Datganiad Hygyrchedd Technegol

Gwybodaeth Dechnegol am hygyrchedd yr apiau hyn

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i wneud ei apiau yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sectorau Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r apiau hyn yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.1, oherwydd y rhannau a restrir isod nad ydynt yn cydymffurfio.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod ar gael am y rhesymau canlynol.

Achosion o beidio â chydymffurfio â’r rheoliadau Hygyrchedd

Ar rai dyfeisiau (Android), nid oes modd darllen rhywfaint o'r testun yn yr apiau gyda darllenydd sgrin. Golyga hyn na fydd defnyddwyr sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol yn gallu cael mynediad i'r wybodaeth hon. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1.

Nid oes gan rai tudalennau yn yr apiau gyferbyniad digonol rhwng lliw'r testun a lliw'r cefndir. Golyga hyn fod y testun yn anodd ei ddarllen i ddefnyddwyr sydd â nam ar eu golwg.  Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.3 (Cyferbynnedd (Lleiaf)) CHCG 2.1.

Nid oes enwau gan rai botymau yn yr apiau. Golyga hyn nad yw defnyddwyr sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol yn gwybod beth mae pob un o'r botymau yn ei wneud. Golyga hyn hefyd na fydd defnyddwyr sy'n defnyddio lleferydd i destun yn gallu cael mynediad iddynt. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.4 (Pwrpas Dolen (Mewn Cyd-destun)) CHCG 2.1 na maen prawf llwyddo 2.5.3 (Labelu Enw) CHCG 2.1.

Nid yw'r ieithoedd gwahanol a ddefnyddir yn yr apiau wedi'u marcio â'r iaith briodol. Golyga hyn, pan fydd defnyddwyr yn defnyddio darllenydd sgrin i ddarllen y sgrin, na fydd yn ynganu'r ddwy iaith yn gywir. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 3.1.2 (Ieithoedd Rhannau) CHCG 2.1.

Ar rai rhannau o'r apiau, mae sain yn chwarae pan fydd defnyddiwr yn ysgogi botwm sy'n eu symud i'r sgrin nesaf. Golyga hyn, os yw defnyddwyr yn defnyddio darllenydd sgrin, y bydd y sain yn amharu ar beth mae'r darllenydd sgrin yn ei ddweud. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.2 (Rheoli Sain) CHCG 2.1.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Byddwn yn gwella’r cyferbyniad lliw ac yn ymchwilio i ddulliau o wella'r apiau mewn ardaloedd eraill.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 10 Mehefin 2021. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 14 Mehefin 2021.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 10 Mehefin 2021. Cynhaliwyd y prawf yn fewnol gan ddefnyddio cyfuniad o brofion â llaw ac awtomataidd.