Cyn i chi ymgeisio

Mae’n siŵr bod gennych nifer o gwestiynau am yr hyn sydd angen i chi wybod cyn i chi ymgeisio am le mewn prifysgol.
Yn y tudalennau yma gobeithiwn cewch atebion i’ch cwestiynau, a gwybodaeth ddefnyddiol bydd o fudd wrth i chi wneud eich penderfyniad.
Byddwn yn trafod materion fel: pam mynd i brifysgol, pam astudio yn Aberystwyth, ein cyrsiau, sut i ymweld â ni, ein llety, ffioedd a chyllid, ysgoloriaethau, astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a llawer mwy.
Gallwch hefyd Lawrlwytho ein Prosbectws, a fydd yn cynnwys gwybodaeth bellach ar y pynciau uchod.