich gwaith ers tro. Dyma rai themâu posib (nid yw’n rhestr gynhwysfawr): hunaniaeth, tirwedd, gwaith haniaethol, cymuned, lle, goleuni, cof, neu dreftadaeth.
Dylai’ch portffolio gynnwys:
- Teitl i’r prosiect
- Datganiad am y prosiect, heb fod yn fwy na 250 gair
- Hyd at 12 delwedd o waith celf
- Hyd at 15 sleid/tudalen
Dylai’ch datganiad am eich prosiect esbonio ffocws eich gwaith, pam rydych chi wedi dewis eich testun, a’r syniadau, y themâu, neu'r cwestiynau yr ymdriniwyd â nhw trwy'r prosiect, sut mae'r gwaith yn ymwneud â'ch ymarfer artistig yn ehangach, ac unrhyw ddylanwadau cyfoes, diwylliannol neu hanes celfyddydol perthnasol.
Rhaid i bob gwaith celf fod yn wreiddiol ac arno gapsiwn clir, gan gynnwys y Teitl, y Cyfrwng, y Dimensiynau, a'r Dyddiad. Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar y cyfrwng i’r arholiad hwn. Gellir cynnwys deunydd ategol, fel tudalennau llyfr braslunio, gwaith ymchwil, neu waith datblygu, lle bo'n berthnasol i'r prosiect.
Dylech gynnwys gwaith a gyflwynwyd eisoes yn rhan o'ch portffolio wrth gweud cais. Er hynny, dylai’ch eich portffolio ysgoloriaeth fod yn gorff cydlynol o waith ac iddo ffocws penodol sy'n ymdrin ag un thema neu bwnc, yn hytrach na detholiad cyffredinol o weithiau celf.
Argymhellwn eich bod yn creu’ch portffolio gan ddefnyddio PowerPoint (neu feddalwedd cyflwyno tebyg) ac allforio'r ddogfen derfynol ar ffurf PDF.
Cadwch eich ffeil gan ddefnyddio'r confensiwn enwi canlynol: CYFENW_ENWCYNTAF_GELFGAIN_PORTFFOLIO.pdf
Uwchlwythwch eich PDF i Blackboard Assignments erbyn diwedd dydd Mawrth, 2 Chwefror. Ni fydd gwaith a gyflwynir yn hwyr yn cael ei dderbyn.
Os ydych chi'n cael problemau technegol wrth uwchlwytho'ch portffolio i Blackboard, anfonwch eich portffolio mewn ebost i ysgoloriaethau@aber.ac.uk. Rhaid i'ch ebost ein cyrraedd erbyn 4:00pm ddydd Mawrth, 2 Chwefror, ac fe ddylai gynnwys eich enw llawn a’ch rhif adnabod UCAS.
Cemeg
Bydd disgwyl i fyfyrwyr ateb dau gwestiwn o ddewis o bedwar yn ystod yr arholiad awr a hanner. Fe all y cwestiynau brofi gwybodaeth ar draws maes cemeg ffisegol, anorganig, organig ac ymarferol.
Fe all y cwestiynau hefyd gynnwys dehongli data neu gemeg feintiol. Rhoddir cydnabyddiaeth i sgiliau mynegiant clir ac ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ehangach cemeg.
Bydd Tabl Cyfnodol yn cael ei gynnwys gyda’r papur arholiad. Caniateir defnyddio cyfrifiannell na ellir ei raglennu.
Cyfrifeg, Economeg a Chyllid
Bydd y papur wedi'i rannu'n dair rhan wedi'i ddiffinio'n eang, yn cwmpasu Cyfrifeg, Economeg a Chyllid.
Chwe chwestiwn sydd yn yr arholiad, ac mae'n rhaid i ymgeiswyr ateb dau ohonynt. Mae’r cwestiynau yn cwmpasu macroeconomeg a microeconomeg ac efallai y byddant yn ymdrin â materion economaidd cyfoes. Disgwylir i’r ymgeiswyr gymhwyso egwyddorion a damcaniaethau economaidd perthnasol i'r materion hyn mewn ffordd glir a rhesymegol.
Bydd y cwestiynau ar gyfrifeg a chyllid yn ymwneud ag un neu fwy o'r meysydd canlynol: cyfrifon cofnodi dwbl, paratoi datganiadau ariannol sylfaenol, a defnyddio a dehongli cymarebau ariannol. Bydd yr ymgeiswyr hefyd yn cael y cyfle i ateb cwestiwn cyfrifeg a chyllid a seilir ar waith cyfrifo.
Ceir defnyddio cyfrifianellau nad oes modd eu rhaglennu.
Cyfrifiadureg
Nod arholiad ysgoloriaeth Cyfrifiadureg yw asesu'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth gyffredinol y bydd yr ymgeiswyr wedi'u meithrin cyn dod i'r brifysgol, ym meysydd Cyfrifiadureg a Thechnoleg Gwybodaeth fel ei gilydd.
Bydd pynciau posib yr arholiad yn cynnwys rhaglennu a dylunio algorithmau, strwythurau data, pensaernïaeth gyfrifiadurol, systemau gweithredu, cronfeydd data, rhwydweithio, cynrychioli data ac uniondeb data, rhyngwynebau defnyddiwr, technolegau sy'n gysylltiedig â'r we a phynciau perthnasol eraill ym meysydd Cyfrifiadureg a Thechnoleg Gwybodaeth.
Mae’r cwestiynau wedi’u rhannu’n ddwy ran, sef:
Rhan A - sy’n cynnwys cwestiwn gorfodol yn ymwneud â phynciau sy'n gyffredin i Gyfrifiadureg a Thechnoleg Gwybodaeth.
Rhan B - sy’n cynnwys dau gwestiwn: ar bynciau Cyfrifiadureg yn bennaf y mae'r cyntaf yn canolbwyntio, ac ar bynciau Technoleg Gwybodaeth y mae’r ail yn canolbwyntio'n bennaf.
Rhaid i’r ymgeiswyr ateb y cwestiwn gorfodol yn Rhan A ac un cwestiwn o'u dewis nhw o Ran B. Bydd marciau’r arholiad yn cael ei seilio ar dealltwriaeth yr ymgeiswyr o'r pynciau, i ba raddau y medrant gymhwyso eu gwybodaeth, ac ar eglurder a safon eu hatebion ysgrifenedig.
Cymdeithaseg
Mae'r papur hwn yn addas i'r rhai sy'n gwneud cais i astudio ar gyrsiau L300 Cymdeithaseg, L700 Daearyddiaeth Ddynol, a graddau cyd-anrhydedd sy'n cynnwys cymdeithaseg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae'r cwestiynau wedi'u seilio'n fras ar faes llafur Safon Uwch Cymdeithaseg, ac yn canolbwyntio ar gymdeithas, newid cymdeithasol, amlddiwylliannedd a hunaniaeth. Bydd y papur yn cynnwys dewis o gwestiynau traethawd; dylai ymgeiswyr roi cynnig ar ddau ohonynt. Mae enghreifftiau o bapurau blaenorol ar gael yma.
Dylai'r rhai nad ydynt yn gwneud Safon Uwch mewn Cymdeithaseg na Daearyddiaeth gysylltu â'r tiwtor derbyn adrannol i weld beth fyddai’r dewis mwyaf addas: dgostaff@aber.ac.uk
Cymraeg (Iaith Fodern)
Os yw ymgeisydd yn bwriadu astudio cwrs gradd anrhydedd sengl/gyfun yn y Gymraeg, disgwylir iddynt sefyll yr arholiad Cymraeg perthnasol fel un o’u dewisiadau.
Mae’r papur yma i fyfyrwyr sydd wedi dysgu’r Gymraeg fel ail iaith; bydd angen iddynt ddarparu tystiolaeth o hyn gan eu hysgol/coleg.
Mair tair prif adran yn y papur:
- Darllen a Deall (=25%): Bydd ymgeiswyr yn ateb cyfres o gwestiynau sy'n seiliedig ar erthygl fer yn y Gymraeg.
- Cyfieithu (=25%): Bydd ymgeiswyr yn cyfieithu cyfres o frawddegau Saesneg i'r Gymraeg.
- Ysgrifennu (=50%): Gofynnir i ymgeiswyr ysgrifennu darn byr yn y Gymraeg ar bwnc penodol. Bydd dewis o bynciau yn cael eu cynnig.
Ni chaniateir defnyddio geiriaduron.
Cymraeg (Iaith Gyntaf)
Os yw'r ymgeiswyr yn bwriadu astudio cwrs gradd anrhydedd sengl/gyfun yn y Gymraeg, disgwylir iddynt sefyll yr arholiad Cymraeg perthnasol fel un o’u dewisiadau.
Rhennir y papur yn ddwy adran, sef Dadansoddi Llenyddiaeth a Defnyddio’r Iaith. Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr ateb un cwestiwn o bob adran.
Adran A: Dadansoddi Llenyddiaeth – Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr gyflwyno gwerthfawrogiad llenyddol o gerdd neu ddarn o ryddiaith mewn Cymraeg llenyddol graenus.
Adran B: Defnyddio’r Iaith – Rhoddir cyfle i’r ymgeiswyr ddangos eu gwybodaeth o’r iaith drwy gyfieithu darn o’r Saesneg i Gymraeg llenyddol safonol neu drwy ailysgrifennu darn o Gymraeg gwallus mewn Cymraeg llenyddol safonol ac esbonio rhai o’r gwallau. Nid oes gan ymgeiswyr hawl i ddod â thestunau na geiriaduron i’r arholiad hwn.
Daeareg a Gwyddor Daear Amgylcheddol
Mae'r arholiad hwn yn addas i fyfyrwyr sy'n gwneud cais am y rhaglenni gradd BSc 'Gwyddor yr Amgylchedd', 'Gwyddor Daear Amgylcheddol' a 'Daearyddiaeth Ffisegol' (a’r cyrsiau cysylltiedig – sy’n cynnwys blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn mewn cyflogaeth, neu flwyddyn sylfaen).
Bydd dewis o gwestiynau ar gael ac fe ddylid rhoi cynnig ar ddau ohonynt. Er y bydd y cynnwys yn seiliedig yn fras ar y maes llafur Safon Uwch, bydd y rhan fwyaf o’r cwestiynau yn chwilio am dystiolaeth o ddarllen a meddwl ehangach ynghylch y prosesau daearegol eu hunain a'r materion amgylcheddol sy'n gysylltiedig â hwy. Mae enghreifftiau o bapurau blaenorol ar gael yma.
Anogir yr ymgeiswyr i ehangu eu gwybodaeth ddaearegol trwy ddarllen erthyglau addas mewn cylchgronau a anelir at ddarllenwyr cyffredinol, megis New Scientist, Scientific American a Geology Today.
Daearyddiaeth Ddynol / Daearyddiaeth Ffisegol
Bydd y papur Ysgoloriaeth a ddewisir yn dibynnu ar arbenigedd y cwrs gradd y bwriedir ei gymryd yn yr Adran.
Caiff yr ymgeiswyr sydd am astudio am radd BSc gyfun mewn 'Daearyddiaeth' sefyll arholiad ysgoloriaeth naill ai mewn Daearyddiaeth Ddynol neu mewn Daearyddiaeth Ffisegol.
Argymhellir i’r rhai sy'n ystyried gwneud cais am y BA mewn 'Daearyddiaeth Ddynol' sefyll naill ai'r arholiad ysgoloriaeth 'Daearyddiaeth Ddynol' neu 'Gymdeithaseg'.
Argymhellir i’r rhai sy'n ystyried gwneud cais am y BSc mewn 'Daearyddiaeth Ffisegol' sefyll naill ai'r arholiad ysgoloriaeth 'Daearyddiaeth Ffisegol' neu 'Ddaeareg a Gwyddor Daear Amgylcheddol'.
Bydd y cwestiynau yn profi eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth am yr egwyddorion cyffredinol y mae'r rhan fwyaf o feysydd llafur Safon Uwch yn ymdrin â hwy.
Bydd y pynciau a gwmpasir yn gallu cynnwys tirffurfiau a phrosesau tirffurfio mewn amgylcheddau rhewlifol, arfordirol neu afonol, newid amgylcheddol byd-eang, rheoli ecosystemau, newid trefol a gwledig, datblygu rhanbarthol, ac anghydraddoldebau clefydau a gofodol.
Bydd y ddau bapur yn cynnwys dewis o gwestiynau traethawd. Dylai’r ymgeiswyr gwblhau dau gwestiwn.Mae enghreifftiau o bapurau blaenorol ar gael yma.
Ni chaniateir defnyddio atlas na chyfrifiannell.
Mae'r tiwtor derbyn adrannol yn fodlon rhoi cyngor ar ba bapurau Ysgoloriaeth fyddai’r rhai mwyaf priodol i bob ymgeisydd. Am ragor o fanylion, cysylltwch â: dgostaff@aber.ac.uk
Drama ac Astudiaethau Theatr
Bydd yr ymgeiswyr yn cael cyfle i ysgrifennu dau draethawd ar bynciau a ddewisir o restr amrywiol o gwestiynau. Gallai’r cwestiynau gynnwys ysgrifennu am ddrama ac ystyried rhai o’r heriau a’r anawsterau sy’n codi o lwyfannu cynhyrchiad o’r fath, pwyso a mesur sut y dysgir gwaith Shakespeare mewn ysgolion, cloriannu perfformiad a welwyd yn y theatr yn ddiweddar, neu ymwneud â chysyniadau megis mynegiadaeth neu abswrdiaeth. Wrth ateb cwestiynau o’r fath, dylai’r ymgeiswyr geisio dangos eu dealltwriaeth gyffredinol o’r theatr, gan wneud sylwadau gwreiddiol a chreu trafodaeth am y prif faterion sy’n llifo ac sydd wedi’i pharatoi’n dda.
Ni chaiff yr ymgeiswyr ddod â thestunau i’r arholiad hwn.
Ffiseg
Mae'r papur Ffiseg ar gael i’r holl ymgeiswyr Ysgoloriaethau. Er mwyn cael eu hystyried am gynnig diamod a/neu wobr ariannol, rhaid i’r ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais i'r Adran Ffiseg sefyll papur arholiad perthnasol yn unol â’r canllawiau isod:
- Rhaid i ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais am y cyrsiau FG31 (Mathemateg / Ffiseg), neu F340 neu F341 (Ffiseg Fathemategol a Damcaniaethol), sefyll naill ai'r papur Ffiseg neu Fathemateg.
- Rhaid i ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais am unrhyw gwrs arall sy'n cynnwys Ffiseg, Peirianneg neu Astroffiseg* sefyll y papur Ffiseg.
*y cyrsiau sy'n cynnwys Ffiseg yw'r rhai a restrir yn https://www.aber.ac.uk/cy/phys/study-with-us/undergrad/.
Mae'r papur Ffiseg wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sy'n mwynhau mathemateg, ffiseg, peirianneg a datrys problemau.
Bydd y papur yn ymdrin â chwestiynau ar fathemateg a ffiseg fel ei gilydd. Bydd y cwestiynau mathemateg yn canolbwyntio ar dechnegau a ddefnyddir yn gyffredin mewn ffiseg a pheirianneg (er enghraifft, algebra, calcwlws, a rhifau cymhlyg). Mae'r cwestiynau ffiseg yn canolbwyntio ar bynciau fel mecaneg, electrostateg, cylchedau, opteg, a thermodynameg.
Bydd cwestiynau yn profi eich gallu wrth gymhwyso technegau cyfarwydd i ddatrys problemau a rhesymu’n fathemategol.
Bydd yr holl wybodaeth sydd ei hangen i ateb y cwestiynau ffiseg yn cael ei darparu ar y papur. Cewch ddefnyddio llyfrynau fformiwlâu/data a gymeradwywyd at ddefnydd Safon Uwch a chyfrifiannell, ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â rheoliadau eich bwrdd arholi.
Ffrangeg
Bydd y papur Ffrangeg yn cynnwys dau gwestiwn gorfodol, a bydd y ddau gwestiwn yn cael eu gofyn a’u hateb yn Ffrangeg:
- traethawd (o leiaf 200 ond dim mwy na 250 gair),
- sylwebaeth yn Ffrangeg ar destun Ffrangeg (o leiaf 200 ond dim mwy na 250 gair).
Mae’n rhaid i’r ymgeiswyr ateb y ddau gwestiwn, sy’n werth yr un faint o farciau.
Os bydd ymgeisydd i’r Adran yn astudio Ffrangeg ar gyfer Safon Uwch, byddem yn disgwyl iddynt sefyll yr arholiad ysgoloriaeth yn y pwnc hwnnw, oni bai eu bod wedi gwneud cais am Ffrangeg / Mathemateg neu Ieithoedd Modern / Mathemateg. Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y cyrsiau hyn sefyll y papur Mathemateg.
Ni cheir defnyddio geiriaduron Ffrangeg yn yr arholiad hwn. Ni chaniateir i ymgeiswyr ddod ag unrhyw nodiadau i fewn i’r ystafell arholi.
Gwleidyddiaeth / Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Bydd y papurau Gwleidyddiaeth a Gwleidyddiaeth Ryngwladol ill dau yn cynnwys deg cwestiwn traethawd, a dylai’r ymgeiswyr ateb dau gwestiwn.
Noder na fydd y papurau wedi eu seilio ar faes llafur y cwrs Gwleidyddiaeth Safon Uwch, a byddant yn addas i unrhyw fyfyriwr sydd â diddordeb arbennig mewn materion gwleidyddol/gwleidyddiaeth ryngwladol. Mae’r cwestiynau wedi’u cynllunio i’ch galluogi i fynegi barn bersonol sy’n seiliedig ar wybodaeth o faterion gwleidyddol diweddar, digwyddiadau rhyngwladol a heriau byd-eang. Rydym yn chwilio am safbwyntiau diddorol a dadleuon darbwyllol sydd wedi’u seilio ar wybodaeth dda.
Mae’r pynciau yr ymdriniwyd â hwy’n ddiweddar yn cynnwys materion megis: argyfwng y ffoaduriaid, rôl fyd-eang Tsieina, anghydraddoldeb byd-eang, amlhad arfau niwclear, rhywedd a gwleidyddiaeth, gwleidyddiaeth y DU a datganoli, newid yn yr hinsawdd, arweinyddiaeth fyd-eang yn yr Unol Daleithiau, terfysgaeth, dyfodol yr UE, y rhyngrwyd a gwleidyddiaeth, amlddiwylliannaeth.
I gael rhagor o fanylion, cysylltwch ag: interpol@aber.ac.uk.
Gwyddor Anifeiliaid a Cheffylau
Bydd yr arholiad hwn yn profi gwybodaeth yr ymgeisydd wrth geisio deall prif systemau’r corff mewn bioleg famalaidd, yn arbennig eu cymhwysiad i anifeiliaid domestig gan gynnwys y ceffyl, anifeiliaid fferm ac anifeiliaid cymar.
Bydd angen i’r ymgeiswyr ddangos dealltwriaeth o brif systemau biogemegol y corff mamalaidd, dealltwriaeth ynghylch geneteg Fendelaidd, a gwerthfawrogiad o’r materion biolegol sy’n effeithio ar iechyd a lles anifeiliaid domestig.
Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Gofynnir i ymgeiswyr ysgrifennu dau draethawd, gan ddewis o chwe phwnc ym maes Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Ni fydd y pynciau’n deillio’n uniongyrchol o feysydd llafur Safon Uwch. Ni chaniateir geiriaduron, cyfrifiannellau na gwerslyfrau ychwanegol. Argymhellir y dylai ymgeiswyr sy’n gwneud cais i astudio gradd gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff sefyll yr arholiad Ysgoloriaeth gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff.
Bydd y traethodau yn profi gwybodaeth yr ymgeiswyr am fiofecaneg, ffisioleg a seicoleg, yn ogystal â’u gallu i ddefnyddio’r wybodaeth honno wrth ddadansoddi enghreifftiau ymarferol o fyd chwaraeon ac ymarfer corff.
Anogir yr ymgeiswyr i dynnu ar eu profiadau personol neu faterion cyfoes a dangos dull beirniadol a dadansoddol yn eu hatebion.
Hanes
Bydd y papur Hanes yn cynnwys rhyw 30 cwestiwn, wedi’i rannu’n ddwy ran. Bydd yr ymgeiswyr yn ateb un cwestiwn o Ran A ac un cwestiwn o Ran B.
Bydd Rhan A yn ymwneud â chwestiynau am gysyniadau a methodoleg hanesyddol yn gyffredinol. Mae'r adran hon yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddangos eu bod yn gallu ymdrin â heriau ehangach astudiaethau hanesyddol mewn modd gwybodus a systematig. Cynghorir yr ymgeiswyr y dylai eu hatebion ddangos ôl meddwl difrifol ac eang, a chynnwys enghreifftiau perthnasol o’u gwybodaeth hanesyddol.
Bydd Rhan B yn cynnwys ystod eang o gwestiynau yn amrywio o'r cyfnod canoloesol cynnar hyd heddiw, wedi'u trefnu yn gronolegol. Bydd ffocws daearyddol y cwestiynau hyn yn amrywio. Bydd rhai cwestiynau yn caniatáu i ymgeiswyr ddefnyddio tystiolaeth o unrhyw ardal ddaearyddol, ond bydd cwestiynau penodol ar Brydain, yr Almaen, Gogledd Ewrop, Dwyrain Ewrop, yr Unol Daleithiau, Tsieina, a Japan.
Mae'r ysgrifennydd ysgoloriaethau adrannol yn fodlon rhoi cyngor ar ba bapurau fyddai’r rhai mwyaf priodol i bob ymgeisydd (ebost: history-enquiries@aber.ac.uk).
Hanes Celf
Mae'r papur hwn yn eich galluogi i ysgrifennu am rai o'r cwestiynau mawr a ofynnir gan gelf a'i hanesion. Gofynnir i chi ystyried cwestiynau fel 'A yw ffotograffau yn gelf?', 'A ddylai celfyddyd gael neges wleidyddol?', 'Pwy ddylai fod yn berchen ar gelfyddyd?' mewn perthynas ag enghreifftiau penodol o waith celf. Does dim rhaid i chi fod wedi astudio Hanes Celf o'r blaen, ond dylech allu dangos diddordeb ac ymwybyddiaeth o gelf a'i hanesion: efallai yr hoffech ysgrifennu am arddangosfeydd rydych chi wedi ymweld â nhw'n ddiweddar, neu lyfrau rydych chi wedi'u darllen yn ddiweddar. Byddwch yn ateb dau gwestiwn mewn 90 munud.
Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Bydd dwy rhan i'r papur arholiad a bydd gan bob adran ddwy dasg, un sy'n canolbwyntio ar Lenyddiaeth Saesneg ac un sy'n canolbwyntio ar Ysgrifennu Creadigol. Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gwblhau un dasg ym mhob rhan, ac rydych chi’n rhydd i wneud dwy dasg feirniadol, neu ddwy dasg greadigol, neu un o bob un.
Rhan A Bydd rhan A yn cynnwys cerdd a bydd ymgeiswyr naill ai’n ysgrifennu darlleniad manwl o'r gerdd, gan wneud sylwadau ar themâu, iaith, arddull a/neu strwythur y gerdd NEU yn llunio ymateb creadigol i'r gerdd (mewn barddoniaeth neu ryddiaith) sy'n talu sylw manwl i themâu, iaith, arddull, a/neu strwythur y testun ffynhonnell.
Rhan B Bydd rhan B yn cynnwys rhestr o themâu. Bydd ymgeiswyr naill ai’n ysgrifennu traethawd mewn ymateb i un o'r themâu a awgrymwyd, a bydd yn rhaid i chi ddangos ymdriniaeth feirniadol o ddau destun o'ch dewis chi (gall y rhain fod yn destunau a astudiwyd neu a ddarllenwyd y tu allan i'r cwricwlwm) NEU gallwch ysgrifennu stori fer yn seiliedig ar un o'r themâu, ynghyd â darn byr o sylwebaeth ar y stori.
Yn dibynnu ar y dasg, rydym yn chwilio am dystiolaeth o bethau megis darllen gofalus, dawn feirniadol, sgiliau ysgrifennu da, ac agwedd llawn dychymyg.
Ni chaniateir i ymgeiswyr ddod ag unrhyw destunau i'r arholiad hwn.
Dyfernir un marc am y papur yn ei gyfanrwydd.
Mathemateg
Mae'r papur Mathemateg ar gael i’r holl ymgeiswyr Ysgoloriaethau. Er mwyn cael eu hystyried ar gyfer cynnig diamod a/neu wobr ariannol, rhaid i ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais i'r Adran Mathemateg sefyll papur arholiad perthnasol fel yr amlinellir isod:
- Rhaid i ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais am y cyrsiau FG31 (Mathemateg / Ffiseg), F340 neu F341 (Ffiseg Fathemategol a Damcaniaethol), sefyll naill ai'r papur Mathemateg neu Ffiseg.
- Rhaid i ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais am unrhyw gwrs arall sy'n cynnwys mathemateg* sefyll y papur Mathemateg.
*y cyrsiau sy'n cynnwys mathemateg yw'r rhai a restrir yma: https://www.aber.ac.uk/cy/maths/study-with-us/undergrad/
Bydd dwy ran i’r papur Ysgoloriaeth Mathemateg: Rhan A, sy'n cynnwys cwestiynau cymharol fyr ar Fathemateg Bur; a Rhan B, sy'n cynnwys cwestiynau hirach ar Fathemateg Bur, Mecaneg ac Ystadegaeth, ac fe fydd pwysau cyfartal yn cael ei roi i bob un o'r tri maes hyn. Bydd disgwyl i ymgeiswyr ateb yr holl gwestiynau yn Rhan A a dau gwestiwn o Ran B o fewn yr amser a neilltuwyd, sef 1.5 awr.
Tybir bod ymgeiswyr yn gyfarwydd â’r pynciau sydd i’w cael ym manylebau Safon Uwch Mathemateg; er hynny, gall arddull y cwestiynau fod yn wahanol i'r rhai a geir mewn papurau Safon Uwch. Bydd yr ystod o gwestiynau yn ddigon eang fel y caiff yr ymgeiswyr bob cyfle i sgorio'n uchel, ni waeth ym mha drefn y cyflwynir y pynciau iddynt yn yr ysgol neu’r coleg. Argymhellir yn gryf bod ymgeiswyr yn paratoi am yr arholiad trwy ddatrys y problemau ar bapurau blaenorol, sydd ar gael yma.
Sylwer y bydd yr arholiad Mathemateg yn cael eu gwneud ar bapur llinellau, yn hytrach na chyfrifiadur. Os oes angen unrhyw bapur arbennig, fel papur graff, bydd hynny’n cael ei nodi'n glir ar y papur arholiad. Bydd disgwyl i'r holl atebion gael eu cynnwys ar y taflenni ateb, wedi'u sganio i un ffeil PDF, gan gynnwys brasluniau o ddiagramau a graffiau. Dylid cyflwyno'r ffeil PDF drwy ddefnyddio Blackboard Assignments. Cynghorir yr ymgeiswyr i edrych ar y canllawiau ychwanegol ar sut i gyflwyno eu papur.
Caiff yr ymgeiswyr ddod mewn i’r arholiad ag unrhyw lyfrynnau gwybodaeth neu dablau ystadegol a gymeradwywyd gan eu bwrdd arholi Safon Uwch i'w defnyddio mewn arholiadau. Caniateir i ymgeiswyr ddefnyddio cyfrifianellau, ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â rheoliadau'r bwrdd arholi Safon Uwch.
Sbaeneg
Bydd DWY adran i’r papur Sbaeneg:
- Darn yn Gymraeg neu Saesneg i’w gyfieithu i Sbaeneg (tua 250 gair)
- Traethawd i’w gyfansoddi yn Sbaeneg ar destun cyffredinol (250-300 gair)
Disgwylir i ymgeiswyr ddefnyddio amrywiaeth eang o gystrawennau, amserau berf, a geirfa yn yr ymarfer cyfansoddi (adran y traethawd).
Os yw ymgeiswyr i’r Adran yn astudio Sbaeneg i Safon Uwch byddem yn disgwyl iddynt sefyll yr arholiad ysgoloriaeth Sbaeneg, oni bai eu bod wedi gwneud cais am Ieithoedd Modern / Mathemateg. Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y cwrs hwn sefyll y papur Mathemateg.
Ni chaniateir i fyfyrwyr ddefnyddio geiriaduron na deunydd ysgrifenedig arall i’w cynorthwyo i ateb y papur.
Pwysig: Mae fformat newydd i arholiad Sbaeneg yr Ysgoloriaethau ar gyfer 2019.
Seicoleg
Bydd y cwestiynau ar y papur yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ddangos eu dealltwriaeth o seicoleg a’r trafodaethau sy’n gysylltiedig â’r maes. Amcanion y papur yw:
- Asesir dirnadaeth ymgeiswyr ym mhwnc seicoleg a/neu eu gallu i archwilio a thrafod rhai o’r materion cyffredinol sy’n ymwneud â seicoleg. Mae hyn yn cynnwys materion cysylltiedig â chynllun ymchwil a moeseg ymchwil.
- Profi gallu’r ymgeiswyr i ysgrifennu traethodau, i ganfod y dadleuon a dangos eu sgiliau dadansoddi.
Mae dwy adran i’r papur. Yn Adran A (40% o gyfanswm marc yr arholiad), bydd gan ymgeiswyr ddewis o ddau gwestiwn traethawd ar bynciau cynllun ymchwil a moeseg ymchwil, a rhaid iddynt ateb un ohonynt. Yn Adran B (60% o gyfanswm marc yr arholiad), bydd gan ymgeiswyr ddewis o bedwar cwestiwn traethawd ar bynciau cyfoes ym maes seicoleg, a rhaid iddynt ateb un ohonynt. Cynlluniwyd y papur i asesu addewid yr ymgeiswyr ar gyfer astudio seicoleg ar lefel israddedig a gellir eu hateb gan ymgeiswyr sy’n cymryd y pwnc i’w harholiadau Safon Uwch a rhai sydd â diddordeb gwirioneddol yn y maes ond dim gwybodaeth uniongyrchol yn y pwnc.
Troseddeg
Bydd disgwyl i ymgeiswyr ateb tri chwestiwn o bapur sy’n cynnwys saith cwestiwn.
Bydd y papur yn profi sgiliau’r ymgeiswyr o ysgrifennu traethawd, dadansoddi a dadlau. Pan fo’n briodol, anogir yr ymgeiswyr i fynegi eu barn bersonol gan ddangos gwybodaeth am y materion diweddaraf yn y maes hwn. Bydd y cwestiynau ar y papur yn ddigon cyffredinol, felly ni fydd unrhyw ymgeisydd o dan anfantais os nad ydynt wedi astudio Troseddeg neu os ydynt wedi dilyn maes llafur penodol mewn Troseddeg.
Y Gyfraith
Mae gan y papur dair adran. Ar gyfer Adran A, bydd angen i’r ymgeiswyr ysgrifennu traethawd ar bwnc cyffredinol sy’n ymwneud â’r gyfraith a chyfiawnder, sef dewis un o dri o gwestiynau. Mae Adran B yn cynnwys un cwestiwn gorfodol, a bydd angen i’r ymgeisydd gymhwyso rheol gyfreithiol (a ddarperir ar y papur) i nifer o wahanol sefyllfaoedd ffeithiol. Mae Adran C hefyd yn cynnwys un cwestiwn gorfodol, a fydd yn gofyn i ymgeiswyr ddarllen dyfyniad sy’n gysylltiedig â’r gyfraith o ffynhonnell allanol, i roi sylwadau ar gynnwys y dyfyniad a’i werthuso, ac i roi dadansoddiad cyffredinol o’r testun.
Bydd y papur yn profi sgiliau’r ymgeiswyr o ran ysgrifennu traethawd, sgiliau ieithyddol, dadansoddi, rhesymu a dadlau. Lle’n berthnasol, anogir yr ymgeiswyr i fynegi eu barn bersonol gan ddangos gwybodaeth am y materion diweddar yn y maes hwn. Bydd y cwestiynau ar y papur yn ddigon cyffredinol, felly ni fydd unrhyw ymgeisydd o dan anfantais os nad ydynt wedi astudio’r Gyfraith neu os ydynt wedi dilyn maes llafur penodol yn y Gyfraith.
