Prifysgol Aberystwyth
Chwilio am Gwrs
Digwyddiadau i ddod
Astudio gyda Ni
Mae ymchwil arloesol y Brifysgol yn bwydo’n syth i’n gwaith dysgu, gan gyfoethogi ein cyrsiau a chreu profiad dysgu heb ei ail, gan eich helpu i feithrin sgiliau a datrys problemau go iawn.
Astudiaethau Israddedig:
Astudiaethau
Ôl-raddedig:
Opsiynau Astudio Eraill
Ymchwil yn Aberystwyth
Mae ymchwil Aberystwyth yn helpu i newid y byd er gwell, drwy wneud gwahaniaeth i fywydau go iawn. Rydym yn ymdrin â rhai o heriau mwyaf taer cymdeithas, gan gynnwys newid hinsawdd, iechyd byd-eang, newidiadau cymdeithasol, ac archwilio’r gofod.
Darganfyddwch Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi’i lleoli ar arfordir y gorllewin, rhwng Mynyddoedd y Cambria a Bae Ceredigion. Mae’r gymuned yn amrywiol a chroesawgar o fewn tref farchnad hanesyddol ar lan y môr sydd â diwylliant Cymreig cosmopolitan. Gyda chymaint i’w gynnig, bydd gennych ddigonedd o ddewis.
Newyddion
Gweld y newyddion yn llawnDatgelu bywydau nosol adar y môr drwy waith celf ac arddangosfa newydd
Bydd bywydau nosol adar drycin Manaw sy'n bridio ar ynysoedd oddi ar arfordir gorllewinol Prydain i'w gweld mewn arddangosfa newydd diolch i waith dan arweiniad academydd o Aberystwyth.
Arbenigwyr TB yn galw am ailwampio'r strategaeth ar gyfer brechu moch daear yng Nghymru
Mae gwyddonwyr yn galw am ymagwedd wedi’i thargedu ac sydd wedi'i harwain gan dystiolaeth ar gyfer brechu moch daear yng Nghymru, gan rybuddio bod bylchau sylweddol mewn gwybodaeth yn cyfyngu ar ei rôl yn y frwydr yn erbyn twbercwlosis buchol.
Datblygu cymdeithion DA wedi’u personoli – astudiaeth newydd
Potensial cynorthwywyr personol Deallusrwydd Artiffisial (DA) i ddod yn rhan reolaidd o fywydau beunyddiol pobl fydd testun astudiaeth newydd bwysig ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Gwahardd yr wrthblaid, mynd ar daith wrando: Mae Putin yn poeni am yr etholiad sydd i ddod
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Jenny Mathers yn esbonio sut mae'n ymddangos bod y gostyngiad mewn cefnogaeth gyhoeddus i'r rhyfel ac i Putin ei hun wedi gadael arweinydd Rwsia yn fwyfwy anesmwyth.
