Canllaw astudio y Dyniaethau

Man painting on an easel surrounded by artwork

Mae’r dudalen hon yn amlinellu’r cyfleusterau a’r adnoddau ar gyfer y Dyniaethau. Gellir ymgymryd â rhain gan ddefnyddio Prifysgol Aberystwyth fel canolfan i waith TGAU, Lefel A ac Israddedig.

Mae arbenigwyr lleol ar gael i gynghori trefnwyr sydd yn newydd i ardal Aberystwyth, i’r cyfleusterau a’r adnoddau.

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Gan gynnwys neuadd gyngerdd, theatr, sinema, nifer o orielau a gofodau dysgu creadigol, mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn lle perffaith i fyfyrwyr Celf a Drama. Gellir trefnu teithiau cefn llwyfan a sgyrsiau addysgol. Ceir mwy o wybodaeth fan hyn: https://www.aberystwythartscentre.co.uk/.

 

Adran Academaidd

1. Yr Ysgol Celf

 

Mae Ysgol Gelf Aberystwyth yn Amgueddfa Achrededig sy’n cynnal ei Horielau ei hun a chasgliad o 20,000 o eitemau. Mae’r casgliad cerameg yn rhyngwladol bwysig ac yn cynnwys 1,600 o eitemau. Caiff yr arddangosfeydd eu diweddaru yn rheolaidd. Gellir trefnu teithiau o’r Ysgol Gelf, y cyfleusterau a’r orielau ynghyd â threfnu gweithdai a sgyrsiau am y casgliad a’r arddangosfeydd. Ceir mwy o wybodaeth fan hyn: https://www.aber.ac.uk/en/art/.

2. Adran Hanes a Hanes Cymru

 

Mae arbenigwyr o’r radd flaenaf yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru ar gael i gefnogi eich taith addysgol.

3. Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

 

Mae arbenigwyr o’r radd flaenaf yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ar gael i gefnogi eich taith addysgol. Gellir gwneud cais i ddefnyddio’r stiwdio a’r cyfarpar.

 

 

 

 

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Lleolir Llyfrgell Genedlaethol Cymru nesaf at Brifysgol Aberystwyth. Yn ogystal â’i horielau a’i harchif anferth, mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn cynnig gwasanaeth addysg gan ddarparu adnoddau a gweithdai i Hanes a Celf, neu gellir trefnu gweithdy wedi ei deilwra i’ch anghenion chi. Gellir cynnal rhain yn Gymraeg, yn Saesneg neu yn Ddwyieithog. Ceir mwy o wybodaeth fan hyn: https://www.llyfrgell.cymru/.

 

Llyfrgell Hugh Owen

Mae gan prif lyfrgell y Brifysgol amrywiaeth eang o lyfrau a chyhoeddiadau, a chasgliadau arbennig ar gyfer y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, cyhoeddiadau Swyddogol ac Ystadegol, a Chasgliadau Prin ac Arbennig.